Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 24

24
PEN. XXIIII.
Dyfodiad y gwragedd i’r bedd. 13 Ymddangosias Crist i’r ddau ddiscybl y rhai oeddynt yn myned tu ag Emmaus. 36 Y modd yr ymddangosodd efe yn ddisymmwth ym mysc y discyblion. 44 Y gorchymyn a’r addewid a roddes efe iddynt hwy. 50 Y modd y derchafodd efe i’r nef. 53 Ac y bu ymwreddiad ei ddiscyblion ef wedi hynny.
1Y dydd #Math.28.1. Marc.16.1. Ioan.20.1.cyntaf o’r wythnos ar y cynddydd hwynt hwy a ddaethant i’r bedd gan ddwyn y pêr-aroglau y rhai a baratoesent, a rhai gyd ag hwynt.
2Ac hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymmaith oddi wrth y bedd.
3Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.
4Ac fe a ddarfu a hwy wedi synnu am y peth hyn, wele, dau ŵr a safasant wrthynt hwy mewn gwiscoedd disclaer.
5Ac wedi iddynt ofni yn gostwng eu hwynebau tu a’r ddaiar, hwynt hwy a ddywedâsant wrthynt, pa ham y ceisiwch chwi y byw ym mysc y meirw?
6Nid ydyw efe ymma, ond efe a gododd: cofiwch #Pen.9.22.|LUK 9:22. Matth.17.23.|MAT 17:23. Marc.9.31.pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe etto yn Galilæa,
7Gan ddywedyd, rhaid yw rhoi Mâb y dŷn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groes-hoelio, a’r trydydd dydd adgyfodi.
8A chofiasant ei eiriau ef.
9Dychwelasant hefyd oddi wrth y bedd, a mynegasant oll i’r vn ar ddêc, ac i’r lleill oll.
10A Mair Fagdalen, ac Ioanna, a Mair [mam] Iaco, ac eraill gyd â hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr Apostolion.
11Eithr, fel gwegi oedd ganddynt eu geiriau hwy, ac ni’s credasant hwynt.
12Yna Petr a gododd i fynu, ac redodd i’r bedd, ac a edrychodd i mewn, ac a welodd y lliain wedi wedi eu rhoddi o’r nailltu, ac a aeth i mewn gan ryfeddu rhyngddo ag ef ei hun am y peth a ddarfuase.
13 # 24.13-35 ☞ Yr Efengyl ar ddie llun Pasc. Ac wele, #Mar.16.12.dau o honynt a aethant y dydd hwnnw i dref a’i henw Emmaus, yr hon oedd yng-hylch trugain stâd oddi wrth Ierusalem.
14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau a ddigwyddase.
15Ac fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â’i gilydd, yr Iesu yntef a nessaodd, ac a aeth gŷd â hwynt.
16Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd fel na’s adwaenent ef.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn sydd gennych wrth eu gilydd dan rodio? a [pha ham] yr ydych yn drist?
18A’r naill (a’i enw Cleophas) a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, a ydwyt ti yn vnic yn ymdeithudd yn Ierusalem, ac ni ŵyddost y pethau a ddarfu yn y dyddiau hyn ynddi hi?
19Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? hwythau a ddywedasant wrtho: yr hyn [a wnaethpwyd] i Iesu o Nazareth yr hwn oedd ŵr a oedd brophwyd galluoc mewn gweithred a gair ger bron Duw a’r holl bobl.
20A’r modd y rhoddes yr arch-offeiriaid a’n llywodraeth-wŷr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croes-hoeliasant ef.
21Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a warede’r Israel: ac heb law hynny, hwn yw yr trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
22A hefyd rhai o’r gwragedd o’n plith ni a’n dychrynnasant ni, y rhai a ddaethant yn foreu at y bedd.
23A phan na chawsant ei gorph ef hwynt hwy a ddaethant gan ddywedyd, weled o honynt weledigaeth o angelion, y rhai a ddywedasant ei fôd efe yn fyw.
24A rhai o’r rhai oedd gyd â nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant fel y dywedase yr gwragedd, ond ni welsant ef,
25Yna y dywedodd efe wrthynt; ô ynfydion a hwyrfrydic o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y prophwydi.
26Ond oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, ac wedi hynny myned iw ogoniant?
27A chan ddechreu ar Moses a’r holl brophwydi efe a agorodd iddynt yn yr holl scrythyrau y pethau oeddynt scrifennedig o honaw ef.
28Ac yr oeddynt yn nesau i’r dref i’r hon yr oeddynt yn myned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn myned ym-mhellach.
29Ac hwy a’i cymmellasant ef gan ddywedyd, aros gyd â ni, canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod: ac efe a aeth i mewn i aros gŷd ag hwynt.
30A darfu ag efe yn eistedd gŷd ag hwynt, efe gan gymmeryd bara a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt.
31Yna’r agorwyd eu llygaid hwynt, ac yr adnabuant ef: ac efe a ddifannodd allan o’u golwg hwynt.
32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, onid oedd ein calonnau ni yn llosci ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan â nyni ar y ffordd? a thra’r ydoedd efe yn agoryd i ni’r scrythyrau?
33A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr vn ar ddêc wedi ymgasclu yng-hŷd, a’r sawl oedd gŷd â hwynt,
34Ac a ddywedasant, yr Arglwydd a gyfododd yn wîr, ac a ymddangosodd i Simon.
35Yna y mynegasant y pethau [a wnaethesid,] ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuant ef wrth doriad y bara.
36 # 24.36-48 ☞ Yr Efengyl ddydd mawrth Pasc. # Mar.16.14.|MRK 16:14. Ioh.20.19. Ac hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt: tangnheddyf i chwi.
37Hwythau wedi brawychu, ac ofni a dybiasant weled o honynt yspryd.
38Dywedodd yntef wrthynt, pa ham i’ch trallodir, a pha ham y mae traws-feddyliau yn codi yn eich calonnau?
39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi yw efe: teimlwch fi a gwelwch: canys nid oes i yspryd gnawd, ac escyrn fel y gwelwch fôd i mi.
40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.
41Tra yr oeddynt hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt hwy, a oes gennych ymma ddim bwyd?
42A hwy a roesant iddo ef ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43Yntef a’i cymmerodd, ac a’i bwyttaodd yn eu gŵydd hwynt.
44Ac efe a ddywedodd wrthynt: y rhai hyn yw yr geiriau a ddywedais i wrthych chwi, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cyflawni pôb peth sydd yn scrifennedic am danaf yng-hyfraith Moses, a’r prophwydi, a’r Psalmau.
45Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y dehallent yr scrythyrau.
46Ac efe a ddywedodd wrthynt, felly y mae yn scrifennedig, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:
47A phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym-mhlith y cenhedloedd oll, gan ddechreu yn Ierusalem.
48Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49Ac wele, mi a anfonaf #Ioh.15.26.|JHN 15:26. Act.1.4addewid fy Nhâd i chwi: arhoswch yn ninas Ierusalem, hyd oni wiscer chwi â nerth o’r vchelder.
50Ac efe a’u dug hwynt allan hyd yn Bethania, ac a gododd ei ddwylaw, ac a’i bendithiodd hwynt.
51Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, #Mar.16.9.|MRK 16:9. Gwerth.9.(sic.)ymadel o honaw ef oddi wrthynt: ac efe a dducpwyd i fynu i’r nef.
52A hwy wedi iddynt ei addoli ef a ddychwelasant i Ierusalem â llawenydd mawr.
53Ac yr oeddynt yn oestadol yn y Deml, yn moli, ac yn clodfori Duw. Amen.
Terfyn Efengyl yn ôl Luc.

Dewis Presennol:

Luc 24: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 24