Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 2

2
PEN. II.
Trefn y bwyd offrwm, ai bobiad.
1Pan offrymmo dŷn fwyd offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef beillied: a thywallded olew arno, a rhodded thus arno.
2Yna #Lefif.6.15.dyged ef at feibion Aaron yr offeiriaid a chymmered oddi yno loned ei law oi beillied ac oi olew, yng-hyd ai hôll thus, a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn aberth tanllyd o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
3A [bydded] gweddill y bwyd offrwm i Aaron ac iw feibion, yn sanctaidd-beth cyssegredic o danllyd aberth yr Arglwydd.
4Hefyd pan offrymmech fwyd offrwm, wedi ei bobi [mewn] ffwrn, [dod] deissennau peillied croiw, wedi eu cymmyscu trwy olew, ac afrllad croiw wedi eu hîro ag #Leuit 6.21.olew.
5Ond os bwyd offrwm ar radell [fydd] dy offrwm di, bydded beillied wedi ei gymmyscu yn groiw mewn olew.
6Torr ef yn dammeidiau, a thywallt arno olew, bwyd offrwm yw hwn.
7Ac os bwyd offrwm padell [sydd] dy offrwm, gweithier beillied trwy olew.
8A dwg i’r Arglwydd y bwyd offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn, sef dwg ef at yr offeiriad a dyged yntef ef at yr allor.
9A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd offrwm, a llosged ar yr allor, yn danllyd a berth, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
10A [bydded] i Aaron ac iw feibion weddill y bwyd offrwm, yn sanctcidd-beth cyssegredic o dânllyd aberth yr Arglwydd.
11Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd offrwm yr hwnn a offrymmoch i’r Arglwydd: canys am bob sur-does, a phob mêl na losgwch o honaw aberth tanllyd i’r Arglwyd.
12Offrymmwch y rhai hynny i’r Arglwydd yn offrwm blaen-ffrwyth, ond nac ânt ar yr allor [i fod] yn arogl esmwyth.
13Dy holl fwyd offrwm hefyd a hellti #Math.5.13. Marc.9.50. Luc.14.34.di a halē, ac na phalled halen cyfammod dy Dduw o fod ar dy fwyd offrwm: offrymma halē ar bob offrwm it.
14Ac os offrymmi i’r Arglwydd fwyd offrwm y ffrwythau cyntaf: twysennau wedi eu crassu yn tân [sef] yr hyn a gurir allan o’r dwysen îr-lawn a offrymmi di, yn fwyd offrwm dy ffrwythau cyntaf.
15A dod olew arno, a gossot thus arno, bwyd offrwm [yw] hynn.
16A llosged yr offeiriad ei goffodwriaeth oi ŷd wedi ei guro allan, ac oi olew yng-hyd ai holl thus yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

Dewis Presennol:

Lefiticus 2: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda