Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Lefiticus 1

1
PENNOD. I.
1 Trefn y poeth offrymmau 3 o eidionnau. 10 o ddefaid, neu eifr. 14 ac o âdar.
1Yna yr Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod: gā ddywedyd.
2Llefara wrth feibion Israel a dywet wrthynt: pan ddygo dŷn o honoch offrwm i’r Arglwydd: o anifail [sef] o’r eidionnau neu o’r praidd, yr offrymmwch eich offrwm.
3Os poeth offrwm o eidion [fydd] ei offrwm ef, offrymed efyn wryw perffaith-gwbl, a dyged ef wrth ei ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.
4A gosoded ei law ar benn y poeth offrwm, fel y cymmerer ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur iawn trosto.
5 # Leuit.9.12. Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd, a dyged meibion Aaron yr offeiriaid y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon [fydd wrth] ddrws pabell y cyfarfod.
6Yna blinged y poeth offrwm, a dryllied ef yn ddrylliau.
7A gosoded meibiō Aarō yr offeiriad dân ar yr allor, a gossodant goed ar y tân.
8A gossoded meibion Aaron yr offeiriaid y drylliau yng-hyd a’r penn, a’r gwêr ar y coed y rhai [a fyddant] ar y tân yr hwn [sydd] ar yr allor.
9Onid ei berfedd, ai draed, a ŷlch efe mewn dwfr, a’r offeiriad a lysc y cwbl ar yr allor, yn boeth offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
10Ac os o’r praidd [sef] o’r defaid, ne o’r geifr, [yr offrymma efe] boeth offrwm, offrymmed hwnnw yn wryw perffaith-gwbl.
11A lladded ef ger bron yr Arglwydd o du’r gogledd i’r allor, a thaenelled meibion Aaron yr offeiriaid ei waed ef ar yr allor o amgylch.
12A thorred ef yn ddrylliau gyd ai ben ai wêr, a gossoded yr offeiriad hwynt ar y coed, y rhai [a fyddant] ar y tân, yr hwn [sydd] ar yr allor.
13Onid golched y perfedd, a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor, hwn sydd boeth offrwm yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.
14Ac os poeth offrwm o adêryn [fydd] ei offrwm ef i’r Arglwydd: yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod.
15A dyged yr offeiriad ef wrth yr allor, a thorred ei bēn ef rhwng ei fŷs ai fawd, a llosged ar yr allor: a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor.
16A thynned ymmaith ei grombil ef ynghyd ai blu, a bwried hwynt ger llaw yr allor, o du’r dwyrain i’r lle [y byddo] y lludw.
17Hollded ef hefyd rhwng ei adenydd [etto] na wahaned: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed y rhai [fyddant] ar y tân: dymma boeth offrwm yn aberth tanllyd, o arogl esmwyth i’r Arglwydd.

Dewis Presennol:

Lefiticus 1: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda