Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 3

3
PEN. III.
1 Pregeth Ioan, a’i swydd, a’i fuchedd, a’i fedydd; 7 y mae yn ceryddu y Pharisæaid, 13 ac yn bedyddio Crist yn yr Iorddonen.
1Ac yn y dyddiau hynny #Marc.1.4. Luc.3.3.y daeth Ioan Fedyddiwr gan bregethu yn niffaethwch Iudæa,
2A chan ddywedyd, edifarhewch, canys daeth teyrnas nefoedd yn agos.
3Oblegid hwn yw efe, yr hwn y dywedwyd am dano trwy y prophwyd Esaias, gan ddywedyd, #Esa.40.3. Marc.1.3. Luc.3.4.llef vn yn llefain yn y diffaethwch, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, iniawnwch ei lwybrau ef.
4A’r Ioan hwnnw oedd a’i #Ioan.1.23. Marc.1.6.ddillad o flew camel, a gwregis o groē yng-hylch ei lwynau: a’i fwyd oedd locustiaid, a mêl gwyllt.
5Yna yr #Marc.1.5. Luc.3.7.aeth allan atto ef Ierusalem ac holl Iudæa, â’r holl wlâd oddi amgylch yr Iorddonen.
6Ac hwy a fedyddiwyd gāddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffessu eu pechodau.
7A phan welodd efe lawer o’r Pharisæaid ac o’r Saducæaid yn dyfod iw fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy: #Math.12.34.ô genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch racrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8Am hynny dygwch ffrwythau addas i edifeirwch.
9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae #Ioan.8.39. Act.13.26.genym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichōn Duw o’r meini hyn gyfodi i fynu blant i Abraham.
10Ac yr awr hon gosodwyd y fwyall ar wreiddin y prennau: #Pen.7.19.pob pren yr hwn ni ddwg ffrwyth da a dorrir i lawr, ac a deflir i’r tân.
11Myfi yn ddiau ydwyf yn eich #Marc.1.8. Luc 3.16|LUK 3:16. Ioan 1.26.|JHN 1:26. Act 1.5.|ACT 1:5. & 2.4.|ACT 2:4 & 8.17.|ACT 8:17 & 19.4bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch, eithr yr hwn a ddaw ar fy ôl i sydd gadarnach nâ myfi, escidiau yr hwn nid ydwyf deilwng iw dwyn, efe a’ch bedyddia â’r Ysbryd glân; ac â thân.
12 # Luc 3.17. Yr hwn [y mae] ei wyntill yn ei law, ac efe a lwyr lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith iw yscubor, eithr yr vs a lysc efe â thân anniffoddadwy.
13Yna y daeth #Marc.1.9. Luc 3.21yr Iesu o Galilæa i’r Iorddonen at Ioan iw fedyddio ganddo.
14Eithr Ioan a orafunodd iddo ef, gan ddywedyd, y mae arnaf eisieu fy medyddio gennit ti, ac a ddeui di attafi?
15Yna yr Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho ef, gâd yr awr hon, canys fel hyn y gwedde i ni gyflawni pob cyfiawnder: yna efe a adawodd iddo ef.
16A’r Iesu wedi ei fedyddio a ddaeth yn y fan i fynu o’r dwfr, ac wele y nefoedd a agorwyd iddo, ac [Ioan] a welodd Ysbryd Duw yn descyn fel colomen, ac yn dyfod arno ef.
17Ac wele lef o’r nefoedd yn dywedyd, hwn #2.Pet.1.17.yw fŷ annwyl Fab yn yr hwn i’m bodlonwyd.

Dewis Presennol:

Mathew 3: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda