Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 1

1
PENNOD. I.
Rhieni Ioan a’i genhedliad. 26 Mair wedi i’r Angel ei chyfarch yn beichiogi trwy’r Yspryd glân, yn ymweled ag Elisabeth ei chares, ac yn canu mawl i Dduw. 57 Genedigaeth ac enw Ioan. 68 Zacharias yn canu mawl i Dduw.
1Gan ddarfod i lawer gymmeryd arnynt drefnu arddangodiad o’r pethau sy lawn hyspus yn ein plith,
2Fel y traddododd i ni y rhai oeddynt eu hunain o’r dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair,
3Mi a welais fod yn dda, wedi i mi ddilyn y cwbl yn ddyfal o’r dechreuad, scrifennu mewn trefn attat, ô ardderchoccaf #Act.1.1. Theophilus,
4Fel yr adnabyddit wirionedd y pethau i’th ddyscwyd ynddynt.
5Yr oedd yn nyddiau Herod frenin Iudæa ryw offeiriad a’i enw Zacharias o gylch #1.Cron.24.10.Abia, a’i wraig [oedd] o ferched Aaron ai henw Elisabeth.
6Yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, ac yn rhodio yn holl orchymynnion a deddfau’r Arglwydd, yn ddifeius.
7Ac nid oedd ddim plant iddynt, am fod Elisabeth heb planta, ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8A bu ag efe yn gwasanaethu swydd offeiriad, yn ôl trefn ei gylch, ger bron Duw,
9Yn ôl arfer swydd yr offeiriad, ddyfod o ran iddo arogl-darthu, yn ôl ei fyned i Deml yr Arglwydd:
10A’r lliaws pobl oll oedd allā yn gweddio ar awr yr arogl-darthiad.#Lefit.16.17. Exod.30.7.
11Yna yr ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogl-darth.
12A Zacharias pan ganfu, a gythruddodd, ac ofn a syrthiodd arno.
13A’r Angel a ddywedodd wrtho: nac ofna Zacharias canys gwrandawyd dy weddi: a’th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.
14A bydd i ti lawenydd a gorfoledd, a llawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
15Canys mawr fydd efe yng-olwg yr Arglwydd, ac nid ŷf na gwin na diod gadarn, ac efe a gyflawnir o’r Yspryd glân o groth ei fam,
16A #Malac.4.6.|MAL 4:6. Math.11.14llawer o feibion Israel a drŷ efe at yr Arglwydd eu Duw.
17Canys efe a rodio ger ei fron ef, yn yspryd a nerth Elias, fel y trŷ calonnau’r tadau at y plant, a’r rhai gwrthryfelgar i ddoethineb y cyfiawn: i ddarpar i’r Arglwydd bobl barot.
18Yna y dywedodd Zacharias wrth yr angel: pa fodd y gwybyddafi hyn? Canys henaf-gwr wyfi, a’m gwraig hefyd mewn gwth o oedran.
19A’r angel gan atteb a ddywedodd wrtho, myfi yw Gabriel yr hwn wyf yn sefyll yng-olwg Duw, ac a anfoned i lefaru wrthit, ac i efangylu i ti hynn.
20Ac wele, ti a fyddi fud, ac ni elli lefaru hyd y dydd y gwneler y pethau hynn, am na chredit i’m geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser.
21Ac yr oedd y bobl yn aros am Zacharias, ac yn rhyfeddu ei fod efe yn aros yn y Deml.
22A phan ddaeth efe allan, ni alle efe ddywedyd wrthynt: ac hwy a wybuant weled o honaw weledigaeth yn y Deml: canys efe a amneidiodd arnynt, ac a arhosodd yn fud.
23A phan ddarfu cyflawni dyddiau ei weinidogaeth, efe a aeth iw dŷ ei hun.
24Ac yn ôl y dyddiau hynny y cafodd Elisabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum-mis gan ddywedyd:
25Felly y gwnaeth yr Arglwydd i mi yn y dyddiau’r edrychodd i dynnu ymmaith fyngwradwydd ym mhlith dynion.
26 # 1.26-38 ☞ Yr Efengyl ar ddydd cyfarchiad Mair. Ac yn y chweched mis yr anfonwyd yr angel Gabriel oddi wrth Dduw, i ddinas yn Galilæa a’i henw Nazareth,
27At forwyn #Math.1.18.wedi ei dyweddio i ŵr a’i enw Ioseph o dŷ Ddafydd, ac enw’r forwyn oedd Mair.
28A’r angel a aeth i mewn atti ac a ddywedodd: hanphych well yr hon a gefaist râs, yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ym mhlith gwragedd.
29Pan welodd hi [ef,] brawychu a wnaeth wrth ei ymadrodd ef: a meddwl pa fath gyfarch oedd hwn.
30Yna y dywedodd yr angel wrthi, nac ofna Mair, canys ti a gefaist râs ger bron Duw.
31Ac #Esa.7.14.wele, ti a gei feichiogi, ac a escori ar fab, ac #Luc.2.21. Math.1.21.a elwi ei enw ef Iesu.
32Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd:
33 # Dan.7.27. Mich.4.7. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.
34A Mair a ddywedodd wrth yr angel: pa fodd y bydd hynn, gan nad adwen i ŵr?
35A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a’th gyscoda di: am hynny y peth sanctaidd a aner o hanot, a elwir yn Fab Duw.
36Ac wele Elisabeth dy gares yn feichiog o fab yn ei henaint, a hwn yw’r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn ammhlantadwy.
37Canys gyd â Duw ni bydd dim yn amhossibl.
38Yna y dywedodd Mair, wele wasanaethyddes yr Arglwydd: bydded i mi yn ôl dy air di. A’r angel a aeth ymmaith oddi wrthi hi.
39A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac aeth i’r mynydd-dir ar frys i ddinas o Iudæa,
40Ac hi a aeth i mewn i dŷ Zacharias, ac a gyfarchodd Elisabeth.
41A phan glybu Elisabeth gyfarch Mair, y plentyn yn ei chroth hi a lammodd, ac Elisabeth a lanwyd o’r Yspryd glân.
42A llefain a wnaeth â llef vchel, a dywedyd: bendigedig wyt ti ym mhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth.
43Ac o ba le y mae i mi hyn, ddyfod mam fy Arglwydd attafi?
44Canys wele er cynted y daeth lleferydd dy gyfarch di i’m clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fyng-hroth.
45A bendigedig yw yr hon a gredodd: canys cyflawnir y pethau a ddywedpwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46Yna y dywedodd Mair, y mae fy enaid yn mawrhau yr Arglwydd,
47A’m hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy iachawdr.
48Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: ac o hynn allan pob oes a’m geilw i yn wynfydedig.
49Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd: a sanctaidd yw ei enw ef.
50A’i drugaredd [sydd] yn oes oesoedd, i’r rhai a’i hofnant ef.
51 # Esa 51.9. Efe a wnaeth gadernid â’i fraich, #Psal.33.10. Esa. 29.15efe a wascarodd y rhai beilchion ym mwriadau eu calonnau.
52Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o’i gorseddfeingciau, ac a dderchafodd y rhai gwael.
53Y #1.Sam 2.6.|1SA 2:6. Psal.34.11.rhai newynog a lanwodd efe â phethau da: ac efe a anfonodd ymmaith y rhai goludog mewn eisieu.
54Efe #Esa 30.18.|ISA 30:18. &. 41.9|ISA 41:9. &. 54.5.a dderbyniodd ei wâs Israel, gan gofio ei drugaredd.
55(Fel y dywedodd wrth ein tadau #Gen.17.19.|GEN 17:9. & 22.17.|GEN 22:17. Psal.132.11.Abraham a’i had) yn dragywydd.
56A Mair a arhosodd gyd â hi yng-hylch tri mis, ac yna yr aeth hi iw thŷ ei hun.
57 # 1.57-80 ☞ Yr Efengyl ar ddigwyl Ioan fedyddiwr. Wedi cyflawni tymp Elisabeth i escor, hi a escorodd ar fab.
58A phan glybu ei chymydogion a’i chenedl hi fawrhau o’r Arglwydd ei drugaredd arni, #Luc.1.14. hwynt hwy a gyd-lawenychasant â hi.
59A bu ar yr wythfed dydd, pan ddaethant i anwaedu ar y dŷn bychan, iddynt alw ei enw yn ôl enw ei dâd Zacharias.
60A’i fam ef a attebodd ac a ddywedodd: nid felly, eithr ei enw ef fydd Ioan.
61Hwythau a ddywedasant wrthi, nid oes neb o’th genedl a elwir ar yr enw hwn.
62Yna yr amneidiasant ar ei dad pa fodd y mynne efe ei henwi ef.
63Ac yntef wedi iddo alw am orgraph-lech a scrifennodd gan ddywedyd, #Luc.1.13. Ioan yw ei enw ef, a rhyfeddu a wnaethant oll.
64Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a’i dafod ef a lefarodd, gan fendithio Duw.
65Yna y daeth ofn ar eu holl gynydogion hwynt, a thrwy holl fynydd-dir Iudæa y cyhoeddwyd y geiriau hynn oll.
66A phawb a’r a’u clywsant a’u gosodasant yn eu calonneu gan ddywedyd. Beth fydd y bachgenyn hwn? canys llaw’r Arglwydd oedd gyd ag ef.
67Yna ei dad Zacharias, a gyflawnwyd o’r Yspryd glân, ac a brophwydodd gan ddywedyd:
68Bendigeid fyddo Arglwydd Dduw Israel, canys efe a ymwelodd ac a brynodd ei bobl.
69Ac efe a dderchafodd nerth iechydwriaeth i ni, yn nhŷ Ddafydd ei wasanaeth-ŵr,
70 # Psal.132.1. Ier.23.6. Megis dywedodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oeddent er ioed,
71[Yr anfone efe i ni] iechydwriaeth oddi wrth ein gelynion, ac o law ein holl gaseion,
72Gan wneuthur trugaredd â’n tadau, a chofio ei sanctaidd gyfammod:
73A’r #Gen.22.16.|GEN 22:16. Iere.31.33.|JER 31:33. Heb.6.13llw a dyngodd efe i’n tâd Abraham, ar ei roddi i ni,
74[Sef bod i ni] yn ddiofn wedi ein rhyddhau o law ddwylo ein gelynion, ei wasanaethu ef
75Mewn #1.Pet.1.13 sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.
76A thithe fachgenyn a elwir yn brophwyd i’r Goruchaf: #Mal.3.5. canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd i baratoi ei ffyrdd ef,
77I roddi gŵybodaeth iechydwriaeth iw bobl ef gan faddeu eu pechodeu,
78O herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy’r hon yr ymwelodd â ni #Zach.3.8. Mal.4.2.godiad haul o’r vchelder:
79I lewychu i’r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf.
80A’r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i’r Israel.

Dewis Presennol:

Luc 1: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Fideo ar gyfer Luc 1