Luc 1:31-33
Luc 1:31-33 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab. Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo. Bydd yn ddyn pwysig iawn, a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf. Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd, a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth. Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”
Luc 1:31-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”
Luc 1:31-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU. Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf: ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei dad Dafydd. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd; ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.