Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rhufeiniaid 4

4
PEN. IIII.
1.7. Y mae efe yn dangos fôd cyfiawnhâd yn ddawn grâs trwy siampl Abraham, a thestiolaeth Dafydd. 15 a hefyd wrth naturiaeth y ddeddf a ffydd.
1Pa beth gan hynny a ddywedwn gael o Abraham ein tâd yn ôl y cnawd?
2Canys os Abraham a gyfiawnhawyd trwy weithredoedd, y mae iddo orfoledd, eithr nid ger bron Duw.
3Canys pa beth a ddywed yr Scrythur #Gen.15.6.|GEN 15:6. gal.3.6.Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
4Ac i’r nêb a weithia ni chyfrifir y gwobr o râs, onid o ddyled.
5Eithr i’r neb ni weithia, onid credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr anwir, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
6Megis y mae Dafydd yn dadcan dedwyddwch y dŷn, yr hwn y mae Duw yn cyfrif iddo gyfiawnder, heb weithreddoedd [gan ddywedyd]
7 # Psal.32.1. Dedwydd [yw] y rhai, y maddeuwyd eu hanwireddau, a’r rhai y cuddiwyd eu pechodau.
8Dedwydd [yw] y gŵr nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.#4.8-14 ☞ Yr Epystl ar ddydd calan neu yr enwaediad.
9[A ddaeth] y dedwyddywch hyn ar yr enwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd, [o darfod] cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder.
10Pa fodd y cyfrifwyd hi? ai pan oedd yn yr enwaediad, ynte yn y dienwaediad? nid yn yr enwaediad, onid yn y dienwaediad.
11 # Gen.17.11. Ac efe a gymmerth arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon [oedd ganddo] yn y dienwaediad, fel y bydde efe yn dâd pawb a grêdent yn y dienwaediad, fel y cyfrifid yn gyfiawnder iddynt hwy hefyd,
12Ac yn dâd yr enwaediad, nid iddynt hwy yn vnic, y rhai [ydynt] o’r enwaediad, onid i’r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd ein tâd Abraham, yr hon oedd yn y dienwaediad.
13Canys nid trwy y gyfraith [y daeth] yr addewid i Abraham, neu iw hâd y bydde efe yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
14Canys os y rhai sydd o’r ddeddf, yw’r etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a’r addewid yn ddirym.
15O blegit y mae y ddeddf yn peri digofaint, canys lle nid oes deddf, nid oes gamwedd.
16Am hynny o ffydd [y mae yr etifeddiaeth] fel y dêl trwy râs, a bôd yr addewid yn siccr i’r holl hâd: sef nid yn vnic i’r hwn sydd o’r ddeddf: onid hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham yr hwn yw ein tâd ni ôll,
17(Megis y mae yn scrifennedic, #Gen.17.4.mi a’th wnaethym yn dâd llawer o genhedloedd) ger bron y neb y credodd efe iddo [sef] Duw yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac sydd yn galw y pethau nid ydynt, fel pe byddent.
18Yr hwn yn erbyn gobaith, a gredodd tann obaith, fel y bydde yn dâd cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a ddywedasid, #Gen.15.5.felly y bydd dy hâd di.
19Ac efe yn ddiegwan o ffydd nid ystyriodd ei gorph ei hunan yr hwn oedd weithian wedi marweiddio, ar yng-hylch can-mlwydd oed, na marweidd-dra bru Sara.
20Ac nid amheuodd efe addewid Duw drwy ang-hredyniaeth, eithr ef a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw.
21Ac yn gwbl siccr ganddo, ei fod yn abl i wneuthur yr hyn o addawse.
22Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23Ac nid scrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn vnic, i gyfrif hyn iddo yn gyfiawnder,
24Eithr hefyd erom ninnau, i’r rhai y cyfrifir [yn gyfiawnder,] y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfodes Iesu ein Harglwydd o feirw.
25Yr hwn a draddodwyd tros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd er ein cyfiawnhâd.

Dewis Presennol:

Rhufeiniaid 4: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda