Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 7

7
PEN. VII.
Crist yn atteb tros ei ddiscyblion y rhai a fwyttasent heb ymolchi. 24 Yn iachau merch y wraig o Syrophenisa. 32 A’r byddar mùd.
1Yno #Math.15.2.yr ymgasclodd atto’r Pharisæaid, a rhai o’r scrifenyddion a ddaethe o Ierusalem.
2A phan welsant rai o’i ddiscybliō ef â dwylaw cyffredin (hynny ydyw eb olchi) yn bwytta bwyd, hwy a argyoeddasant.
3(Canys y Pharisæaid, a’r holl Iddewon oni bydd iddynt olchi eu dwylaw yn fynych ni fwytânt, gan gadw traddodiad yr henafiaid.
4A [phan ddelont] o’r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi ni fwyttânt: a llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant iw cadw, nid amgen golchiadau cwppanau, ac ystenau, ac efyddennau, a gwelâu. )
5Yna y gofynnodd y Pharisæaid a’r scrifenyddion iddo: Pa ham na rodia dy ddiscyblon yn ôl traddodiad yr henuriaid, ond bwyta eu bwyd â dwylo heb olchi?
6Yntef a attebodd ac a ddywedodd wrthynt: am hynny da y prophwydodd Esaias am danoch chwi ragrithwŷr fel y mae yn scrifennedig: #Esa. 29.14y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i â’u gwefusau, a’i calon sydd bell oddi wrthif.
7Yn ofer y maent yn fy anrhydeddu gan ddyscu athrawiaethau [y rhai ydynt] orchymynnion dynion.
8Canys yr ydych yn gadel gorchymyn Duw, ac yn cadw traddodiad dynion, megis golchi stenau, a chwppaneu: a llawer o bethau eraill o’r cyffelyb yr ydych yn eu gwneuthur.
9Hefyd efe a ddywedodd wrthynt: gwych yr ydych gwrthod gorchymyn Duw, i gadw eich traddodiad eich hun.
10Canys Moses a ddywedodd, #Exod.20.12. Deut.5.16. Ephes.6.2. Exod.21.17. Lefit.20.9. Dihar.20.20. Anrhydedda dy dad a’th fam: a phwy bynnag a felldithio ei dad neu ei fam lladder ef yn farw.
11Ac meddwch chwithau, os dywed dŷn wrth ei dad neu ei fam, Corban: sef trwy y rhodd [a offrymir] gennifi, y daw llês i ti, [rhydd fydd efe.]
12Ac nid ydych mwyach yn gadel iddo wneuthur dim iw dâd neu iw fam,
13Gan ddirymmu gair Duw â’ch traddodiad eich hunain yr hwn a draddodasoch chwi, a llawer o gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur.
14Yna #Math.15.10.efe a alwodd yr holl dyrfa atto, ac a ddywedodd wrthynt, gwrandewch chwi oll arnaf, a dehellwch.
15Nid oes dim allan o ddŷn yn myned i mewn iddo yr hwn a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sy yn dyfod allan o honaw, y rhai hynny yw y pethau sy yn halogi dŷn.
16Od oes gan neb glustiau i wrando gwrādawed.
17A phan ddaeth efe i mewn i’r tŷ oddi wrth y bobl, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo am y ddammeg.
18Yntef a ddywedodd wrthynt, a ydych chwithau hefyd mor ddi-ddeall? oni ŵyddoch am bôb peth oddi allan a el i mewn i ddŷn, na all ei halogi ef?
19Canys nid yw efe yn myned i’r galō ond i’r bol, ac yn myned allan i’r geudŷ gan garthu yr holl fwydydd.
20Ac efe a ddywedodd, mai yr hyn sydd yn dyfod allan o ddŷn, hynny sydd yn halogi dŷn.
21Canys #Gen.6.5.|GEN 6:5 & 8.21.oddi mewn o galonneu dynion y daw drwg-feddyliau, torri priodasau, putteindra, llofruddiaeth,
22Lladratta, cribddeilio, drygioni, twyll, maswedd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd.
23Y mae yr holl ddrygioni hyn yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dŷn.
24Ac #Math.15.21.efe a gyfodes oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon, ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnase i nêb ŵybod, eithr ni alle efe fod yn guddiedig:
25Canys pan glybu gwraig, yr hōn yr oedd ei merch fechā ac yspryd aflan ynddi sôn am dano, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef.
26(A Groeges oedd y wraig, Syrophenissa o genedl) a hi a attolygodd fwrw’r cythrael allan o’i merch.
27A’r Iesu a ddywedodd wrthi, gad yn gyntaf borthi’r plant: Canys nid da yw cymmeryd bara’r plant, a’i daflu i’r cenawon cwn.
28A hithe a attebodd ac a ddywedodd wrtho, gwir ô Arglwydd, er hynny y cenawon a fwyttânt tann y bwrdd o friwsion y plant.
29Yna y ddywedodd efe wrthi, am y gair hwnnw, dos ymmaith, aeth y cythrael allan o’th ferch.
30Ac wedi iddi ddyfod adref iw thŷ hi a gafodd fyned o’r cythrael allan, a’i merch wedi ei bwrw ar y gwely.
31 # 7.31-37 ☞ Yr Efengyl y xii. Sul wedi ’r Drindod. Ac efe a aeth trachefn ymmaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilæa trwy ganol cyffiniau Decapolis.
32A hwynt a ddugasant atto vn byddar ac attal dywedyd arno, ac a attolygâsant iddo roi ei law arno ef.
33Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o’r naill du allan o’r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â’i dafod ef,
34A chā edrych tu â’r nef efe a ocheneidiodd ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha sef ymagor.
35Ac yn ebrwydd yr ymagorodd ei glustiau ef, ac a ymollyngodd rhwym ei dafod ef, ac efe a lefarodd yn eglur.
36Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb. Ond pa mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy y cyhoeddasant.
37A rhyfeddu a wnaethant yn ddirfawr gā ddywedyd, #Gen.1.31|GEN 1:31. eccle.39.16.da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i’r byddair glywed, ac i’r mudion ddywedyd.

Dewis Presennol:

Marc 7: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda