Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Mathew 19

19
PEN. XIX.
Am yscariaeth, ac am rai diwair Plant yn cael dyfod at Grist. Yr ymrysymiad a fu rhwng y gwr ieuangc goludog â Christ. a’r ymrysymiad a dyfodd o hynny rhwng Crist a’i ddyscyblion.
1Ac #Mar.10.1.wedi i’r Iesu orphen yr ymmadroddion hynny, efe a ymadawodd â Galilæa, ac a ddueddau Iudæa tu hwnt i’r Iorddonen.
2A thyrfeuydd lawer a’i dilynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt yno.
3Yna y daeth y Pharisæaid atto gan ei demtio a dywedyd wrtho, ai cyfraithlawn i ŵr yscar â’i wraig am bob achos?
4Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, oni ddarllēasoch, i’r hwn a’u gwnaeth o’r dechrau, #Gene.1.27.eu gwneuthur yn wrryw a benyw?
5Ac efe a ddywedodd, #Gene.2.24. 1.Cor.6.16. Ephe.5.31.o blegit hynny y gâd dŷn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig, a’r ddau fyddant vn cnawd.
6Ac felly nid ydynt mwy yn ddau, onid yn vn cnawd, am hynny nac yscared dŷn yr hyn a gysylltodd Duw.
7Hwythau a ddywedâsant wrtho, pa ham gan hynny y gorchymynnodd #Deut 24.1.Moses roddi llythyr yscar, a’i gollwng hi ymmaith?
8Yntef a ddywedodd wrthynt, Moses o herwydd caledrwydd eich calonnau a oddefodd i chwi yscar â’ch gwragedd: eithr o’r dechreu nid felly yr oedd.
9Ac meddaf i chwi, #Math.5.32. Mar.10.11.|MRK 10:11. Luc.16.18.|LUK 16:18. 1.Cor.7.11pwy bynnac a wrthodo ei wraig, onid am odineb, a phriodi vn arall, ei fôd yn torri priodas, a bôd pwy bynnac a briodo yr hon a yscarwyd, yn torri priodas.
10[Yna] y dywedodd ei ddyscyblion wrtho, os felly y mae’r matter rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreica.
11Ac efe a ddywedodd wrthynt, nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, onid y rhai y rhoddwyd iddynt.
12Canys y mae rhai diweir a aned felly o groth [eu] mam: ac y mae rhai diweir a wnaeth dynion yn rai diweir, ac y mae rhai diweir y rhai a’u gwnaethant eu hun yn ddiweir er mwyn teyrnas nefoedd: y neb a ddichon ei dderbyn [hyn,] derbynied.
13Yna y #Mar.10.13.|MRK 10:13. Luc.18.5. Math.8.3.dygpwyd atto blant, fel y rhodde ei ddwylo arnynt, ac y gweddie: a’r discyblion a’u ceryddodd hwynt.
14A’r Iesu a ddywedodd, gadewch i blant, ac na waherddwch iddynt ddyfod attafi: canys i’r cyfryw rai y mae teyrnas nefoedd.
15Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt, efe a aeth ymmaith oddi yno.
16Ac #Mar.10.17.|MRK 10:17. Luc.18.18.wele vn a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol?
17Yntef a ddywedodd wrtho, pa ham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond vn, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i’r bywyd, cadw’r gorchymynnion.
18Efe a ddywedodd wrtho yntef, pa rai? a’r Iesu a ddywedodd, y rhai hyn, #Exod 20.13.|EXO 20:13. Deut.5.16.|DEU 5:16. Rom.13.9.na ladd, na thor briodas, na ledrata, na ddwg gam destiolaeth.
19Anrhydedda dy Dâd a’th fam: a châr dy gymydog fel ty hun.
20Y gŵr ieuangc a ddywedodd wrtho, mi a gedwais hyn oll o’m hieuengtid, beth sydd yn eisieu i mi etto?
21Yr Iesu a ddywedodd wrtho, os ewyllysi fôd yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennit, a dyro i’r tlodion, a thi a gei dryssor yn y nefoedd: a thyret dilyn fi.
22A phan glybu y gŵr ieuangc yr ymmadrodd hyn, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
23Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddiscyblion, yn wîr y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr aiff y goludog i deyrnas nefoedd.
24A thrachefn meddaf i chwi, haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas nef.
25A phan glybu ei ddiscyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn aruthr, gan ddywedyd, pwy gan hynny a all fôd yn gadwedic?
26A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, gyd â dynion amhossibl yw hyn, ond gyd â Duw pob peth sydd yn bossibl.
27 # 19.27-30 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Paul. Yna #Mar.10.28.|MRK 10:28. Luc.18.28.Petr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, wele nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?
28A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, yn wîr meddaf i chwi #Luc.22.29.pan eisteddo Mâb y dŷn ar orsedd ei ogoniant, chwychwi y rhai a’m dilynasoch i yn yr adenedigaeth, îe, chwychwi a eisteddwch ar ddeuddec gorsedd, ac a fernwch ddeuddec-llwyth Israel.
29A phwy bynnac a wrthodo dai, neu frodyr neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, efe a dderbyn y cant cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.
30 # Math.20.16. Mar.10.31.|MRK 10:31. Luc.13.30. Ond llawer o’r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a’r rhai olaf yn flaenaf.

Dewis Presennol:

Mathew 19: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda