Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 40

40
PEN. XL.
Codiad y tabernacl. 34 Niwl yn descyn ar y babell i arwyddocau presennoldeb Duw.
1Yna yr Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd.
2Yn y mîs cyntaf, ar [y dydd] cyntaf o’r mîs y cyfodi y tabernacl [sef] pabell y cyfarfod.
3A gosot yno Arch y destiolaeth: a gorchguddia yr Arch a’r wahan-lenn.
4Dŵg i mewn hefyd y bwrdd a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyll-bren a goleua ei lusernau ef.
5Gosot hefyd allor aur yr arogl-darth ger bron Arch y destiolaeth: a gosot gaead-len drws y tabernacl.
6 # Exod.26.35. Dod hefyd allor y poeth offrwm ar gyfer drws tabernacl, [sef] pabell y cyfarfod.
7Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr.
8A gosot hefyd y cynteddfa oddi amgylch, a dod gaead-lenn [ar] borth y cynteddfa.
9A chymmer olew yr enneiniad, ac enneinia y tabernacl, a’r hynn oll [sydd] ynddo, a chyssegra ef ai holl lestri: fel y byddo cyssegredic.
10Enneinia hefyd allor y poeth offrwm, a chyssegra yr allor ai holl lestri: a’r allor fydd sancteidd-beth cyssegredic.
11Enneinia y noe ai throed, a sancteiddia hi.
12A phâr i Aaron ac iw feibion ddyfod i ddrws pabell y cyfarfod: a golch hwynt a dwfr.
13A gwisc am Aaron y gwiscoedd sanctaidd: ac enneinia ef, a sancteiddia ef i offeiriadu i mi.
14Dŵg hefyd ei feibion ef, a gwisc hwynt a pheisiau.
15Ac enneinia hwynt megis yr enneiniaist eu tad hwynt i offeiriadu i mi: fel y byddo eu henneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragywyddol drwy eu hoesoedd.
16Felly Moses a wnaeth yn ol yr hynn oll a orchymynnodd yr Arglwydd iddo: felly y gwnaeth efe.
17Felly #Num.7.1.yn y mîs cyntaf o’r ail flwyddyn, ar [y dydd] cyntaf o’r mis y codwyd y tabernacl.
18Canys Moses a gododd y tabernacl, ac a roddodd ei forteisiau, ac a osododd ei styllod ac a roddes ei farrau: ac a gododd ei golofnau.
19Ac a ledodd y babell-lenn a’r y tabernacl ac a osododd dô y babell-lenn arni oddi arnodd fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
20Cymmerodd hefyd a rhoddodd y destiolaeth yn yr Arch, a gosododd y trosolion wrth yr Arch: ac a roddodd y drugareddfa i fynu ar yr Arch.
21Ac efe a ddûg yr Arch i’r tabernacl, ac a #Exod.35.12.osododd y wahan-len orchudd, i orchguddio Arch y destiolaeth: megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
22Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod ar ystlys y tabernacl, o du y gogledd: o’r tu allan i’r wahan-lenn.
23Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara ger bron yr Arglwydd: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
24Ac efe a osododd y canhwyll-bren o fewn pabell y cyfarfod ar gyfer y bwrdd ar ystlys y tabernacl, o du yr dehau.
25Ac efe a oleuodd y lusernau ger bron yr Arglwydd: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
26Efe hefyd a osododd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod: o flaen y wahan-lenn.
27Ac a arogl-darthodd arni arogl-darth llyseuoc megis y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
28Ac efe a osododd y gaead-lenn [ar] ddrws y tabernacl.
29Ac efe a osododd allor y poeth offrwm [wrth] ddrws y tabernacl [sef] pabell y cyfarfod: ac a offrymmodd arni boeth offrwm a bwyd offrwm, fel y gorchymynnase yr Arglwydd.
30Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi.
31A Moses ac Aaron ai feibion a olchasant yno eu dwylo, ai traed.
32Pan ddelent i babell y cyfarfod a phan nessaent at yr allor yr ymolchent: fel y gorchymynnase yr Arglwydd wrth Moses.
33Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl, a’r allor, ac a roddodd gaead-lenn [ar] borth y cynteddfa: felly y gorphennodd Moses y gwaith.
34Yna y niwl a orchguddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lawnodd y tabernacl.
35Ac ni alle Moses fyned i babell y cyfarfod, am i’r niwl aros arni: ac i gogoniant yr Arglwydd lenwi y tabernacl.
36A phan gyfode y niwl oddi ar y tabernacl, y cychwynne meibion Israel iw holl deithiau.
37Ac oni chyfode y niwl: yna ni chychwynne meibion Israel hyd y dydd y cyfode.
38Canys niwl yr Arglwydd [ydoedd] ar y tabernacl, y dydd, a thân ydoedd yno y nos: yng-olwg holl dŷ Israel yn eu holl deithiau hwynt.

Dewis Presennol:

Exodus 40: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda