Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 3

3
PEN. III.
Pregeth Ioan. 21 Bedyddiad Crist a’i achau.
1Yn y bymthecfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cæsar, a Phontius Pilatus yn rhaglaw Iudæa, a Herod yn Detrarch Galilæa, a’i frawd Philip yn Detrarch Ituræa a gwlâd Trachonitis, a Lysanas yn Detrarch Abilene,
2Tan yr #Act.4.6.arch-offeiriaid Annas a Chaiphas y daeth gair Duw at Ioan fab Zacharias yn y diffaethwch.
3Ac #Math.3.1. Marc.1.4.efe a ddaeth i bôb goror yng-hylch yr Iorddonen gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau:
4Fel y mae yn scrifennedic yn llyfr ymadroddion #Esa.40.3. Ioan.1.23.Esaias y prophwyd yr hwn sydd yn dywedyd, llef vn yn llefain yn y diffaeth, paratoiwch ffordd yr Arglwydd, inionwch ei lwybrau ef.
5Pôb pant a lenwir, a phôb mynydd a bryn a ostyngir, a’r gŵyrgeimion a wneir yn vniawn a’r geirwon yn ffyrdd gwastad.
6A phôb cnawd a wel iechydwriaeth Duw.
7Ac efe a ddywedodd wrth y bobl a ddeuent iw bedyddio ganddo: Oh genhedlaethau gwiberod, pwy a’ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod? #Math.3.7.
8Dygwch am hynny ffrwyth addas i edifeirwch: ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y gall Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
9Yr awran y mae’r fwyall wedi ei gosod ar wraidd y prennau: pôb pren gan hynny a’r ni ddwg ffrwyth da a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.
10Yna y gofynnodd y bobl iddo gan ddywedyd: pa beth gan hynny a wnawn ni?
11Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt: y #Iac.2.15|JAS 2:15. 1.Ioan 3.17.neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr vn: a’r neb sydd ganddo fwyd gwnaed yr vn modd:
12A’r Publicanod hefyd a ddaethant iw bedyddio, ac a ddywedasant wrtho: yr Athro, beth a wnawn ni?
13Ac efe a ddywedodd wrthynt, na ofynwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
14A’r milwŷr hefyd a ofynnasant iddo ef, gan ddywedyd: a pha beth a wnawn ninnau? ac efe a ddywedodd wrthynt: na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb, a byddwch fodlon i’ch cyflog.
15Fel yr oedd y bobl yn disgwil, a phawb yn meddylied yn eu calonneu am Ioan, ai efe oedd y Crist:
16Yna yr attebodd Ioan gan ddywedyd wrthynt oll: myfi yn ddiau wyf yn eich bedyddio #Math.3.11. Marc.1.8. Ioan.1.26. Act.1.15. & 2.4. & 11.16. & 19.4chwi â dwfr, ond y mae vn sydd gryfach nâ myfi yn dyfod, yr hwn nid wyfi deilwng i ddattod carrei ei escid: efe a’ch bedyddia chwi â’r Yspryd glân, ac â thân.
17Yr hwn y mae ei wyntill yn ei law, ac efe a lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith iw scubor, a’r vs a lysc efe â thân anniffoddadwy.
18A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.
19Herod #Math.14.3. Marc.1.9. Ioan 1.33.y Tetrarch pan geryddwyd ganddo ef am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethe efe,
20A chwanegodd hefyd heb law’r cwbl roi Ioan yng-harchar.
21A bu, pan oeddyd yn bedyddio yr holl bobl a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddio, agoryd o’r nef,
22A’r Yspryd glân a ddescynnodd mewn rhith corphorawl megis colommen arno ef, a llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab: ynot ti i’m bodlonwyd.
23A’r Iesu ei hun oedd yng-hylch dechreu ei ddeng-mlwydd ar hugein oed, mab (fel y tybid) i Ioseph [fab] Eli,
24[Fab] Matthat [fab] Lefi, [fab] Melchi, [fab] Ianna, [fab] Ioseph,
25[Fab] Matthathias, [fab] Amos, [fab] Naum, [fab] Esli, [fab] Naggai,
26[Fab] Maath, [fab] Matthathias, [fab] Semei, [fab] Ioseph, [fab] Iuda,
27[Fab] Ioanna, [fab] Rhesa, [fab] Zorobabel, [fab] Salathiel, [fab] Neri,
28[Fab] Melchi, [fab] Adi, [fab] Cosam, [fab] Elmodam, [fab] Er,
29[Fab] Iose, [fab] Eliazer, [fab] Iorim, [fab] Matthat, [fab] Lefi,
30[Fab] Simeon, [fab] Iuda, [fab] Ioseph, [fab] Ionan, [fab] Eliacim,
31[Fab] Melea, [fab] Mainan, [fab] Mattatha, [fab] Nathan, [fab] Dafydd,
32[Fab] Iesse, [fab] Obed, [fab] Booz, [fab] Salmon, [fab] Naasson,
33[Fab] Aminadab, [fab] Aram, [fab] Esron, [fab] Phares, [fab] Iuda,
34[Fab] Iacob, [fab] Isaac, [fab] Abraham, [fab] Thara, [fab] Nachor,
35[Fab] Seruch, [fab] Ragau, [fab] Phalec, [fab] Heber, [fab] Sala,
36[Fab] Cainan, [fab] Arphaxad, [fab] Sem, [fab] Noe, [fab] Lamech,
37[Fab] Mathusala, [fab] Enoch, [fab] Iarad, [fab] Maleleel, [fab] Cainan,
38[Fab] Enos, [fab] Seth, [fab] Adda, [fab] Duw.

Dewis Presennol:

Luc 3: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 3