Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Marc 6

6
PEN. VI.
Pa wedd yr erbynir Crist a’r eiddo yn eu gwlad eu hun, 7 awdurdod yr apostolion, 15 amrafael farn am Grist, 25 lladd Ioan a’i gladdu. 31 Crist yn rhoddi gorphwysfa iw discyblion, 38 y pump torth bara a’r ddau byscodyn, 48 Crist yn gorymdaith ar y dwfr, 35 efe yn iachau llaweroedd.
1Ac efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a #Math.13 54.|MAT 13:54. Luc.4.16.ddaeth i’w wlad ei hun, a’i ddiscyblion a’i dilynasant ef.
2Ac wedi dyfod y Sabboth, y dechreuodd efe athrawiaethu yn y Synagog, a synnu a wnaeth ar lawer a’i clywsant, gan ddywedyd, o ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ryw ddoethineb yw hon a roed iddo fel y gwneid y cyfryw wyrthiau trwy ei ddwylo ef?
3Ond hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iaco, ac Ioses, ac Iudas, a Simon? onid yw ei chwiorydd ef ymma yn ein plith ni? ac hwy a rwystrwyd o’i blegit ef.
4Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, ni #Math.13.57. Luc.4.24. Ioan.4.44.bydd prophwyd mewn amharch ond yn ei wlad ei hun, ac ym mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
5Ac ni alle efe yno wneuthyd dim gwyrthiau, ond gan rhoddi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiachau hwynt.
6Ac rhyfeddu a wnaeth efe wrth eu angrhediniaeth hwynt, ac efe a aeth yng-hylch y trefi #Luc.13.22.o amgylch gan athrawiaethu.
7 # Math.10.1. Luc.9.1. Mar.3.14. Ac efe a alwodd y deuddec, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau, ac a roddes iddynt awdurdod ar ysprydion aflan.
8Ac a orchymynnodd iddynt na chymmerent ddim gyd â hwynt i’r daith, nac screpan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: ond llaw-ffon yn vnic.
9Eithr eu bod â sandalau am eu traed, ac na wiscent ddwy bais.
10Ac efe a ddywedodd wrthynt, i ba le bynnac yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymmaith oddi yno.
11A #Math.10.14. Luc.9.5.pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, escydwch y #Act.13.51.llwch yr hwn fydd tan eich traed, yn destiolaeth iddynt: yn wîr meddaf i chwi y bydd esmwythach i Sodoma a Gomorra yn nydd y farn nag i’r ddinas honno.
12A hwy a aethant ymaith, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau.
13Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a #Iac.5.14.eliasant ag olew lawer o gleision, ac a’u hiachasant.
14Yna #Math.14.1. Luc.9.7.y clybu y brenin Herod [o honaw] (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef) ac efe a ddywedodd: Ioan Fedyddiwr a gyfodes o feirw, ac am hynny y gwneir gwyrthiau trwyddo ef.
15Eraill a ddywedasant, Elias yw: ac eraill a ddywedasant prophwyd yw: neu megis vn o’r propwydi.
16A phan glybu Herod efe a ddywedodd#Luc.3.19., hwn yw Ioan yr hwn y torrais i ei ben, efe a gododd o feirw.
17Canys Herod hwn a ddanfonase, ac a ddaliase Ioan, ac a’i dodase ef yng-harchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd, am iddo ei phriodi hi.
18Canys Ioan a ddywedase wrth Herod: #Leuit.18.16.nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.
19am hynny y daliodd Herodias ŵg iddo, ac y mynne ei ladd ef, ac ni alle.
20Canys #Math.14.4.Herod oedd yn ofni Ioan (gan ŵybod ei fod efe yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd) ac a’i parche ef: ac wedi ei glywed ef, efe a wnai lawer o bethau, ac a’i gwrandawe ef yn ewyllyscar.
21a phan oedd diwrnod cyfaddas, a Herod, ar ei ddydd genedigaeth yn gwneuthur gwledd iw bennaethiaid ai flaenoriaid a goreug-wŷr Galilæa.
22Ac wedi i ferch Herodias ddyfod i mewn, a dawnsio a boddhau Herod, a’r rhai oeddynt yn eistedd ag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llangces, gofyn i mi y peth a fynnych, a mi a’i rhoddaf i ti.
23Ac efe a dyngodd iddi, beth bynnac a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf i ti, hyd hanner fy nheyrnas.
24A #Math.14.8.hithe a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, pa beth a ofynnaf? a hithe a ddywedodd, pen Ioan Fedyddi-wr.
25Ac yn y fan hi a ddaeth yn brysur at y brenin, ac a ofynnodd gan ddywedyd: mi a fynnwn it yr awran i mi mewn dyscl, ben Ioan fedyddiwr.
26A’r brenin er ei fod yn dra athrist, er mwyn y llw, a’r rhai oeddynt yn cydeistedd ag ef, ni fynne ei bwrw hi heibio.
27Ac yn y man y anfones y brenin ddienyddwr, ac a orchymynnodd ddwyn ei ben ef.
28Ac yntef a aeth ac a dorrodd ei benn ef yn y carchar, ac a ddug ei benn ef mewn dyscl, ac a’i rhoddes i’r llangces, a’r llangces a’i rhoddes ef iw mam.
29A phan glybu ei ddiscyblion ef, hwy a ddaethant, ac a gymmerasant ei gorph ef, ac a’i dodasant mewn bedd.
30A’r #Luc.9.10.Apostolion a ymgasclasant at yr Iesu, ac a ddangosasant iddo bob peth a’r a wnaethent, ac a athrawiasent.
31Ac efe a ddywedodd wrthynt, deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r nailltu, a gorphywyswch encyd, canys yr oedd llawer yn dyfod, ac yn myned, fel na chaent yspaid i fwytta.
32Am #Math.14.13. Luc.9.10.hynny yr aethant i le anghyfannedd, mewn llong o’r nailltu.
33A’r bobl yn eu gweled hwynt yn myned ymmaith, llawer a’i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’i rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasclasant atto.
34Yna wedi i’r #Math.9.36. & 14.14. Luc.9.11.Iesu fyned allan efe a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb fugail, ac *a ddechreuodd ddyscu iddynt lawer o bethau.
35Ac yna #Math.14.15.wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddiscyblion atto ef, gan ddywedyd: y lle sydd anial, ac weithian y mae yn llawer o’r dydd.
36Gollwng hwynt ymmaith, fel y gallant fyned i’r pentrefi, a’r trefi oddi amgylch, a phrynu iddynt fwyd, canys nid oes ganddynt ddim iw fwytta.
37Yntef a attebodd gan ddywedyd wrthynt, rhoddwch chwi iddynt [beth] iw fwyta: yna y dywedasant wrtho, a awn ni a phrynu bwyd er daucant ceiniog a’i roi iddynt iw fwyta?
38Ac efe #Math.14.17. Luc.9.13. Ioan. 6.9a ddywedodd wrthynt, pa sawl torth sydd gennwch? ewch ac edrychwch: ac wedi iddynt wybod, dywedasant, pump, a dau byscodyn.
39Yna y gorchymynnodd efe iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau, ar y glaswellt.
40A hwynt a eisteddasant yn finteioedd, o fesur cannoedd, a deg a daugeiniau.
41Ac wedi cymmeryd y pum torth a’r ddau byscodyn, gan edrych i fynu i’r nef efe a fendigodd, ac a dorrodd y bara, ac a’i rhoddes at ei ddiscyblion iw gosod ger eu bronnau hwynt a’r ddau byscodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.
42Ac hwynt oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon.
43A hwynt a godasant o’r briwfwyd ddeuddec bascedaid yn llawn, ac o’r pyscod.
44A’r rhai a fwytasent oeddynt yng-hylch pum mîl o wŷr.
45Ac yn y man y parodd efe iw ddiscyblion gymmeryd llong, a myned oi flaen ef tua Bethsaida i’r lann arall, tra fydde efe yn danfon ymmaith y bobl.
46Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymmaith, efe a aeth i’r mynydd i weddio.
47A #Math.14 23.|MAT 14:23. Ioan.6.15.phan oedd hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntef ei hun ar y tîr.
48Ac efe ai gwele hwynt yn lluddedig yn rhwyfo (canys y gwynt oedd yn eu herbyn) ac yng-hylch y bedwaredd ŵylfa o’r nôs, efe a ddaeth attynt gan rodio ar y môr, ac a fynnase fyned heibio iddynt.
49Pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, tybiasant mai drychiolaeth ydoedd efe, ac hwy a waeddasant.
50(Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant) ac yn y man yr ymddiddanodd â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, cymmerwch gysur mi fi sydd [ymma,] nac ofnwch.
51Yna yr aeth efe attynt i’r llong, a’r gwynt a dawelodd, ac aruthro fwy-fwy a wnaethant ynddynt eu hunain gan ryfeddu.
52O blegit ni ddehallasant, am y torthau hynny, am galedu eu calonneu hwynt.
53Ac #Math 14.34.wedi iddynt ddyfod trosodd, hwynt hwy a ddaethant i dir Genezareth, ac a lanniasant.
54A phan ddaethant o’r llong, hwynt hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd.
55Ac wedi iddynt fyned trwy gwbl o’r goror hwnnw, dechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelâu rai cleifion, pa le bynnac y clywent ei fôd ef.
56Ac i ba le bynnac yr ele efe i mewn i drefi, neu ddinasoedd neu bentrefi, y dodent ei cleifion ar yr heolydd gan attolwg iddo gael o honynt gyffwrdd cymmaint ag ymyl ei wisc ef, a chynnifer ag a gyffyrddasant ag ef a iachawyd.

Dewis Presennol:

Marc 6: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda