Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 5

5
PEN. V.
1 Mae efe yn mynegu ffrwyth ffydd. 7 Y mae efe yn yspysu cariad, ac vfydd-dod Crist, yn hwn yw sail a sylfaen ffydd.
1Am hynny gan ein cyfiawnhau trwy ffydd y mae gennym heddwch tu ag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
2 # Ephe.2.18. Trwy’r hwn hefyd y mae i ni ddyfodfa trwy ffydd i’r grâs hyn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, ac yn ymlawenychu tann obaith gogoniant Duw.
3Ac nid [hynny] yn vnic, eithr hefyd #Iac.1.2.yr ydym yn ymlawenychu mewn gorthrymderau gan ŵybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch,
4A dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith:
5A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau, trwy yr Yspryd glân yr hwn a roddwyd i ni,
6Canys Crist pan oeddem ni yn ddinerth, yn yr amser a fu farw tros #Heb.9.15. 1.pet.3.18.rai annuwiol.
7Diau mai braidd y bydd nêb farw tros vn cyfiawn, er hynny tros [vn] da fe alle y bydde vn farw.
8Eithr y mae Duw yn eglurhau ei gariad, tu ag attom, (o blegit a nyni etto yn bechaduriaid) marw o Grist trosom.
9Mwy ynte o lawer gan ein cyfiawnhau ni trwy ei waed ef, i’n hachubir rhag digofaint trwyddo ef.
10Canys os pan oeddem elynion, i’n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fâb ef, mwy o lawer wedi ein heddychu, i’n achubir trwy ei fywyd ef.
11Ac nid [hynny] yn vnic, eithr ymlawenychu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, gan yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymmod.
12Am hynny megis trwy vn dŷn y daeth pechod i’r bŷd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeih ar bôb dyn, yn gymmaint a phechu o bawb.
13Canys hyd amser y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod, pryd nad oes ddeddf.
14Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, arnynt hwy hefyd y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr vn a ddeue.
15Eithr nid yw’r dawn felly megis y mae’r camwedd: o blegit os trwy gamwedd vn y bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlhauodd grâs Duw, a’r dawn trwy râs yr vn dyn Iesu Grist i laweroedd.
16Ac nid yw’r dawn [fel yr hyn a ddaeth] trwy’r vn a bechodd: canys y farn a [ddaeth] o’r vn [camwedd] i gondemniad: eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.
17Canys os trwy gamwedd vn y teyrnasodd angeu trwy vn, mwy o lawer y teyrnasa y rhai a dderbyniasant y lliosogrwydd o râs, ac o ddawn y cyfiawnder, ym mywyd, trwy yr vn, Iesu Grist.
18Canys yr vn modd megis trwy gamwedd vn [y daeth y bai] ar bob dyn i gondemniad, felly trwy gyfiawnhâd vn, [y rhodded grâs] i bôb dŷn, er cyfiawnhâd bywyd.
19O blegit megis trwy anufydd-dod vn dyn, y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid: felly trwy vfydd-dod vn y gwneir llawer yn gyfiawn.
20Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn, fel yr amlhaue y camwedd: eithr lle yr amlhauwyd pechod [yno] yr amlhaodd grâs yn fwy o lawer
21Fel megis y teyrnassodd pechod i angeu, felly hefyd y teyrnase grâs trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 5: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda