Ac fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahanglwyf, a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef gan ddywedyd, o Arglwydd os ewyllyssi di, ti a elli fyng-lanhau.
Ac yntef gan estyn ei law a’i cyffyrddodd ef gan ddywedyd, yr wyf yn ewyllyssio, bydd lân: ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a’i gadawodd ef.