Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 9

9
PEN. IX.
Serch sanct Paul ar wyr ei wlad. 11 Y mod y mae Duw yn dewis rhai, ac yn gwrthod eraill. 24 Galwedigaeth y cenhedloedd. 30 A gwrthodiad yr Iddewon.
1Gwir yr wyf yn ei ddywedyd yng-Hrist, nid wyf yn dywedyd celwydd (am cydwybod yn cydtestiolaethu â mi yn yr Yspryd glân)
2Fod tristid mawr a dolur dibaid yn fynghalon.
3Canys ni a ddymunwn fod yn anathema oddi wrth Grist dros fy mrodyr, sef fyng-henedl yn ôl y cnawd:
4Y rhai ydynt yr Israeliaid, i ba rai [y perthyn] y mabwysiad, a’r gogoniāt, a’r cyfammodau, a dodiad y ddeddf, a gwasanaeth [Duw,] a’r addewidion.
5O ba rai yr hanoedd y tadau, ac o ba rai o herwydd y cnawd [yr hanoedd] Crist yr hwn sydd yn Dduw vwch law ôll yn fendigedic yn oes oesoedd. Amen.
6Er hynny amhossibl yw myned gair Duw yn ddi-rym, canys nid [ydynt] hwy oll yn Israeliaid, a’r a [hanodd] o Israel,
7Ac nid ydynt hwy oll yn blant, o blegit eu bod o hâd Abraham: eithr yn Isaac y gelwir dy hâd di.
8Hynny yw, nid y rhai sy yn blant y cnawd ydynt blant Duw: eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.
9Canys gair addewid yw #Gen.18.10.hwn, yn yr amser hwn y deuaf, ac y bydd mâb i Sara.
10Ac nid efe yn vnic a [ŵybu hyn] ond hefyd #Gen.25.21.Rebecca wedi iddi feichiogi o vn [sef] o’n tâd Isaac.
11Canys etto cyn geni’r [plant,] a phryd na wnaethent na drwg na da, (megis wrth etholedigaeth Duw y parhaue yr arfaeth nid o weithredoedd, eithr o’r hwn sydd yn galw)
12Y dywedwyd wrthi, #Gen.25.23.yr hynaf a wasanaetha yr ieuangaf.
13Megis yr scrifennwyd, #Mala.1.2.Iacob a gerais, ac Esau a gaseais.
14Beth a ddywedwn wrth hynny? a oes anghyfiawnder gan Dduw? ymbell oedd.
15Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, #Exod.33.19.mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiaf.
16Ac felly nid yw [’r etholedigaeth ar law] yr hwn a ewyllysio, nac ar law yr hwn a rêdo, eithr ar law Duw yr hwn sydd yn trugarhau.
17Canys y mae yr scrythur yn dywedyd wrth Pharao: I hynn ymma i’th gyffroais di, fel y dangoswn fy meddiant ynot ti, ac fel y datcenid fy enw trwy’r holl ddaiar.
18Am hynny wrth yr hwn y mynno y trugarhâ efe, a’r hwn a fynno, efe a’i caleda.
19Dywedi gan hynny wrthif, pa ham y mae efe etto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?
20Yn hytrach ô ddyn pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? a ddywed y #Esai.45.9.|ISA 45:9. ierem.18.6.|JER 18:6. dorth.15.7.peth ffurfedic wrth yr hwn a’i ffurfiodd, pa ham i’m gwnaethost fel hyn.
21Onid oes awdurdod i’r crochênydd ar y priodgist, i wneuthur o’r vn telpyn pridd vn llestr i barch, ac arall i amharch?
22Beth os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei feddiant, a ddioddef drwy hir ymaros llestri’r digofaint y rhai a arlwywyd i golledigaeth?
23Ac i beri gwybod golud ei ogoniant ar lestri trugaredd, y rhai a arlwyodd efe i ogoniant?
24[Sef] nyni y rhai a alwodd efe, nid o’r Iddewon yn vnic, eithr hefyd o’r cenhedloedd.
25Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, #Ose.2.23.mi a alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi: ar hon nid yw annwyl yn annwyl.
26A bydd yn y lle y dywedwyd wrthynt #Ose.1.10. 1.pet.2.10.nid ydych yn bobl i mi, yno y gelwir hwy yn plant y Duw byw.
27Hefyd y mae Esaias yn llefain am yr Israel, #Esa.10.21.cyd bydde nifer plant Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.
28Canys efe a orphen ac a fyrhâ air mewn cyfiawnder: canys yr Arglwydd a fyrhâ air ar y ddaiar.
29A megis y dywedodd Esaias yn y blaen, oni buase i Arglwydd y lluoedd adel i ni hâd, gwnaethid ni fel Sodoma, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
30Beth gan hynny a ddywedwn? cael o’r cenhedloedd gyfiawnder y rhai ni ddilynasant gyfiawnder, sef y cyfiawnder [yr hwn sydd] o ffydd.
31Ac Israel yr hwn a ddilynodd ddeddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder.
32Pa ham? am nas ceisient â ffydd, eithr megis o weithredoedd y ddeddf: canys tramgwyddasant wrth faen y tramgwydd,
33Megis y mae yn scrifennedic: #Esa.8.14. & 28.16. & 118.22.(sic.)wele fi yn gosod yn Sion faen tramgwydd, a chraig rhwystr; a phôp vn a gredo ynddo ni chywilyddir.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 9: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda