Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 18

18
PEN. XVIII.
Bradychiad Crist. 10 Cleddyf Petr. 17 Petr yn gwadu Grist, Pilat yn ymresymmu â’r Iddewon, ac â Crist.
1 # 18.1—19.42 ☞ Yr Efengyl y dydd gwener nesaf o flaen y Pasc. Gwedi #Math.26.36. marc.14.32. luc.22.39.i’r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan a’i ddiscyblion tros afon Cedron, lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddiscyblion.
2Ac Iudas hefyd yr hwn a’i bradychodd ef a adwaene y lle hwnnw, canys mynych y cynmwerase yr Iesu a’i ddiscyblion yno.
3Ac Iudas (wedi iddo gael byddin [atto,] a swyddogion gan yr arch-offeiriaid a’r Pharisaeaid) a ddaeth yno â #Math.26.47. marc.14.43. luc.22.47.lanternau, â ffaglau, ac arfau.
4A’r Iesu yn gŵybod pob peth a ddele iddo, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt: pwy yr ydych yn ei geisio?
5Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazareth yr Iesu a ddywedodd wrthynt: myfi yw [hwnnw,] ac yr oedd Iudas hefyd yr hwn a’i bradychodd ef yn sefyll gyd â hwynt.
6A chyn-gynted, ac y dywedodd efe wrthynt, myfi yw [hwnnw,] hwy a aethant yn ŵysc eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.
7Yr ail waith efe a ofynnodd iddynt, pwy yr ydych yn ei geisio? hwythau a ddywedasant, Iesu o Nazareth.
8Yr Iesu a attebodd, dywedais wrthych mai fy fi yw [hwnnw,] gan hynny, os myfi a geisiwch, gedwch i’r rhain fyned ymmaith.
9Er cyflawni y gair yr hwn a ddywedase efe, #Ioan.17.12.o’r rhai hyn a roddaist i mi, ni chollais vn.
10Eithr Simon Petr yr hwn oedd a chleddyf ganddo, a’i tynnodd, ac a darawodd wâs yr arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ddehau ef. ac enw y gwâs oedd Malchus.
11A’r Iesu a ddywedodd wrth Petr, dôd dy gleddyf yn y wain, y cwppan a roddes y Tad i mi, onid yfaf o hwnnw?
12Yna y fyddin, a’r penciwdod, a swyddogion yr Iddewon a ddaliâsant yr Iesu, ac a’i rhwymâsant ef:
13Ac hwy a’i dugasant at Annas, canys (chwegrwn Caiphas yr hwn oedd arch-offeiriad y flwyddyn honno) ydoedd efe.
14 # Ioan.11.50. Caiphas hefyd oedd yr hwn a gynghorase i’r Iddewon, mai angenrheidiol oedd farw vn dŷn tros y bobl.
15A #Math.26.57. marc.14.54. luc.22.54.Simon Petr a discybl arall oedd yn canlyn yr Iesu: a’r arch-offeiriad a adwaene y discybl hwnnw, ac efe a aeth i mewn gyd â’r Iesu i neuadd yr arch-offeiriad.
16A Phetr a safodd allan wrth y drws, a’r discybl arall a aeth allan yr hwn oedd adnabyddus i’r arch-offeiriad, ac a ymddiddanodd â’r drysores, ac a ddug Petr i mewn.
17Yna y dywedodd y llangces yr hon oedd borthores wrth Petr, onid wyt tithe yn vn o ddiscyblion y dŷn ymma? ac efe a ddywedodd: nac wyf.
18A’r gweision a’r gweinidogion oeddynt yn sefyll yno wedi gwneuthur tân glô, ac yn ymdwymno, canys oer ydoedd hi, ac yr oedd Petr yn sefyll yn ymdwymno gyd â hwynt hefyd.
19A’r arch-offeiriad a ofynnodd i’r Iesu am ei ddiscyblion, ac am ei athrawiaeth.
20A’r Iesu a attebodd iddo: myfi a leferais ar osteg yn y bŷd, myfi a athrawiaethais yn oestadol yn y synagog, ac yn y Deml, lle y dele yr Iddewon oll yng-hŷd, ac ni ddywedais ddim yn guddiedig,
21Pa ham yr ydwyt yn gofyn i mi? gofyn i’r rhai a’m clywsant, beth a ddywedais wrthynt, wele hwy a ŵyddant beth a ddywedais i.
22Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, vn o’r weinidogion a’r a oedd yn sefyll ger llaw a gernodiodd yr Iesu, gan ddywedyd: ai felly yr wyt ti yn atteb yr arch-offeiriad?
23A’r Iesu a attebodd iddo, os dywedais yn ddrŵg, testiolaetha o’r drŵg, ac os da, pa ham yr wyt yn fy nharo i?
24Ac Annas a’i hanfonase ef yn rhwym at Caiphas yr arch-offeiriad.
25A #Math.26.66. marc.14.54. luc.22.55.Simon Petr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymno, ac hwy a ddywedasant wrtho, onid wyt tithe vn o’i ddiscyblon ef? yntef a wadodd, ac a ddywedodd: nag wyf.
26Yna vn o weision yr arch-offeiriad câr i’r hwn y torrase Petr ei glust a ddywedodd, oni welais i di gyd ag ef yn yr ardd?
27A Phetr a wadodd trachefn, ac yn y man y canodd y ceiliog.
28Yna y #Math.27.1. marc.15.1. luc.23.1.dugâsant yr Iesu oddi wrth Caiphas i’r dadleu-dŷ, a’r boreu ydoedd, ac nid aethant hwy i mewn i’r dadleu-dŷ rhag eu hologi, fel y gellent fwytta y Pasc.
29Yna Pilat a aeth allan attynt, ac a ddywedodd: pa achwyn sydd gennwch yn erbyn y dŷn hwn?
30Hwy a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, oni bai ei fod efe yn ddrwg-weithudd, ni ddodasem ni ef attat ti.
31Am hynny y dywedodd Pilat wrthynt, cymmerwch chwi ef, a bernwch ef wrth eich cyfraith chwi, yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, nid rhydd i ni ladd neb.
32Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedase, #Math.20.19.i arwyddo o ba angeu y bydde efe farw.
33A #Math.27.11. Marc.15.2. Luc.23.3.Philat a aeth eil-waith i’r dadleu-dŷ, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho: ai ti yw Brenin yr Iddewon?
34Yr Iesu a attebodd iddo: ai o honot dy hun yr ydwyt yn dywedyd hyn? ai eraill a’i mynagasant i ti am danafi?
35Pilat a attebodd, ai Iddew wyf fi? dy genedl dy hun, a’r arch-offeiriaid a’th ddodasant i mi: beth a wnaethost di?
36Yr Iesu a attebodd: nid yw fy mrenhiniaeth o’r bŷd hwn, pette fy mrehiniaeth i o’r byd hwn, fyng-wasanaethwŷr i a ymdrechent, fel na’m rhoddid i’r Iddewon. Ond yn awr nid yw fy mrenhiniaeth oddi ymma.
37Yna y dywedodd Pilat, wrth hynny ai brenin wyt ti? yr Iesu a attebodd, tydi ydwyt yn dywedyd mai brenin wyfi: er mwyn hyn i’m ganed, ac er mwyn hyn y daethym i’r bŷd i ddwyn testiolaeth i’r gwirionedd: pwy bynnac sydd o’r gwirionedd sydd yn gwrando fy lleferydd.
38Pilat a ddywedodd wrtho, beth yw gwirionedd? ac wedi iddo ddywedyd hyn efe a aeth allan eil-waith at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt: nid wyfi yn cael dim achos ynddo ef.
39Y #Math.27.15. marc.15.6. luc.23.17.mae gennwch chwi ddefod, i mi ollwng i chwi vn yn rhydd y Pasc, felly a ewyllysiwch i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
40Yna y llefasant eil-waith oll gan ddywedyd, nid hwn, ond Barabbas: a’r Barabbas hwnnw oedd leidr.

Dewis Presennol:

Ioan 18: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda