Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19

19
PEN. XIX.
Curo, a gwatwar yr Iesu. 9 Wedi i Pilat holi Crist, a’r Iddêwon, efe a ddododd Crist iddynt iw groes-hoelio, 24 Bwrw coel-brennau am ei wisc ef. 26 Efe yn cynghori Mair ei fam ac Ioan efangylwr. 30 Dioddefaint Crist, 38 A’i gladdedigaeth.
1Yna y cymmerodd #Math.27.27. mar,15.17.Pilat yr Iesu, ac a’i fflanghellodd ef.
2A’r mil-wŷr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben, ac a roesant gochlwisc o borphor am dano,
3Ac a ddywedâsant: henffych well, Brenin yr Iddewon, ac a roesant iddo gernodiau.
4A Philat a aeth allan trachefn attynt, ac a ddywedodd wrthynt: wele, yr wyfi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wyfi yn cael ynddo ef vn bai.
5Yna yr aeth yr Iesu allan, yn arwain coron o ddrain a’r wisc borphor, a [Philat] a ddywedodd wrthynt, wele y dyn.
6Yna yr arch-offeiriaid a’r swyddogiō pan welsant ef, a lefâsant gan ddywedyd: croes-hoelia, croes-hoelia ef: Pilat a ddywedodd wrthynt: cymmerwch chwi ef, a chroes-hoeliwch canys nid wyfi yn cael ynddo vn bai.
7Yr Iddewon a attebasant iddo, y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni efe a ddyle farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fab Duw.
8A phan glybu Pilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy:
9Ac a aeth trachefn i’r dadleu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Iesu: o ba le yr wyt ti: ond ni roes yr Iesu atteb iddo.
10Yna Pilat a ddywedodd wrtho, oni ddywedi di wrthif fi? oni ŵyddost di fod i mi awdurdod i’th groes-hoelio di, ac awdurdod i’th ollwng?
11Yr Iesu a attebodd, ni bydde i ti ddim awdurdod arnafi oni bai ei ddodi i ti oddi vchod: am hynny y neb a’m rhoddes i ti, sydd yn fwy ei bechod.
12O hynny allan y ceisiodd Pilat ei ollwng ef yn rhydd: a’r Iddewon a lefasant gan ddywedyd, os gollyngi di hwn, nid wyt ti yn garedig i Cæsar: pwy bynnac a’i gwnel ei hun yn frenin, y mae efe yn dywedyd yn erbyn Cæsar.
13Pan glybu Pilat yr ymadrodd hwn, efe a ddug allan yr Iesu, ac a eisteddodd ar yr orsedd-faingc yn y lle a elwir Lithostrotos, ac yn Hebriw Gabbatha.
14A darparwyl y Pasc oedd hi, yng-hylch y chweched awr, ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, wele eich Brenin.
15Hwythau a lefâsant, ymmaith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef, Pilat a ddywedodd wrthynt: a groes-holiaf fi eich Brenin chwi? a’r arch-offeiriaid a attebasant, nid oes i ni vn brenin ond Cæsar.
16Yna efe a’i dodes ef iddynt iw groes-hoelio, ac #Math.27.31. marc.15.20. luc.23.26.hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a’i dugasant ymmaith.
17Ac efe gan ddwyn ei groes a ddaeth i le a elwid y Benglogfa, ac a elwir yn Hebriw Golgatha.
18Lle y croes-hoeliasant ef a dau eraill, vn o bôb tu, a’r Iesu yn y canol.
19A Philat a scrifennodd y titl, ac a’i dododd ar y groes, a’r hyn a scrifennasid oedd, IESV O NAZARETH, BRENIN YR IDDEWON.
20A llawer o’r Iddewon a ddarllenasant y titl hwn, canys agos i’r ddinas oedd y lle y croes-hoeliasid Iesu: ac yr oedd wedi ei scrifennu yn Hebriw, Groeg a Lladin.
21Yno arch-offeiriaid yr Iddewon a ddywedâsant wrth Pilat, na scrifenna, Brenin yr Iddewon, eithr ei fod yn dywedyd, Brenin yr Iddewon ydwyfi.
22Pilat a attebodd, yr hyn a scrifennais a scrifennais.
23A’r #Math.27.35. marc.15.21. luc.23.33.mil-wŷr pan ddarfu iddynt groshoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad (ac a’i gwnaethant yn bedair rhann i bôb milwr) a’i bais ef: a’i bais oedd ddi-wnîad, wedi ei gwêu o’r cwr vchaf oll.
24Ac hwy a ddywedâsant yn eu plith eu hun: na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau pwy a’i caiff hi: i gyflawni yr scrythur gan ddywedyd, #Psal.22.18.hwy a rannâsant fy nillad iddynt, a’m fy mhais y bwriâsant goelbrennau: a’r mil-wŷr a wnaethant hyn.
25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam, a Mair Cleophas, a Mair Fagdalen.
26A phan welodd Iesu ei fam a’r discybl yr hwn a gare efe yn sefyll ger llaw, efe a ddywedodd wrth ei fam, ô wraig, wele dy fab.
27Ac wedi hynny y dywedodd wrth y discybl: wele dy fam, ac o’r awr honno y cymmerodd y discybl hi iw gartref.
28Yn ôl hynny pan ŵybu yr Iesu fod pob peth wedi ei derfynu: er cyflawni #Psal.69.22.yr scrythyrau, efe a ddywedodd, y mae syched arnaf.
29Ac yr oedd llestr wedi ei osod yn llawn o finegr, a hwy a lanwâsant spong o finegr, ac a’i rhoddasant yng-hylch Ysop, ac a’i dodasant wrth ei enau ef.
30Ac wedi i’r Iesu gymmeryd y finegr efe a ddywedodd, gorphennwyd, a chan ogwyddo ei ben efe a rhoddes i fynu yr yspryd.
31A’r Iddewon, rhag aros o’r cyrph ar y groes drôs y Sabboth, (canys darpar-ŵyl y Pasc ydoedd hi, a mawr oedd y Sabboth hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilat gael torri eu hesceiriau hwynt, a’i tynnu i lawr.
32Yna y mil-wŷr a ddaethant, ac a dorrasant esceiriau y cyntaf, a’r llall yr hwn a groeshoeliasid gyd ag ef.
33Eithr pan ddaethant at yr Iesu a’i weled wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef.
34Ond vn o’r mil-wŷr a frathodd ei ystlys ef â gwaiw-ffon, ac yn y fan gwaed a dwfr a ddaeth allan.
35A’r hwn a’i gwelodd sydd yn testiolaethu, a gwir yw ei destiolaeth ef, ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd gwir, fel y credoch chwithau.
36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr scrythur.#Exod.12.46. num.9.12.Ni ddryllir ascwrn o honaw ef.
37Ac eil-waith scrythur arall sydd yn dywedyd.#Zach.12.10.Hwy a edrychant ar yr hwn a wanâsant.
38Ac #Math.27.57. marc.15.42. luc.23.50.yn ôl hyn Ioseph o Arimathæa, (yr hwn oedd ddiscybl i’r Iesu, eithr yn guddiedic rhag ofn yr Iddewon, a ddeisyfiodd ar Pilat gael tynnu i lawr gorph yr Iesu: a Philat a gennadhâodd iddo. Yna y daeth efe, ac a ddug ymmaith gorph yr Iesu.
39Ac fe ddaeth Nicodemus hefyd yr hwn yn gyntaf a #Ioan.3.2.ddaethe at yr Iesu o hŷd nos, ac a ddug Myrr, ac Aloes yng-hymmysc, tu a chanpwys.
40Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a’i rhwymasant mewn llieiniau gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon i gladdu.
41Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef yr oedd gardd, a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dŷn er ioed.
42Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon, (am fod y bedd hwnnw yn agos,) y rhoddasant yr Iesu.

Dewis Presennol:

Ioan 19: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda