Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 3

3
PEN. III.
3 Crist yn addyscu Nicodemus yng-hylch yr adenedigaeth. 15 Am ffydd. 16 Am serch Duw er llês i’r byd, 23 Dysceidiaeth, a bedydd Ioan. 28 A’r destiolaeth a ddug efe am Grist.
1 # 3.1-15 ☞ Yr Efengyl ar Sul y Drindod. Ac yr oedd dyn o’r Pharisæaid, a’i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon.
2Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nôs, ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, nyni a wyddom mai dyscawdur ydwyt ti wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys nid alle neb wneuthur y gwrthiau hyn y rhai yr ydwyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gyd ag ef.
3Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, yn wir, yn wir meddaf i ti, oddi eithr geni dyn trachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
4Nicodemus a ddywedodd wrtho ef, pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hôn? a ddichon efe fyned i groth ei fam trachefn a’i eni?
5Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, yn wîr yn wîr meddaf i ti, oddi eithr gem dyn o ddwfr. ac o’r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.
6Yr hyn a aned o’r cnawd sydd gnawd, a’r hyn a aned o’r Yspryd sydd yspryd.
7Na ryfedda di ddywedyd o honofi wrthit y bydd rhai eich geni chwi trachefn.
8Y mae y gwynt yn chwythu lle y mynno, a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba lê y mae yn dyfod, nac i ba lê yr aiff: felly y mae pawb a’r a aned o’r Yspryd.
9Nicodemus a attebodd, at a ddywedodd wrtho, pa fodd y dichon y pethau hyn fod?
10Iesu a attebodd, a a ddywedodd wrtho, a wyt ti yn ddyscawdur yn Israel, ac ni ŵyddost ti y pethau hyn?
11Yn wîr, yn wîr meddafi ti, mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei ddywedyd, a’r hyn a welsom yr ydym yn ei destiolaethu, ond nid ydych yn derbyn ein testiolaeth ni.
12Os dywedais i chwi bethau daiarol, a chwithau nid ydych yn credu, pa fodd y credech pe dywedwn i chwi bethau nefol?
13Ac ni escynnodd neb i’r nêf, oddi eithr yr hwn a ddescynnodd o’r nef, [sef] Mab y dŷn yr hwn sydd yn y nef.
14Ac #Num.21.9.megis y derchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y bydd rhaid derchafu Mâb y dŷn.
15Fel na choller pwy bynnac a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol.
16 # 3.16-21 ☞ Yr Efengyl ddydd llun y Sulgwyn Canys #1.Ioan.4.9.felly y cârodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei vni-genedic fab, fel na choller nêb a’r y sydd yn crêdu ynddo ef, eithr caffael o honaw ef fywyd tragywyddol.
17O blegit #Pen.9.39. & 12.47.ni ddanfonodd Duw ei fâb i’r byd i farnu yr bŷd, onid i iachau yr byd trwyddo ef.
18Nid ydys yn barnu yr hwn a grêdo ynddo ef, ond yr hwn nid yw yn credu a farnwyd eusus, am na chredodd yn enw vni-genedic fab Duw.
19A hyn yw’r farnedigaeth, dyfod goleuni i’r bŷd, a charu o ddynion dywyllwch yn fwy nâ’r goleuni, o herwydd bod eu gweithredoedd hwy yn ddrwg.
20O herwydd pob vn a’r sydd yn gwneuthur drwg sy yn cessau y goleuni, ac ni ddaw i’r goleuni, rhac argyoeddi ei weithredoedd.
21Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd a ddaw i’r goleuni, fel yr eglurheuir ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
22Wedi hyn y daeth yr Iesu a’i ddiscyblion i wlad Iudaea, ac yno yr arhosodd efe gyd â hwynt, #Pen.4.1.ac y bedyddiodd.
23Ac yr oedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger llaw Salim, canys dyfroedd lawer oeddynt yno: a hwynt a ddaethant, ac fe a’u bedyddiwyd.
24Canys ni fwriasid Ioan etto yng-harchar.
25Yna y bu ymofyn rhwng discyblion Ioan a’r Iddewon yng-hylch puredigaeth.
26A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho ef, Rabbi, yr hwn oedd gyd â thi y tu hwnt i’r Iorddonen, am yr hwn y testiolaethaist: wele y mae efe yn bedyddio, a phawb sy yn dyfod atto ef.
27Ioan a attebodd, ac a ddywedodd, ni ddichon dŷn dderbyn dim, oni roddir iddo ef o’r nefoedd.
28Chwy-chwi eich hunain ydych fy nhystion i, ddywedyd o honofi, #Pen.1.20.nid myfi yw Crist, eithr fy mod wedi fy anfon o’i flaen ef.
29Yr hwn y mae iddo briod-ferch yw’r priod-fab: ond cyfaill y priod-fab yr hwn sydd yn sefyll, ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr o blegit llef y priod-fab: fy llawenydd hwn maufi gan hynny a gyflawnwyd.
30Rhaid ydyw iddo ef gynnyddu, ac i minne leihaû.
31Yr hwn a ddaeth oddi vchod sydd goruwch pawb oll, yr hwn sydd o’r ddaiar, sydd o’r ddaiar, ac am ddaiar y mae yn ymadrodd: yr hwn a ddaeth o’r nef sydd goruwch pawb.
32A’r hyn a welodd efe, ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei destiolaethu: ond nid yw neb yn derbyn ei destiolaeth ef.
33Yr hwn a dderbynniodd ei destiolaeth ef a seliodd #Rhuf.3.4.fod Duw yn gywîr.
34Canys yr hwn a anfonodd Duw sydd yn llefaru geiriau Duw: o blegit nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi [iddo ef] yr Yspryd.
35Y mae y Tâd yn caru y Mâb, #Math.11.27.ac efe a roddodd bob peth yn ei law ef.
36 # Abacuc.2.4. Ioh.5.10.Yr hwn sydd yn credu yn y Mâb, y mae iddo fywyd tragywyddol: a’r hwn sydd yn anghredu’r Mâb ni wêl efe y bywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.

Dewis Presennol:

Ioan 3: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda