Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ecclesiasticus 11

11
PEN. XI.
Am ostyngeiddrwydd ac iawn farn. 14 Bod Duw yn Awdur pob peth. 30 Nid yw pawb iw ddwyn i dy vn
1Doethineb y gostyngedig #Gen.41.40.|GEN 41:40. Dan.6.3.a dderchaiff ei ben ef, ac ai gesyd ef ym mysc pendefigion.
2Na chanmol ŵr wrth ei brŷd, ac na ffieiddia ef wrth yr olwg arno ef.
3Bechan ym mysc yr ehediaid yw ’r wenynen, a phen melysdra yw ei ffrwyth hi.
4Na orfoledda o herwydd gwisc o oddillad, ac #Act.12.21.na ymdderchaf yn amser anrhydedd: o blegit rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, ai weithredoedd ef ydynt ddirgel i ddynion.
5Llawer teyrn a eisteddasant a’r lawr, #1.Sam.15.28. Esther.6.10.ar hwn ni thybie dŷn a ddug y goron.
6Llawer cadarn a amharchwyd yn ddirfawr, a’r anrhydeddus a roddwyd i feddiant eraill.
7 # Deut.13.14. & 17.6. Ios.7.22.|JOS 7:22. Dihar.18.13. Nac achwyn cyn chwilio [y peth,] myn ŵybod yn gyntaf ac yna beia.
8Na farna cyn clywed, ac na fwrw air ym mysc ymadroddion [rhai eraill.]
9Nac ymryson am y peth nid yw [yn perthyn] iti, ac na chydeistedd ym marn pechaduriaid.
10[Fy] mab na fydded dy waith ar lawer o bethau: #Matt.19 22.|MAT 19:22. 1.Tim.6.9.o herwydd os trin i lawer peth ni byddi difai, os dilyni ni oddiweddi, ac os ffoi ni ddiengi.
11Y #Dihar.10.3.mae a lafuria ac a boena ac a fryssia, ac o hynny y mae yn fwy ei eisieu ef.
12Y mae [vn] anniben ac arno #Iob.42.10.eisieu help, yn fychan ei nerth, ac yn fawr ei dlodi, a golwg yr Arglwydd a edrychodd arno ef er daioni, ac ai derchafodd ef oi waeldra.
13Ac efe a dderchafodd ei ben ef o drueni, a llawer pan welsant a fu ryfedd ganddynt oi blegit ef.
14 # Iob. 1.21.|JOB 1:21. zec.28.4. Da a drwg, ennioes ac angen, tlodi a chyfoeth oddi wrth yr Arglwydd y maent hwy.
15Oddi wrth yr Arglwydd y mae doethineb a chyfarwyddyd a gwybodaeth cyfraith: oddi wrtho ef y mae cariad a ffyrdd gwerthredoedd da
16Cyfeiliorni a thywyllwch a gŷd grewyd â phechaduriaid, a drygioni a heneiddia yn y rhai sy yn gorfoleddu mewn drygioni.
17Rhodd yr Arglwydd a beru i’r rhai du­wiol, ai ewyllys da ef a ffynna byth.
18Y mae [dŷn] yn cyfoethogi trwy ei galli­neb ai gynhilwch, ac dyna ei rann ef oi gyflog am iddo ddywedyd,
19 # Luc.12.15. Mi a gefais esmwythdra, ac yn awr mi a fwytâf o’m da bôb amser: ac ni’s gŵyr efe pa amser a aiff heibio iddo ef, ac y gedu efe hwynt i arall, ac y bydd efe marw.
20Saf di yn dy gyfammod, ac ymddiddan yn hwnnw, a heneiddia yn dy waith.
21Na fydded rhyfedd gennit am waith pechadur, creda i’r Arglwydd, ac aros yn dy boen.
22O blegit hawdd yw yng-olwg yr Arglwydd yn ddisymmwth ddiattreg gyfoethogi y tlawd.
23Bendith yr Arglwydd sydd yn gyflog i’r duwiol, ac mewn awr fuan y gwna efe iw fendith ef darddu.
24Na ddywer, pa rhaid i mi ryngu bodd: a pha ddaioni sydd i mi bellach:
25Na ddywet y mae gennif fi ddigon, ac y mae gennif lawer, a pha niwed a gâf fi yn [fy] mywyd bellach?
26 # Pen.18.24. Yn amser daioni yr ydys yn gollwng drygioni dros gof, ac yn amser drygioni nid ydys yn coffau daioni.
27Am fod yn hawdd o flaen yr Arglwydd dalu i ddŷn, yn ei ddydd diwedd yn ôl ei weithredoedd.
28Cystudd awr a wna anghofio daintethion, a dadcuddiad ei weithredoedd a bair ddiwedd dŷn.
29Na chyfryf neb yn ddedwydd cyn marw, ac wrth ei blant yr adweinir gŵr.
30Na ddŵg bôb dŷn i’th dŷ, o herwydd aml yw cynllwyn diafol.
31Fel pettris wedi ei dal mewn ogof, felly y mae calon y balch: ac fel gwiliedudd yn dringo i le y caffo efe gwymp.
32O blegit y mae efe yn cynllwyn gan droi y da yn ddrwg, ac efe a esyd fai yn erbyn y rhai etholedig.
33O wreichionē fechan y daw llawer o farwor, a dŷn pechadurus a gynllwyn am waed.
34Gochel ddryg-ddŷn (o blegit drygioni y mae efe yn ei lunio) rhag iddo roddi arnat ti anaf byth.
35Derbyn ddieithr-ddŷn i dŷ, ac efe a’th dralloda di â blinder, ac a’th yrr di o’r eiddot dy hun,

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda