Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 8

8
PEN. VIII.
1 Diogelwch y ffyddloniaid, a ffrwyth yr Yspryd glân yddynt hwy, 3 gwendit y ddeddf, a phwy a’i cwplaodd hi, ac i ba beth, 5 O ba ryw wedd y dyle y ffyddloniaid fôd, 6 ffrwyth yr yspryd ynddynt hwy, 17 am obaith, 18 am ddioddefgarwch tann y groes, sef ran adfyd er mwyn Crist, 28 am y cydgariad rhwng Duw a’r blant, 29 am ei ragwybodaeth a’r ragluniaeth ef.
1Gan hynny nid oes weithian ddamnedigaeth i’r rhai sy yng-Hrist Iesu, [sef] y sawl nid ydynt yn rhodio yn ôl y cnawd, eithr ar ôl yr Yspryd.
2Canys deddf Yspryd y bywyt yng-Hrist Iesu a’m rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.
3Canys (yr hyn a ydoedd yn amhossibl i’r ddeddf pan ydoedd hi yn egwan o blegit y cnawd) Duw gan ddanfon ei Fâb ei hun yng-hyffelybiaeth cnawd pechadurus, a [hynny] am bechod, a gondemnodd bechod yn y cnawd,
4Fel y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio nid yn ôl y cnawd: eithr yn ol yr Yspryd.
5Canys y rhai ydynt gnawdol, am bethau’r cnawd yr ymsynhwyrant: eithr y rhai sy yn ôl yr Yspryd, am bethau ’r Yspryd.
6Canys y mae synnwyr yr cnawd yn farwolaeth, a synnwyr yr Yspryd yn fywyd a thangneddyf.
7O blegit synnwyr y cnawd sydd elyniaeth yn erbyn Duw: am nad yw ddarostyngedic i ddeddf Duw: ac ni’s dichon [fod.]
8Am hynny y sawl ydynt yn y cnawd ni allant ryngu bodd Duw.
9Weithian chwy-chwi nid ydych yn y cnawd, eithr yn yr Yspryd, gan fod Yspryd Duw yn trigo ynoch: ac od oes nêb heb Yspryd Crist ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
10Ac os yw Crist ynoch, y mae’r corph wedi marw, o blegit pechod: eithr yr Yspryd yn fywyd er mwyn cyfiawnder.
11Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywocâ hefyd eich cyrph marwol chwi, trwy ei Yspryd yr hwn sydd yn trigo ynoch.
12Am hynny #8.12-17 ☞ Yr Epystol yr wythfed Sul ar ôl y Drindod.frodyr yr ydym [ni] yn ddyled-wŷr, nid i’r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd:
13Canys os byw fyddwch yn ôl y cnawd, meirw fyddwch: eithr os marwhewch weithredoedd y cnawd trwy’r Yspryd, byw fyddwch.
14Canys cynnifer [ac] a dywyser gan Yspryd Duw, y rhai hyn sy blant i Dduw.
15Canys ni dderbyniasoch yspryt caethiwet i [beri] ofn trachefn, eithr derbyniasoch Yspryd mabwysiad trwy’r hwn yr ydym yn llefain (Abba) Dâd.
16Y mae yr Yspryd hwn yn cyd-testiolaethu â’n hyspryd mi, ein bod ni yn blant i Dduw.
17Os ydym ni yn blant, [yr ydym] ni hefyd yn etifeddion, os yn etifeddion i Dduw, yna yn gyd-etifeddion â Christ: ac os cyd-ddioddefwn ag ef, fe a’n cyd-ogoneddir hefyd gyd ag ef.
18 # 8.18-23 ☞ Yr Epystol y pedwerydd Sul ar ôl y Drindod. O blegit yr ydwyf yn bwrw nad yw gofidiau yr amser yr awron yn cydstadlu y gogoniant a ddangosir i ni.
19Canys awydd-fryd y creatur sydd yn disgwil am ddadcuddiad meibion Duw.
20Canys y mae y creatur yn ddarostyngedic i wagedd nid o’i fodd, eithr o blegit yr hwn a’i darostyngodd,
21Tann obaith y rhyddheir y creatur hefyd o gaethiwed llygredigaeth i rydd-did gogoniant meibion Duw.
22Canys gwyddom fod pôb creatur yn cydocheneidio â ni, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn.
23Ac nid yn vnic y [creatur] ond ninnau hefyd y sawl a gawsom flaen-ffrwyth yr Yspryd, yr ydym ninnau yn ocheneidio ynom ein hunain gan ddisgwil y mabwysiad, [nid amgen] #Luc.21.28.prynnedigaeth ein corph.
24Canys wrth obaith i’n iachauwyd: eithr yr hon a welir nid yw obaith: o blegit pa obeithio a wna vn am y peth a wêl?
25Ond os ydym yn gobeithio yr hyn ni welwn, yr ydym drwy ammynedd yn disgwil am dano.
26Felly hefyd y mae’r Yspryd yn cynnorthwyo ein gweddio ni: canys ni wyddom pa beth a weddiwn fel y dylem, eithr y mae yr Yspryd ei hun yn eiriol trosom ag ocheneidiau annhraethadwy.
27A’r hwn sydd yn chwilio y calonnau, a ŵyr beth yw meddwl yr Yspryd, canys y mae efe yn ôl [ewyllys] Duw yn eiriol tros y sainct.
28A gwyddom fod pob peth yn gweithio i’r hyn goref i’r sawl a garant Dduw, sef i’r rhai a alwyd wrth ei arfaeth ef.
29Canys y rhai a ragŵybu, a ragluniodd efe hefyd i fod yn vn ffurf â delw ei Fâb ef, fel y bydde efe yn gyntafanedig ym mhlith brodyr lawer.
30A’r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny a alwodd efe, a’r rhai a alwodd, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe, a’r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.
31Beth ynte a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? os [yw] Duw gyd â ni, pwy a all fod i’n herbyn?
32Yr hwn nid arbedodd ei briod Fâb, ond ei roddi ef drosom ni oll i farwolaeth, pa wedd gyd ag ef na rydd efe i ni bob peth hefyd?
33Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw, Duw yw’r hwn #Esai 50.8.a gyfiawnhâ.
34Pwy a ddamna? Crist yw’r hwn a fu farw, îe yn hytrach, yr [vn] a gyfodwyd trachefn, yr hwn hefyd sydd ar ddeheu-law Duw, yr hwn hefyd sydd yn eiriol trosom ni.
35Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? a i gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni neu enbydrwydd, neu gleddyf?
36Megis y mae yn scrifennedic: er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni trwy’r dydd: yr ydys yn ein cymmeryd ni fel defaid [iw]lladdfa
37Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na chwncwerwyr trwy’r hwn a’n carodd ni.
38Canys y mae yn ddiogel gennif nad oes nac angeu, nac enioes, nac Angelion, na thwysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,
39Nac vchter, na dyfnder, nac vn creatur arall a all ein yscar ni oddi wrth gariad Duw yr hwn sydd yng-Hrist Iesu ein Harglwydd.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 8: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda