Ac wele, ti a gei feichiogi, ac a escori ar fab, ac a elwi ei enw ef Iesu.
Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd:
Ac efe a deyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.