Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 4

4
PEN. IIII.
3 Ymddiddan Crist a’r wraig o Samaria, 34 Ei fawr ferch ef ar ei Dâd a’i gynhaiaf, 39 troad y Samariaid, 45 A’r Galilæaid i’ ffydd, 47 Efe yn iachâu mab y llywiawdur.
1A Phan ŵybu’r Arglwydd glywed o’r Pharisæaid ddarfod i’r Iesu wneuthur a bedyddio mwy o ddiscyblion nag Ioan,
2(Er na fedyddiase efe ei hun: eithr ei ddiscyblion)
3Efe a adawodd Iuda, ac a aeth eil-waith i Galilæa.
4Ac yr ydoedd yn rhaid iddo ef fyned trwy Samaria.
5Yna efe a ddaeth i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, ger llaw y rhan-dîr #Gen.33.19. & 48.22. Iosua.24.32. yr hon a roddase Iacob iw fâb Ioseph.
6Ac yno yr oedd ffynnon Iacob, yna’r Iesu yn ddeffygiol gan y daith a eisteddodd felly ar y ffynnon: yng-hylch y chweched awr ydoedd hi.
7Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr, a’r Iesu a ddywedodd wrthi hi, dyro i mi ddiod.
8Canys ei ddiscyblion ef a aethent i’r ddinas i brynu bwyd.
9Yna’r wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, pa fodd gan dy fod ti yn Iddew y gofynni di ddiod i mi yr hon ydwyf wraig o Samaria? o blegit nid yw yr Iddewon yn ymgyfeillach â’r Samariaid.
10Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, pes adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw yr hwn sydd yn dywedyd wrthit, dyro i mi ddiod, tydi a ofynnasid iddo ef, ac efe a roddase i ti ddwfr bywiol.
11Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes gennit ti ddim i godi dwfr, a’r pydew sydd ddwfn: o ba lê gan hynny y mae gennit ti ddwfr bywiol?
12A’i mwy ydwyt ti na’n tâd Iacob, yr hwn a roddodd i ni y pydew, ac efe ei hun a yfodd o honaw, a’i feibion, a’i anifeiliaid?
13Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthi hi, pwy bynnac a yfo o’r dwfr hwn a sycheda trachefn:
14Ond pwy bynnac a yfo o’r dwfr yr hwn a roddwyfi iddo, ni sycheda yn dragywydd, eithr y dwfr yr hwn a roddwyfi iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr yn tarddu i fywyd tragywyddol.
15Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, moes i mi y dwfr hwnnw, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf ymma i ddynnu [dwfr.]
16Iesu a ddywedodd wrthi hi, dos, galw dy ŵr, a thyret ymma.
17Y wraig a attebodd, ac a ddywedodd, nid oes i mi ŵr. Iesu a ddywedodd wrthi hi, dâ y dywedaist, nid oes gennif ŵr.
18Canys bu i ti bump o wŷr, ac yn awr yr hwn sydd eiddot ti, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wir.
19Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd, myfi a welaf mai prophwyd ydwyt ti.
20Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn, ac meddwch chwithau #Deut.12.6.yn Ierusalem y mae’r lle y dyler addoli.
21Iesu a ddywedodd wrthi hi, ô wraig, creda fi, fod yr awr yn dyfod, pryd nac addoloch y Tad yn y mynydd hwn, nac yn Iersualem.
22Chwychwi ydych yn addoli #2.Bren.17.29.y peth ni wyddoch, ninnau ydym yn addoli y peth a wyddom, canys iechydwriaeth sydd o’r Iddewon.
23Ond dyfod y mae’r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo y gwir addol-wŷr y Tâd mewn yspryd, a gwirionedd: canys y Tad a fynn y cyfryw rai iw addoli ef.
24 # 2.Cor.3.17. Duw sydd Yspryd, a’r sawl a’i haddolant ef, rhaid yw iddynt ei addoli ef mewn yspryd, a gwirionedd.
25Y wraig a ddywedodd wrtho ef, mi a wn y daw Messias yr hwn a elwir Crist, pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
26Iesu a ddywedodd wrthi hi, myfi ydwyf [hwnnw] yr hwn sydd yn ymddiddan â thi.
27Ac ar hynny ei ddiscyblion ef a ddaethant, ac a ryfeddasant ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, beth a geisi, neu pa ham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28Yna’r wraig a adawodd ei dwfr-lestr, ac a aeth i’r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion hynny,
29Deuwch, gwelwch ddyn yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a’r a wneuthym, onid efe yw Crist?
30Yna hwynt a aethant o’r ddinas, ac a ddaethant atto ef.
31Yn y cyfamser, ei ddiscyblion ef a attolygasant iddo ef gan ddywedyd, Rabbi, bwyta.
32Ac efe a ddywedodd wrthynt, y mae genifi fwyd iw fwyta, yr hwn ni wyddoch oddi wrtho.
33Yna y discyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, a ddug neb fwyd iddo ef?
34Iesu a ddywedodd wrthynt, fy mwyd i iw gwneuthur o honofi ewyllys yr hwn a’m hanfonodd, a gorphen ei waith ef.
35Onid ydych chwi yn dywedyd, y mae etto bedwar-mis, ac [yna] y daw’r cynhaiaf? wele yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, derchefwch eich llygaid, a gwêlwch y gwledydd, #Math.9.37. Luc.10.2.canys gwynnion ydynt eusus i’r cynhaiaf.
36A’r hwn a fedo a dderbyn gyflog, ac a gascl ffrwyth i fywyd tragywyddol, fel y cydlawenycho yr hwn a hauo, a’r hwn a fedo.
37Canys yn hyn y mae’r gair yn wîr, mai vn a haua, ac arall a feda.
38Myfi a’ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn iw llafur hwynt.
39Yna llawer o’r Samariaid, o’r ddinas honno a gredasant ynddo ef, o herwydd gair y wraig yr hon oedd yn testiolaethu, efe a ddywedodd i mi ’r hyn oll a’r a wneuthym.
40A phan ddaeth y Samariaid atto ef, hwynt a attolygasant iddo ef aros gyd â hwy: ac efe a arhosodd yno ddeu-ddydd.
41A mwy o lawer a gredasant ynddo ef, o blegit ei air ei hun.
42A hwy a ddywedasant wrth y wraig, nid ydym ni weithian yn credu o blegit dy ymadrodd di, canys nyni a’i clywsom ef ein hunain, ac a ŵyddom mai hwn yn ddiau yw Crist Iachawdur y byd.
43Felly ym mhen y ddeu-ddydd efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a aeth i Galilæa.
44Canys Iesu ei hun #Math.13.57. Marc.6.4. Luc.4.24.a destiolaethase, na chae prophwyd anrhydedd yn ei wlad ei hun.
45A phan ddaeth efe i Galilæa, y Galilæaid y rhai a welsent yr hyn oll a’r a wnaethe efe yn Ierusalem ar yr ŵyl a’i derbynniasant ef, canys hwynt hwy a ddaethent i’r ŵyl.
46 # 4.46-54 ☞ Yr Efengyl y xxi. Sul ar ôl y Drindod. A’r Iesu a ddaeth trachefn i #Pen.2.1.Cana Galilæa lle y gwnaethe efe y dwfr yn wîn: ac yr oedd rhyw bendefig, ac iddo fab yn glaf yn Capernaum.
47Pan glybu efe ddyfod Iesu o Iudaea yn Galilæa, efe a aeth atto ef, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ym mron marw.
48Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, oni welwch chwi arwyddion, a rhyfeddodau ni chredwch.
49Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, ô Arglwydd, tyret ti i wared cynn marw fy machgen.
50Iesu a ddywedodd wrtho ef, dos ymmaith, y mae dy fab yn fyw, a’r dyn a gredodd y gair yr hwn a ddywedase Iesu wrtho ef, ac efe a aeth ymmaith.
51Ac yn awr pan oedd efe yn myned i wared, ei weision ef a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant gan ddywedyd: y mae dy fachgen yn fyw.
52Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhaese arno: a hwy a ddywedasant wrtho, mai doe y seithfed awr y gadawodd y cryd ef.
53Yna y gwybu’r tad, mai yr awr honno oedd hi yn yr hon y dywedase Iesu wrtho ef: y mae dy fab di ’n fyw, ac efe a gredodd a’i holl dy.
54Dymma ’r ail arwydd yr hwn a wnaeth Iesu trachefn, wedi iddo ef ddyfod o Iudaea i Galilæa.

Dewis Presennol:

Ioan 4: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda