Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 7

7
PEN. VII.
Duw yn danfon Moses, ac Aaron at Pharao. 10 Moses yn troi ei wialen yn sarph: a hudolion Pharao yn gwneuthur y cyffelib. 19 Moses yn troi y dwfr yn waed a’r swyn-wyr yn gwneuthur yr vn modd.
1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, gwel mi a’th roddais yn Dduw i Pharao: ac Aaron dy frawd fydd dy brophwyd.
2Ti a leferi yr hyn oll a orchymynnwyf it: ac Aaron dy frawd a lefara wrth Pharao ar iddo ollwng meibion Israel ymmaith oi wlad.
3A minne a galedaf galon Pharao: ac a amlhaf fyng-wrthiau a’m rhyfeddodau yng-wlad yr Aipht.
4Ond ni wrendu Pharao arnoch, yna y rhoddaf fy llaw ar yr Aipht: ac y dygaf allan fy lluoedd, fy mhobl meibion Israel o wlad yr Aipht, mewn barnedigaethau mawrion.
5A’r Aiphtiaid a gaant wybod mai myfi [ydwyf] yr Arglwydd, pan estynnwyf fy llaw ar yr Aipht: a dwyn meibion Israel allan oi mysc hwynt.
6A gwnaeth Moses ac Aaron fel y gorchymynnodd yr Arglwydd iddynt [ie] felly y gwnaethant.
7A Moses [ydoedd] fab pedwar ugain mlwydd, ac Aaron yn fab tair blwydd a phedwar ugain, pan lefarasant wrth Pharao.
8A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd:
9Os llefara Pharao wrthich gan ddywedyd, moeswch [weled] gennich wrthiau: yna y dywedi wrth Aaron, cymmer dy wialen, a bwrw [hi] ger bron Pharao [fel] y byddo yn sarph.
10Yna y daeth Moses ac Aaron at Pharao, a gwnaethant felly, megis y gorchymynnase’r Arglwydd: canys Aaron a fwriodd ei wialen ger bron Pharao, a cher bron ei weision, a hi aeth yn sarph.
11A Pharao hefyd a alwodd am y doethion, a’r hudolion: a hwyntau hefyd [sef] swynwyr yr Aipht a wnaethant felly drwy eu swynion.
12Canys bwriasant bob vn ei wialen, ac aethant yn seirph: ond gwialen Aaron a lyngcodd eu gwiail hwynt.
13Er hynny calon Pharao a galedodd fel na wrandawe arnynt hwy: megis y llefarase yr Arglwydd.
14A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses caledodd calon Pharao: gwrthododd ollwng ymmaith y bobl.
15Dos at Pharao yn foreu, wele efe a ddaw allan i’r dwfr, saf dithe gyferbyn ag ef, ar lann yr afon: a chymmer yn dy law y wialen yr hon a drôdd yn sarph.
16A dywet wrtho, Arglwydd Dduw yr Hebræaid a’m anfonodd attat, i ddywedyd, gollwng ymmaith fy mhobl fel i’m gwasanaethant yn yr anialwch: ac wele ni wrandewaist hyd yn hyn.
17Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, wrth hyn y cei wybod mai myfi [ydwyf] yr Arglwydd: wele myfi a’r wialen yr hon [sydd] yn fy llaw a darawaf y dyfroedd y rhai [ydynt] yn yr afon, fel y troir hwynt yn waed.
18A’r pysc y rhai [ydynt] yn yr afon a fyddant feirw, a’r afon a ddrewa: a bydd blin gan yr Aiphtiaid yfed dyfroedd o’r afon.
19Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, dywet wrth Aaron, cymmer dy wialen, ac estyn dy law ar ddyfroedd yr Aipht, ar eu ffrydau, ar eu hafonydd, ac ar eu camlesydd, ac ar eu holl lynnau, fel y byddont yn waed: a bydd gwaed drwy holl wlad yr Aipht, yn eu [llestri] coed, a cherrig hefyd.
20Felly Moses ac Aaron a wnaethant fel y gorchymynnase’r Arglwydd, ac efe a #Exod.17.5.gododd ei wialen ac a darawodd y dyfroedd y rhai [oeddynt] yn yr afon yng-wydd Pharao, ac yng-wydd ei weision: a’r holl ddyfroedd y rhai [oeddynt] yn yr afon a droiwyd yn waed.
21A’r pysc y rhai oeddynt yn yr afon a fuant feirw, a’r afon a ddrewodd fel na alle yr Aiphtiaid yfed dwfr o’r afon: a gwaed oedd trwy holl wlad yr Aipht.
22A swyn-wyr yr Aipht a wnaethant y cyffelyb drwy eu swynion: a chaledodd calon Pharao, ac ni wrandawodd arnynt megis y llefarase’r Arglwydd.
23Canys troes Pharao a daeth iw dŷ, ac ni osododd hynn at ei galon.
24A’r holl Aiphtiaid a gloddiasant oddi amgylch yr afon am ddwfr iw yfed: canys ni allent yfed o ddwfr yr afon.
25Felly y cyflawnwyd saith o ddyddiau: wedi i’r Arglwydd daro’r afon.

Dewis Presennol:

Exodus 7: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda