Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 23

23
PEN. XXIII.
Crist yn dangos awdurdod a buchedd y Pharisæaid. Yn dyscu gostyngeiddrwydd. Crist yn cyhoeddi gwae i’r Pharisæaid a’r scrifennyddion am eu hamryw amryfusedd a’u rhagrith. Crist yn cwyno i Ierusalem ei hanwybodaeth a’i dinistr.
1Yna y dywedodd yr Iesu wrth y bobl a’i ddiscyblion,
2Gan ddywedyd, #Nehem.8.4.yng-hadair Moses y mae yr scrifennyddion a’r Pharisæaid yn eistedd.
3Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch: eithr ar ôl eu gweithredoedd na wnewch, canys y maent yn dywedyd, ac heb wneuthur.
4O blegit y maent #Luc.11.46. Act.15.10.yn rhwymo beichiau trymmion, ac anhawdd eu dwyn, ac yn eu gosod ar yscwyddau dynion: ac hwy eu hunain ni syflant hwynt ag vn o’u bysedd.
5Y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd iw gweled o ddynion: #Num.15.38. Deut.22.12.canys y maent yn gwneuthur yn llydan eu Phylacterau, ac yn gwneuthur ymylwaith eu gwiscoedd yn fawr.
6 # Mar.12.38.|MRK 12:38. Luc.11.43.|LUK 11:43 & 20.26 Caru y maent y lle vchaf mewn gwleddoedd, a’r prif eisteddleoedd mewn cymmanfâu,
7A chyfarch yn y marchnadoedd, a’u galw gan ddynion, Rabbi, Rabbi.
8Eithr #Iac.3.1.na’ch galwer chwi Rabbi: canys vn yw eich Athro, Crist: chwithau oll brodyr ydych.
9Ac na elwch nêb yn dâd i chwi ar y ddaiar: #Mal.1.6.canys vn Tâd sydd i chwi, yr hwn [sydd] yn y nefoedd.
10Ac na’ch galwer yn athrawon: canys vn yw eich athro Athro chwi, [sef] Crist.
11A’r mwyaf yn eich plith, bydded yn weinidog i chwi.
12A #Luc.14.11. & 18.14.phwy bynnac a ymdderchaf a ostyngir: a phwy bynnac a ymostyngo a dderchefir.
13Eithr gwae chwi scrifennyddion, a Pharisæaid ragrith-wŷr canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: #Luc.11.52.canys chwi nid ydych yn myned i mewn, ac nid ydych yn gadel i’r rhai a aent i mewn, fyned i mewn.
14Gwae chwi scrifennyddion a Pharisæaid ragrithwŷr #Mar.12.40.|MRK 12:40. Luc.20.47.canys yr ydych yn difa tai y gwragedd gweddwon, a [hynny] yn rhith hir weddio, am hynny y derbyniwch farn fwy.
15Gwae chwi scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, canys amgylchu yr ydych y Môr a’r tîr i wneuthur vn proselit: ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fâb vffern yn ddau mwy nâ chwi eich hunain.
16Gwae chwi dywysogion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, pwy bynnac a dwng i’r Deml nid yw ddim: ond pwy bynnac a dwng i aur y Deml y mae efe mewn dylêd.
17Chwychwi ffyliaid a deillion, pa vn fwyaf ai’r aur, ai’r Deml sydd yn sancteiddio’r aur?
18A phwy bynnac a dwng i’r allor, nid yw ddim: ond pwy bynnac a dyngo i’r offrwm yr hwn sydd arni, y mae efe mewn dylêd.
19Chwi ffyliaid a deillion, pwy vn fwyaf ai’r offrwm, ai’r allor yr hon sydd yn sancteiddio’r offrwm?
20Pwy bynnac gan hynny a dwng i’r allor, sydd yn tyngu iddi i’r hyn oll sydd arni.
21A #1.Bren.8.13. 2.Cron.6.2.phwy bynnac a dwng i’r Deml, sydd yn tyngu iddi, ac i’r hwn sydd yn presswylio ynddi:
22A’r hwn a dwng i’r nefoedd, sydd yn tyngu i orsedd-faingc Duw, ac i’r hwn sydd yn eistedd arni.
23Gwae #Math.5.34. Luc.11.42.chwi scrifennyddion a Pharisæaid ragrithwŷr, canys yr ydych yn degymmu y mintys, a’r anys, a’r cwmin, ac yn gadel pethau trymmach o’r gyfraith, sef barn, a thrugaredd, a ffyddlondeb, y pethau hyn sy raid eu gwneuthur, ac na adawer y lleill.
24Chwychwi dywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gŵybedyn, ac yn llyngcu camel.
25Gwae #Luc.11.39chwi scrifennyddion a Pharisæaid rhagrithwŷr: canys yr ydych yn glanhau y tu allan i’r cwppan a’r ddyscl, ac o’r tu mewn y maent in llawn yspail a gormodedd.
26Tydi Pearisæad dall, glanhâ yn gyntaf y tu mewn i’r cwppan a’r ddyscl, fel y byddo y tu allan yn lân hefyd.
27Gwae chwi scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr: canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwyn-galchu, y rhai a welir yn brydferth oddi allan, ond oddi mewn ydynt yn llawn o escyrn y meirw, a phôb aflendid.
28Ac felly yr ydych chwithau: oddi allan yr ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ac o fewn yr ydych yn llawn rhagrith, ac anwiredd.
29Gwae chwi scrifennyddion a Pharisæaid rhagrith-wŷr: canys yr ydych yn adailadu beddau’r prophwydi, ac yn addurno beddau y rhai cyfiawn,
30Ac yr ydych yn dywedyd, pe buasem ni yn nyddiau ein tadau, ni buasem ni gyfrannogion â hwynt o waed y prophwydi.
31Ac felly yr ydych yn testiolaethu am danoch eich hunain, eich bod yn blant i’r rhai a laddasant y prophwydi.
32Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.
33Oh seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddiangc rhag barn vffern?
34Am hynny #23.34-39 ☞ Yr Efengyl ar ddydd-gwyl Stephan.Wele, yr ydwyf yn anfon attoch brophwydi, a doethion, ac scrifennyddion, a rhai o honynt a leddwch, ac a groes-hoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref.
35Fel y del arnoch chwi yr holl waed gwirion a’r a ollyngwyd ar y ddaiar, o #Gen.4.8.waed Abel gyfiawn, hyd waed Zacharias fâb Barachias yr #2.Chro.24.22.hwn a laddasoch rhwng y deml a’r allor.
36Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar yr oes hon.
37 # Luc.13.34 Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant yng-hŷd, megis y cascl yr iâr ei chywion tann ei hadenydd, ac ni’s mynnech.
38Wele yr ydys yn gadel eich tŷ chwi yn anghyfannedd.
39Canys meddaf i chwi, ni’m gwelwch yn ôl hyn, hyd oni ddywedoch, bendigedic yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.

Dewis Presennol:

Mathew 23: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda