1
Ioan 19:30
Y Beibl Cyssegr-lan 1588 (William Morgan) - Argraffiad gwreiddiol
Ac wedi i’r Iesu gymmeryd y finegr efe a ddywedodd, gorphennwyd, a chan ogwyddo ei ben efe a rhoddes i fynu yr yspryd.
Cymharu
Archwiliwch Ioan 19:30
2
Ioan 19:28
Yn ôl hynny pan ŵybu yr Iesu fod pob peth wedi ei derfynu: er cyflawni yr scrythyrau, efe a ddywedodd, y mae syched arnaf.
Archwiliwch Ioan 19:28
3
Ioan 19:26-27
A phan welodd Iesu ei fam a’r discybl yr hwn a gare efe yn sefyll ger llaw, efe a ddywedodd wrth ei fam, ô wraig, wele dy fab. Ac wedi hynny y dywedodd wrth y discybl: wele dy fam, ac o’r awr honno y cymmerodd y discybl hi iw gartref.
Archwiliwch Ioan 19:26-27
4
Ioan 19:33-34
Eithr pan ddaethant at yr Iesu a’i weled wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef. Ond vn o’r mil-wŷr a frathodd ei ystlys ef â gwaiw-ffon, ac yn y fan gwaed a dwfr a ddaeth allan.
Archwiliwch Ioan 19:33-34
5
Ioan 19:36-37
Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr scrythur.Ni ddryllir ascwrn o honaw ef. Ac eil-waith scrythur arall sydd yn dywedyd.Hwy a edrychant ar yr hwn a wanâsant.
Archwiliwch Ioan 19:36-37
6
Ioan 19:17
Ac efe gan ddwyn ei groes a ddaeth i le a elwid y Benglogfa, ac a elwir yn Hebriw Golgatha.
Archwiliwch Ioan 19:17
7
Ioan 19:2
A’r mil-wŷr a blethasant goron o ddrain, ac a’i gosodasant ar ei ben, ac a roesant gochlwisc o borphor am dano
Archwiliwch Ioan 19:2
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos