Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 18

18
PEN. XVIII.
1 Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nef, 6 Am rwystrau. 12 Y ddafad golledic. 15 Beth sydd iw wneuthur pan gaffer cam. 23 Dammeg y brenin yn mynny cyfrif gan ei weision.
1 # 18.1-10 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Mihangel. A’r amser hynny y daeth y discyblion at yr Iesu gan ddywedyd, #Marc.9.33. Luc.9: 46.pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?
2A’r Iesu a alwodd atto fachgenyn, ac a’i gosodes yn eu canol hwynt,
3 # Math.19.14. 1.Cor.14.20. Ac a ddywedodd, yn wîr y dywedaf i chwi o ddieithr troi o honoch, a bod fel plant bychain, nid ewch i deyrnas nefoedd.
4Pwy bynnac gan hynny a ymostyngo fel y bachgenyn hwn, hwnnw yw’r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5A phwy bynnac a dderbyn gyfryw blentyn yn fy enw i, a’m derbyn fi.
6A #Mar.9.42.|MRK 9:42 Luc.17.2.phwy bynnac a rwystro vn o’r rhai bychain hyn a gredant ynofi, gwell oedd iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a’i foddi yng-waelod y môr.
7Gwae’r bŷd o blegit rhwystrau: canys angērhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae’r dŷn hwnnw o achos yr hwn y dêl y rhwystr.
8Am hynny os dy law, neu dy droed a’th rwystra, torr hwynt ymmaith a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i fywyd yn gloff neu yn anafus, na’th daflu, ac i ti ddwy law, a dau droed i dân tragywyddol.#Math.5.30. Mar.9.43.
9Ac os dy lygad a’th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i fywyd ag vn llygad, nag â dau lygad dy daflu i dân vffern.
10Edrychwch na ddirmygoch yr vn o’r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, #Psal.31.7.fôd eu hangeliō hwynt yn y nefoedd bôb amser yn gweled wyneb fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.
11Canys #Luc.19.10.daeth Mâb y dŷn i gadw yr hyn a gollasid.
12Beth dybygwch chwi, #Luc.15.4.os bydde i ddŷn gant o ddefaid, a myned o vn o honynt ar ddisperod, oni adawe efe yr am yn vn cant, a myned i’r mynyddoedd, a cheisio’r hon a aeth ar ddisperod?
13Ac os bydde iddo ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, mai llawenach ganddo am y ddafad honno, nag am yr am yn vn cant y rhai nid aethant ar ddisperod.
14Felly nid yw ewyllys eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfergolli’r vn o’r rhai bychain hyn.
15Heb law hynny, #Leuit.19.17.|LEV 19:17. Luc.17.3.|LUK 17:3. Iac.5.19.os pecha dy frawd i’th erbyn, dôs, a dangos iddo ei fai rhyngot ag ef yn vnic, os efe a’th wrendu, ti a ennillaist dy frawd.
16Ac os efe ni’th wrendu, cymmer gyd â thi etto vn neu ddau, fel #Deut.19.15. Ioan.8.17. 2.Cor.13.1. Hebr.10.28.o enau dau neu dri o dystion y safo pôb gair.
17Ac os diystyra efe hwynt, dywet i’r eglwys, ac os efe ni fynn wrando’r eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnic a’r Publican.
18 # 1.Cor.5.4. 2.Thess.3.14. Ioan.20.23. Yn wir meddaf i chwi, pa bethau bynnac a rwymoch ar y ddaiar, a rwymir yn y nef, a pha beth bynnac a ryddhaoch ar y ddaiar, a ryddheuir yn y nef.
19Trachefn yn wîr y dywedaf wrthych, os cŷduna dau o honoch ar y ddaiar am ddim oll, beth bynnac a ddeisyfant a roddir iddynt gan fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
20Canys ym mha le bynnac yr ymgynhullo dau neu dri yn fy enw i, yno ’r ydwyf yn eu mysc hwynt.
21 # 18.21-35 ☞ Yr Efengyl yr ail sul ar hugain wedi ’r Drindod. Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i’m herbyn, ac y maddeuaf iddo? #Luc.17.4.ai hyd saith-waith?
22Yr Iesu a ddywedodd wrtho, nid ydwyf yn dywedyd wrthit, hyd saith waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain saith waith.
23Am hynny y mae yn gyffelyb teyrnas nefoedd i ddŷn [a oedd] yn frenin a fynne gael cyfrif gan ei weision,
24A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddugpwyd atto vn a oedd yn ei ddylêd ef o ddeng-mil o dalentau.
25A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, fe a orchymynnodd ei arglwydd ei wrthu ef a’i wraig, a’i blant, a chwbl a’r a fedde, a thalu [’r ddylêd.]
26A’r gwâs gan syrthio i lawr a attolygodd iddo gan ddywedyd, arglwydd bydd dda dy ymaros wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.
27Yna arglwydd y gwâs hwnnw a drugarhaodd wrtho, ac a’i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd.
28Ac wedi myned o’r gwâs ymmaith, efe a gafodd vn o’i gyfeillion, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gant ceinioc, ac efe a ymaflodd ynddo, ac ai llindagodd, gan ddywedyd, tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.
29Yna y syrthiodd ei gydwas wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef gan ddywedyd, bydd ymarhous wrthif, a thalaf i ti y cwbl oll.
30Ac ni’s gwnai efe, onid myned ai fwrw ef yng-harchar, hyd oni dale efe’r hyn oedd ddyledus.
31A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnelsid, yr oedd yn ddrwg dros benn ganddynt, ac hwy a ddaethant, ac a fynegâsant iw harglwydd yr holl bethau a fuasent.
32Yna y galwodd ei arglwydd arno ef, ac a ddywedodd wrtho, ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddylêd honno, am i ti ymbil â mi.
33Ac oni ddylesit tithe dosturio wrth dy gydwâs, megis, ac y tosturiais i wrthit ti?
34A’i Arglwydd yn llidiog a’i rhoddes ef i’r poen-wŷr, hyd oni thale yr hyn oll oedd ddyledus iddo.
35Ac felly yr vn modd y gwna fy nefol Dâd i chwithau, oni faddeuwch o’ch calonnau bob vn iw frawd eu camweddau.

Dewis Presennol:

Mathew 18: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda