Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 4

4
PEN. IIII.
Crist yn ymprydio, yn cael ei demptio, 4 Ac yn gorchfygu diafol â’r scrythyrau. 11 Yr Angelion yn gwasanaethu iddo. 12 Efe yn dechreu pregethu edifeirwch. 18 Yn galw Petr, Andreas, Iaco, ac Ioan. 23 Yn pregethu yr Efengyl, ac yn iachau’r holl gleifion.
1 # 4.1-11 ☞ Yr Efengyl y Sul cyntaf o’r grawys. # Marc.1.12. Luc 4.1. Yna yr arweinwyd yr Iesu i’r anialwch drwy yr yspryd iw demptio gan ddiafol.
2Ac wedi iddo ymprydio ddeugain nhiwrnod a deugain nôs, yn ôl hynny efe a newynodd.
3Yna y daeth y temptiwr atto ef, ac a ddywedodd, os ti yw Mâb Duw, arch i’r cerric hyn fod yn fara.
4Ac yntef a attebodd ac a ddywedodd, y mae yn scrifennedic, #Deut.8.3.nid trwy fara yn vnig y bydd byw dŷn, ond trwy bob gair a ddaw o enau Duw.
5Yna y cymmerth diafol ef i’r ddinas sanctaidd, ac a’i gosodes ef ar binacl y deml,
6Ac a ddywedodd wrtho, os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr: canys scrifennedic yw, #Psal 91.11.y rhydd efe orchymyn iw angelion am danat, ac hwy a’th ddygant yn eu dwylo, rhag taro o honot dy droed wrth garreg.
7Yr Iesu a ddywedodd wrtho, y mae yn scrifennedic trachefn, #Deut.6.16.na themptia’r Arglwydd dy Dduw.
8Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra vchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd, a’u gogoniant,
9Ac a ddywedodd wrtho, hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i.
10Yna y dywedodd’r Iesu wrtho, ymmaith Satan: canys scrifennedic yw, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnig a wasanaethi.#Deut.6.13. & 10.20.
11Yna y #Marc.1.13. Luc.4.13.gadawodd diafol ef, ac wele angelion a ddaethant, ac a weinasant iddo ef.
12A phan glybu’r Iesu draddodi #Mar.1.14. luc.4.14. Ioan.4.43.Ioan, efe a ddychwelodd i Galilæa,
13A chan ado Nazareth, efe a aeth, ac a arhosodd yn Capernaum yr hon sydd wrth y môr yng-hyffiniau Zabulon a Nephthalim:
14Fel y cyflawnid yr hyn a ddywetpwyd trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,
15 # Esa.9.1. Tir Zabulon a thir Nephthalim [wrth] ffordd y môr o’r tu hwnt i’r Iorddonen, Galilæa y cenhedloedd:
16Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr: ac i’r rhai a eisteddent ym mro a chyscod angeu, y cyfododd goleuni.
17O’r pryd hynny y dechreuodd yr Iesu bregethu, a dywedyd, #Mar.1.15.edifarhewch o herwydd teyrnas nefoedd a nessaodd.
18 # 4.18-22 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl S. Andrew. # Mar.1.16. Fel yr oedd yr Iesu yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd yn bwrw rhwyd i’r môr, (canys pyscod-wŷr oeddynt)
19Ac efe a ddywedodd wrthynt, deuwch ar fy ôl i, ac mi a’ch gwnaf yn byscod-wŷr dynion.
20Ac hwy yn y fan, gan adel y rhwydau a’i dilynasant ef.
21Ac wedi ei fyned ef oddi yno, efe a welodd ddau frodyr #Mar.1.19.eraill, Iaco [fab] Zebedeus, ac Ioan ei frawd mewn llong gyd â Zebedeus eu tad, yn cyweirio eu rhwydau, ac a’u galwodd hwy.
22Ac hwy yn ebrwydd gan adel y llong a’u tâd a’i canlynasant ef.
23Ac yna’r aeth yr Iesu o amgylch holl Galilæa gan ddyscu yn eu synagogau, a phregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pob clefyd, a phob afiechyd ym mhlith y bobl.
24Ac aeth sôn am dano ef trwy holl [wlâd] Syria: a hwy a ddugasant atto yr holl rai drwg eu hwyl o amryw glefydau, ac wedi eu nychu gan gnofeudd, a’r rhai cythreulic, â’r rhai lloeric, a’r sawl oeddynt a’r parlys arnynt, ac efe a’u hiachaodd hwynt.
25A thyrfa fawr ai canlynodd ef o Galilæa, a Decapolis, ac o Ierusalem, ac o Iudæa, ac o’r gwledydd o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

Dewis Presennol:

Mathew 4: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda