Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 20

20
PEN. XX.
Mair Magdalen, ac Ioan a Phetr yn dyfod ar y bedd. 12 Cysur yr angelion iddynt. 14 Iesu yn ymddangos i Fair Fagdalen. 19 Ac i’r discyblion ddwy-waith, gan gadarnhau ffydd Thomas y waith olaf.
1 # 20.1-10 ☞ Yr Efengyl ddydd y Pasc. A’r #Marc.16.1. luc.24.11.dydd cyntaf o’r Sabboth, Mair Magdalen a ddaeth y boreu, ac hi eto yn dywyll at y bedd, ac a weles y maen wedi ei dreiglo oddi ar y bedd.
2Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a’r discybl arall yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, hwy a ddygâsant yr Arglwydd o’r bedd, ac mi ŵyddom ni pa le y gosodasant ef.
3Yna Petr a aeth allan, a’r discybl arall, ac hwy a ddaethant at y bedd.
4Ac a redâsant ill dau ar vn-waith, a’r discibl arall a redodd o flaen Petr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.
5A phan grymmodd, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod, ac er hynny nid aeth efe i mewn.
6Yna y daeth Simon Petr gan ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i’r bedd, ac a ganfu y lliain wedi ei osod [yno,]
7A’r foled yr hon oedd am ei ben ef, heb fod gyd â’r lliain, ond o’r naill-du wedi ei phlygu mewn lle arall.
8Yna yr aeth y discybl arall i mewn hefyd, yr hwn a ddaethe yn gyntaf at y bedd, ac a welodd, ac a gredodd.
9Canys hyd yn hyn ni ŵyddent yr scrythur, sef bod yn rhaid iddo gyfodi i fynu oddi wrth y meirw.
10A’r discyblion a aethant eil-waith adref.
11Ond Mair a safodd yn ŵylo wrth y bedd oddi allan, #Math.28.1. marc.16.5.ac fel yr oedd hi yn ŵylo hi a ymostyngodd i’r bedd:
12Ac a welodd ddau angel mewn [gwiscoedd] gwynnion yn eistedd, vn wrth ben, a’r llall wrth draed, lle y dodasid corph yr Iesu.
13Hwy a ddywedasant wrthi, ô wraig, pa ham yr wyli? a hi a ddywedodd wrthynt: am ddwyn o honynt hwy fy Arglwydd, ac ni wn pa le y dodasant ef.
14Ac wedi dywedyd o honi hyn, hi a droes drach ei chefn, ac a welodd yr Iesu yn sefyll, ac ni ŵydde hi mai yr Iesu oedd efe.
15Yr Iesu a ddywedodd wrthi, ô wraig pa ham yr ŵyli? pwy yr wyt yn ei geisio? hithe yn tybied mai gardd-wr oedd efe, a ddywedodd wrtho: arglwydd os dy di a aethost ag ef ymmaith, dywet i mi pa le y dodaist ef, a mi a’i codaf ef ymmaith.
16Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair: hithe a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni yr hyn sydd gymmaint a phe dywedid, Athro.
17Yr Iesu a ddywedodd wrthi: na chyffwrdd â mi, o blegit na dderchefais etto at fy Nhâd, eithr dos at fy mrodyr a dywet wrthynt, yr wyf yn derchafu at fy Nhâd i a’ch Tâd chwithau, a’m Duw i, a’ch Duw chwithau.
18Mair Magdalen a ddaeth gan fynegu i’r discyblion, weled o honi hi yr Arglwydd, a dywedyd o honaw ef hyn wrthi hi.
19 # 20.19-23 ☞ Yr Efengyl y Sul cyntaf ar ôl y Pasc. Yna #Marc.16.14. Luc.24.36. 1.Cor.15.5.pan aeth hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o’r Sabboth, yr oedd y discyblion wedi ymgasclu yng-hŷd a’r drysau yn gaead rhag ofn yr Iddewon, yr Iesu a ddaeth, ac a safodd yn eu plith, ac a ddywedodd wrthynt: Tangneddyf i chwi.
20Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw, a’i ystlys, yna wrth weled yr Arglwydd, y discyblion a lawenhychâsant.
21Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt eilwaith, Tangneddyf i chwi, megis y danfonodd fy Nhâd fi, felly yr ydwyf finne yn eich anfon chwithau.
22Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anhedlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt. Cymmerwch yr Yspryd glân.
23I bwy bynnac y #Math.18.18.maddeuoch eu pechodau, maddeuwyd iddynt, i bwy bynnac yr attalioch, hwy a attaliwyd.
24 # 20.24-31 ☞ Yr Efengyl ar ddie-gwyl Thomas. Eithr Thomas vn o’r deuddec yr hwn a elwir Didimus nid oedd gyd â hwynt, pan ddaethe yr Iesu.
25A’r discyblion eraill a ddywedasant wrtho: ni a welsom yr Arglwydd: yntef a ddywedodd wrthynt, oni welwyf yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
26Ac ar ben yr wyth niwrnod, yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn eil-waith, a Thomas gyd â hwynt, yr Iesu a ddaeth a’r drysau yn gaead, ac a safodd yn eu canol, ac a ddywedodd, Tangneddyf i chwi.
27Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylaw, ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys, ac na fydd anghredadyn, ond credâdyn.
28A Thomas a attebodd, ac a ddywedodd wrtho: fy Arglwydd a’m Duw.
29Yr Iesu a ddywedodd wrtho: Thomas, am i ti weled y credaist: bendigedic yw y rhai ni welsant, ac a gredâsant.
30A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yng-ŵydd ei ddiscyblion, #Ioan.21.25.y rhai nid ynt scrifennedic yn y llyfr hwn.
31Eithr y pethau hyn a scrifennwyd fel y credech fod Iesu Grist yn Fab Duw, ac i chwi gan gredu, gael bywyd trwy ei enw ef.

Dewis Presennol:

Ioan 20: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda