Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 5

5
PEN. V.
Crist wedi dyscu’r bobl o’r llong yn peri helfa fawr o byscod. 12 Yn iachau y gwahanglwyfus. 18 Ac vn claf o’r parlys. 27 Yn galw Lefi. 33 Ac yn dangos pa ham nad ymprydiase ei ddyscyblion ef y pryd hynny.
1 # 5.1-11 ☞ Yr Efengyl y pummed Sul wedi ’r Drindod. Bu #Math.4.18. Marc.1.16.hefyd a’r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, ac efe yn sefyll yn ymyl llynn Genezaret,
2Weled o honaw ddwy long yn sefyll wrth y llynn, a’r pyscod-wŷr a aethent allan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3Wedi iddo fyned i mewn i vn o’r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, efe a ddymunodd arno ei gyrru hi ychydig oddi wrth y tîr, wedi iddo eistedd, efe a ddyscodd y bobl o’r llong.
4Pan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, gyrr i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.
5Yna yr attebodd Simon, ac a ddywedodd wrtho, ô feistr er i ni boeni ar hŷd y nos, ni ddaliasom ni ddim: er hynny ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.
6Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwynt hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a rhwygodd a eu rhwyd hwynt:
7A hwynt a amneidiasant ar eu cyfeilliō, y rhai oeddynt yn y llong arall, fel y gallent ddyfod iw cynnorthwyo hwynt: ac hwynt hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddwy long onid oeddynt yn soddi.
8Pan welodd Simon Petr hyn, efe a syrthiodd wrth liniau’r Iesu, gan ddywedyd: dos ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pechadurus wyfi.
9O blegit braw a ddaethe arno, ac ar y rhai oll oeddynt gyd ag ef, am yr helfa byscod a ddaliasent hwy.
10Felly hefyd ar Iaco, ac Ioan meibion Zebedeus, cymdeithion Simon. Yna y dywedodd yr Iesu wrth Simon: nac ofna, o hyn allan y deli ddynion.
11A phan ddugasant y llongau i’r tir, hwynt hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.
12Ac #Math.8.2. Marc.1.4.fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf, a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef gan ddywedyd, o Arglwydd os ewyllyssi di, ti a elli fyng-lanhau.
13Ac yntef gan estyn ei law a’i cyffyrddodd ef gan ddywedyd, yr wyf yn ewyllyssio, bydd lân: ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a’i gadawodd ef.
14Ac efe a orchymynnodd iddo na ddywede i neb: eithr dos (eb efe) ac ymddangos i’r offeiriad, ac offrwm tros dy lanhâd fel y gorchymynnodd #Lefit.14.4. Moses yn destiolaeth iddynt.
15A’r gair a aeth fwy-fwy am dano ar llêd, a llawer o bobl a ddaethant yng-hyd iw wrando, ac i gael iechyd ganddo o’u clefydau.
16Yntef oedd yn cilio o’r nailltu yn y diffaethwch, ac yn gweddio.
17A bu ar ddiwrnod fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod o’r Pharisæaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno, y rhai a ddaethent, o bob tref yn Galilæa, ac Iudæa, ac o Ierusalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd iw hiachau hwynt.
18Ac wele #Math.9.2. Mar.2.3.rai yn dwyn dŷn mewn gwely, yr hwn a oedd glaf o’r parlys: a hwynt a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef.
19A phryd na chawsant ffordd iw ddwyn ef i mewn gan y bobl, hwynt hwy a ddringasant ar y tŷ, ac a’i gollyngasant ef yn y gwely i’r llawr yn y canol trwy’r pridd-lechau ger bron yr Iesu.
20A phan weles efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd, y dŷn maddeuwyd i ti dy bechodau.
21Yna y ddechreuodd yr scrifennyddion a’r Pharisæaid ymresymmu gan ddywedyd, pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddeu pechodeu, ond Duw yn vnic?
22Pan ŵybu’r Iesu eu hymresymmiad hwynt, efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: pa resymmu yn eich calonnau yr ydych?
23Pa vn hawsaf ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau: a’i dywedyd, cyfot a rhodia?
24Ond fel y gŵybyddoch fod i Fab y dŷn awdurdod ar y ddaiar i faddeu pechodau, (ebr efe wrth y claf o’r parlys) yr wyf yn dywedyd wrthit: cyfot cymmer dy wely, dos i’th dŷ.
25Ac yn y man y cyfodes efe i fynu yn eu gŵydd hwynt, ac efe a gymmerth yr hyn y gorwedde arno, ac a aeth ymmaith iw dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26A syndod a ddaeth ar bawb: a hwynt a folianasant Dduw: ac hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd: gwelsom yn ddiau bethau anhygoel heddyw.
27Yn #Math.9.9. Marc.2.14 ôl hyn yr aeth efe allan, ac a welodd Publican a’i enw Lefi, yn eistedd yn y dollfa, ac efe a ddywedodd wrtho, dilyn fi.
28Ac yntef gan adel y cwbl, a gyfodes i fynu, ac a’i dilynodd ef.
29A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ, lle yr oedd tyrfa fawr o Bublicanod, ac eraill oeddynt yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.
30A’r sawl o honynt oedd scrifennyddion a Pharisæaid a furmurasant yn erbyn ei ddiscyblion ef, gan ddywedyd: pa ham yr ydych chwi yn bwyta, ac yn yfed gyd â’r Publicanod a’r pechaduriaid?
31A’r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: nid rhaid i’r rhai iach wrth feddig, ond i’r rhai cleifion:
32Ni #1.Tim.1.15. ddaethum i alw’r cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
33Yna y dywedasant wrtho: #Math.9.14. Marc.2.18.pa ham y mae discyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gweddio, a discyblion y Pharisæaid hefyd, a’r eiddo ti yn bwytta, ac yn yfed?
34Yntef a ddywedodd wrthynt, a ellwch chwi beri i blant yr stafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodas-fab gyd â hwynt?
35Y dyddiau a ddeuant hefyd pan dynner y priodas-fab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36Ac efe a ddywedodd wrthynt ar ddāmeg: ni rydd neb lain o wisc newydd mewn hên wisc: canys yna y newydd a’i rhwyg, a’r llain o’r newydd ni chyduna â’r hên.
37Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hên gostrelau, canys yna y dryllia’r gwin newydd a y costrelau, ac y rhed efe allan, a’r costrelau a gollir.
38Eithr gwin newydd sydd iw fwrw mewn costrelau newyddion, a phob vn a gedwir.
39Hefyd nid oes neb a ŷf win hên, ac yn y fan a gais y newydd, canys dywed, gwell yw’r hên.

Dewis Presennol:

Luc 5: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 5