Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 23

23
PEN. XXIII.
Y modd y dygwyd Crist o flaen Pilat a Herod, 18 Y dewiswyd Barabbas oi flaen ef. 26 Y gwnaed i Simon ddwyn ei groes ef, 27 ac ateb Crist i’r gwragedd galarus. 33 Y modd y dioddefodd Crist gan weddio tros ei elynion, 35 Ac y claddwyd ef.
1 # 23.1-56 ☞ Yr Efengyl ddydd Iau cyn y Pasc. Yna y #Math.27.1. Math.22.21. mar.12.17.cyfododd yr holl liaws, ac a’i dugasant ef at Pilatus.
2Ac a ddechreuasant achwyn arno, gan ddywedyd, nyni a gawsom hwn yn * gŵyrdroi’r bobl, ac yn gwahardd talu teyrn-ged i Cæsar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.
3Yna #Math.27.11.|MAT 27:11. marc.15.2.|MRK 15:2. ioan.18.33.Pilatus a ofynnodd iddo gan ddywedyd, ai ti yw Brenin yr Iddewon? ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, yr wyt ti yn dywedyd.
4Yna y dywedodd Pilatus wrth yr arch-offeiriaid, a’r bobl, nid ydwyfi yn cael dim bai ar y dŷn hwn.
5Ac hwy a fuant daerach gan ddywedyd, y mae efe yn cyffroi’r bobl, gan ddyscu trwy holl Iudæa, wedi dechreu o Galilæa hyd ymma.
6A phan glybu Pilatus sôn am Galilæa, efe a ofynnodd ai Galilæad ydoedd efe.
7A phan ŵybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a’i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd y dyddiau hynny yn Ierusalem.
8A phan welodd Herod yr Iesu, efe a lawennychodd yn fawr, am ei fôd yn ewyllysio ei weled ef er ystalm o amser, o blegit iddo glywed llawer am dano ef, ac yr ydoedd efe yn gobeithio cael gweled rhyw ryfeddod ganddo.
9Ac efe a ofynnodd iddo lawer o chwedlau, eithr nid attebodd efe ddim iddo ef.
10A’r arch-offeiriaid, a’r scrifennyddion a safasant, ac a achwynasant arno ef yn haerllyg.
11A Herod, a’i filwŷr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a’i watwar, a’i wisco â gwisc glaerwen, a’i danfonodd ef trachefn at Pilatus.
12A’r dydd hwnnw y cymmododd Herod â Philatus? canys gelynion oeddynt o’r blaen iw gilydd.
13Yna Pilatus, wedi galw yng-hŷd yr arch-offeiriaid, a’r llywiawd-wŷr a’r bobl,
14A #Math.27.23. marc.15.14.ddywedodd wrthynt, chwy-chwi a ddugasoch y dŷn hwn attafi, fel vn a fydde yn gwyr-droi y bobl, ac wele, mi a’i holais ef yn eich gŵydd chwi, #Ioan.18.38. & 19.4.ac ni chefais yn y dŷn hwn ddim yr vn o’r beiau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:
15Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele ni wnaed iddo ef ddim yn haeddu marwolaeth.
16Am hynny mi a’i ceryddaf ef, ac a’i gollyngaf ymmaith.
17(Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng vn yn rhydd iddynt ar yr ŵyl)
18Yna’r holl dyrfa a lefodd ar vn-waith, gan ddywedyd, ymmaith ag ef, a gollwng i ni yn rhydd Barabbas:
19Yr hwn am ryw derfysc a llofruddiaeth a wneuthid yn y ddinas a fwriasid yng-harchar.
20A Philatus a ymddiddanodd â hwynt drachefn mewn ewyllys i ollwng yr Iesu yn rhydd.
21A hwy a wrth-lefasant arno, gan ddywedyd, croes-hoelia, croes-hoelia ef.
22Ac yntef a ddywedodd wrthynt y drydydd waith, eithr pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i achos marwolaeth ynddo: am hynny wedi i mi ei gospi ef, mi a’i gollyngaf ef.
23Hwythau a fuant daerion â llefain vchel, gan erchi ei groes-hoelio ef: a’u llefauin hwynt a’r arch-offeiriaid a orfuant.
24Yna Pilatus a farnodd wneuthur eu dymuniad hwynt.
25Ac ai gollyngodd ef yn rhydd iddynt, yr hwn am derfysc a llofruddiaeth a fwriasit yng-harchar, yr hwn a ofynnasant: ac a roddodd yr Iesu iw hewyllys hwynt.
26 # Math.27.31. mar.15.21 Aphan oeddynt yn ei ddwyn ef ymmaith, daliasant vn Simon o Cyrene, yn dyfod o’r wlâd, ac a ddodasant y groes arno ef iw dwyn ar ôl yr Iesu.
27A thyrfa fawr o bobl, ac o wragedd oeddynt yn ei ganlyn ef, y rhai oeddynt yn cwynfan, ac yn galaru o’i blegit ef.
28A’r Iesu a droes attynt gan ddywedyd, merched Ierusalem, nac ŵylwch o’m hachos i, eithr ŵylwch o’ch achos eich hunain a’ch plant.
29Canys wele, fe a ddaw yr dyddiau y dywedant, gwyn eu byd y rhai amhlantadwy a’r crothau y rhai ni heppiliasant, a’r bronnau y rhai ni roesant sugn.
30Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, #Esai.2.19.|ISA 2:19. Ose.10.8. Gwele.6.16.syrthiwch arnom: ac wrth y bryniau cuddiwch ni.
31Canys #1.Petr.4.17.os gwnant hyn yn y prenn îr, pa beth a wnair i’r crin?
32A fe a #Math.27.38. Marc.15.27. Ioan.19.18.ddygwyd dau eraill, y rhai [oeddynt] ddrwg weithredwŷr iw rhoi iw marwolaeth gŷd ag ef.
33A phan ddaethant i’r lle a elwir y Benglogfa, yno y croes-hoeliasant ef a’r drwgweithredwŷr: vn ar ei ddeheulaw, a’r llall ar ei law aswy.
34A’r Iesu a ddywedodd, o Dâd, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. Ac hwynt a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goel-bren.
35A’r bobl a safasant yn edrych: a’r pennaethiaid hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddywedyd, efe a waredodd rai eraill, gwareded ei hun os hwn yw Crist detholedig Duw.
36A’r milwŷr hefyd a’i gwatwarasant ef gan ddyfod atto, a chynnig iddo finegr,
37Gan ddywedyd, os ty di yw Brenin yr Iddewon, gwaret dy hun.
38Ac yr ydoedd ei scrifen ef wedi ei scrifennu vwch ei benn, a llythyrennau Groeg, Ladin, ac Ebrew: Hwn yw brenin yr Iddewon.
39Ac vn o’r drwg-ddynion a’r a gros-hoeliasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, os ty di yw Crist, gwaeret ty hun a ninnau.
40A’r llall a attebodd, ac a’i ceryddodd ef gan ddywedyd, ond ydwyt ti yn ofni Duw am dy fôd dan yr vn farn?
41A nyni yn ddiau [a gospir] yn gyfiawn canys yr ydym yn derbyn yr hyn sydd addas am yr hyn a wnaethom, eithr ni wnaeth hwn ddim anghymhesur.
42Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd coffa fi pan ddelech i’th deyrnas.
43A’r Iesu a ddywedodd wrtho, yn wîr meddaf i ti, heddyw y byddi di gŷd â mi ymmharadwys.
44Ac yr ydoedd hi yng-hylch y chweched awr: a thywyllwch a fu ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr.
45A’r haul a dywyllodd, a llenn y Deml a rwygodd yn ei chanol.
46A’r Iesu gan lefain â llef vchel a ddywedodd, #Psal.31.5.fy-Nhâd, i’th ddwylo yr wyf yn rhoddi fy yspryd: ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.
47A phan welodd y Canwriad y peth a fu, efe a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, yn wîr, yr oedd y gŵr hwn yn gyfiawn.
48A’r holl dyrfa y rhai a ddaethēt yng-hŷd i edrych, wrth weled y pethau a fu a ddychwelasant gan guro eu dwyfronnau.
49A’i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a’r gwragedd y rhai a’i canlynasent ef o r Galilæa, oeddynt yn edrych ar y pethau hyn.
50Ac #Math.27.57. Marc.15.43. Ioan.19.38.wele gŵr a elwid Ioseph, cynghôrwr, gŵr da a chyfiawn.
51(Yr hwn ni chyttunase ai cyngor, ac ai gweithred hwynt) o Arimathea dinas yr Iddewon: yr hwn oedd hefyd yn disgwil am deyrnas Dduw.
52Hwn a ddaeth at Pilatus, ac a ofynnodd gorph yr Iesu.
53Ac wedi iddo ei dynnu i lawr, efe ai amdôdd ef mewn lliain main, ac ai rhoddes mewn bedd wedi ei dorri o’r graig, yn yr hwn ni roddasid dŷn er ioed.
54Ar dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a’r Sabboth yn canlyn.
55A’r gwragedd hefyd y rhai a ddaethent gŷd ag ef o Galilæa, ac oeddynt yn canlyn a welsant y bedd, a pha fodd y rhoddasid ei gorph ef.
56Ac wedi eu dychwelyd hwynt, hwy a baratoasant ber-aroglau, ac ennaint: ac a orphywysasant ar y Sabboth yn ôl y gorchymyn.

Dewis Presennol:

Luc 23: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 23