Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 24

24
PEN. XXIIII.
Teitl Dinistr y Deml, rhybudd rhag gau athrawiaeth, Arwyddion diwedd y byd, cyffelybrwydd o’r ffigus-brenn, yn rhybuddio i fôd yn ofalus.
1A’r #Marc.13.1. Luc.21.5Iesu a aeth allan, ac a aeth o’r deml, a’i ddiscyblion a ddaethant atto i ddangos iddo adailadaeth y Deml.
2A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, oni welwch chwi hyn oll? yn wir meddaf i chwi, #Luc.19.44.ni adewir ymma garreg ar garreg, a’r ni ddattodir.
3Ac wedi iddo ef eistedd ar fynydd yr Oliwŷdd, ei ddiscyblion a ddaethant atto o’r nailltu gan ddywedyd, mynega i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd fydd o’th ddyfodiad, ac o ddiwedd y bŷd.
4A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, #Ephe.5.6.|EPH 5:6. Coloss.2.18.edrychwch rhag i nêb eich twyllo chwi.
5Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, mi yw Crist, ac a dwyllant lawer.
6Ac chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na’ch tralloder chwi: canys rhaid yw bôd [hyn] oll, eithr nid yw y diwedd etto.
7Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas, ac fe fydd newyn, a heintiau, a daiar-grynedigaethau mewn mannau.
8A dechreuad gofidiau yw hyn oll.
9Yna i’ch #Math.10.17. Luc.21.12. Ioan. 15.20rhoddant chwi i’ch gorthrymmu, ac a’ch lladdant, ac chwi a gaseîr gan yr holl genhedloedd er mwyn fy enw i.
10Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant eu gilydd, ac y casânt eu gilydd.
11Ac fe a gyfyd gau brophwydi lawer, ac a dwyllant lawer.
12Ac o herwydd yr amlheir anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13 # 2.Thes.3.13.|1TH 3:3. 2.Tim.2.5. Eithr y nêb a barhâo hyd y diwedd, hwn a fydd cadwedic.
14A’r Efengyl hon am y deyrnas, a bregethir trwy’r holl fŷd yn destiolaeth i’r holl genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.
15Am hynny pan weloch y #Mar.13.14.|MRK 13:14. Luc.21.20.|LUK 21:20. Daniel.12.11ffieidd-dra anrheithiol, (yr hyn a ddywedwyd trwy Ddaniel brophwyd) yn sefyll yn y lle sanctaidd, y nêb a’i ddarlleno, ystyried:
16Yna y rhai a fyddant yn Iudæa ciliant i’r mynyddoedd.
17Y nêb a fyddo ar benn y tŷ, na ddescynned i gymmeryd dim allan o’i dŷ.
18A’r hwn a fyddo yn y maes, na ddychweled yn ei ôl i gymmeryd ei ddillad.
19A gwae y rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau yn y dyddiau hynny.
20Eithr gweddiwch na byddo eich enciliad y gaiaf, nac #Act.1.12.ar y dydd Sabboth.
21Canys y pryd hynny y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechreu yr bŷd hyd yr awr hon, ac ni bydd.
22Ac oni bai byrrhau y dyddiau hynny, ni buase gadwedic vn cnawd oll: eithr er mwyn y etholedigion fe fyrheir y dyddiau hynny.
23Yna os dywed nêb wrthych, wele #Mar.13.21.|MRK 13:21. Luc.17.23.llymma Grist, neu llymma: na chredwch.
24Canys gau gristiau a gyfodant, a gau brophwydi, ac hwy a roddant arwyddion mawrion a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant pe bydde bossibl y rhai etholedig.
25Wele, dywedais i chwi o’r blaen.
26Am hynny os dywedant wrthych, wele, y mae efe yn y diffaethwch, nac ewch allan, wele y mae efe mewn stafelloedd, na chredwch.
27O blegit fel y daw y fellten o’r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewyn, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.
28Canys #Luc.17.37.pa le bynnac y byddo y gelain yno’r ymgascl yr eryrod.
29Ac yn #Mar.13.24.|MRK 13:24. Luc.21.25.|LUK 21:25. Esai.13.10.|ISA 13:10. Ezec.32.7. Ioel.2.31.y fan wedi gorthrymderau y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrthiant o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a gyffroir.
30 # Gwel.1.7. Daniel.7.13. Ac yna yr ymddengys arwydd Mâb y dŷn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau’r ddaiar, ac hwy a welant Fâb y dŷn yn dyfod yn wybrennau’r nef gyd â nerth a gogoniant mawr.
31Ac efe #1 Cor.15.52.|1CO 15:52 1.Thes.4.16.a ddenfyn ei angelion ag vd-corn, ac â llef fawr, ac hwy a gasclant yr etholedigion yng-hŷd o’r pedwar gwynt, ac o’r eithafoedd bwy-gilydd i’r nefoedd.
32Dyscwch chwithau ddammeg gan y ffigus-bren: pan yw ei gangen yn dyner, a’i ddail yn blaguro, gŵyddoch fôd yr haf yn agos:
33Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gŵybyddwch fôd yn agos, wrth y drysau.
34Yn wîr meddaf i chwi, nid aiff yr oes hon heibio hyd oni wneler hyn oll.
35 # Mar.13.32. Nef a daiar a ânt heibio, eithr fyng-eiriau i nid ânt heibio.
36Ac am y dydd hwnnw a’r awr, ni’s gŵyr nêb, nac angelion y nef, onid fy Nhâd yn vnic.
37Ac fel yr oedd dyddiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.
38O blegit fel yr oeddynt yn y dyddiau #Gen.7.5|GEN 7:5. Luc.17.26.|LUK 17:26. 1.Pet.3.20ym mlaen y diluw yn bwytta, ac yn yfed, yn gwreica, ac yn gŵra, hyd y dydd yr aeth Noe i’r llong,
39Ac ni ŵybuont hyd oni ddaeth y diluw a’u cymmeryd hwy oll ymmaith: felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.
40Yna #Luc.17.36y bydd dau yn y maes, y naill a gymmerir a’r llall a adewir.
41Dwy a fydd yn malu mewn melin, vn a gymmerir, a’r llall a adewir.
42 # Mar.13.35.|MRK 13:35. Luc 12.39. Gwiliwch am hynny: am na ŵyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
43A gwybyddwch hyn, pe gŵyddied gŵr y tŷ’r awr y dele’r lleidr, efe a wilie, ac ni adawe gloddio ei dŷ trwodd.
44Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni’s tybioch y daw Mâb y dŷn.
45Pwy #Luc.12.42.gan hynny sydd wâs ffyddlon a doeth, yr hwn a osododd ei Arglwydd yn oruchwiliwr ar ei deulu, i roddi bwyd iddynt yn ei amser.
46Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, ’r hwn pan ddêl ei Arglwydd, a’i caiff yn gwneuthur felly.
47Yn wîr meddaf i chwi, ar ei holl dda y gesyd efe ef.
48Ond os dywed y gwâs drwg hwnnw yn ei galon, y mae fy arglwydd yn oedi dyfod,
49A dechreu curo ei gŷd-weision, a bwytta, ac yfed gyd â’r meddwon:
50Arglwydd y gwâs hwnnw a ddaw yn y dydd nid edrych efe am dano, ac mewn awr ni’s gŵyr efe:
51Ac efe a’i gwahana ef, ac a rydd iddo ei rann gyd â’r rhagrith-wŷr #Math.13.42yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

Dewis Presennol:

Mathew 24: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda