Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 38

38
PEN. XXXVIII.
Gwneuthuriad allor y poeth offrwm. 8 Y noe bres. 9 Y cynteddfa. 24 cyfrif o’r hyn a offrymmodd y bobl.
1Ac efe a wnaeth allor y poeth offrwm o #Exod.27.1.goed Sittim: o bump cufydd ei hŷd, a phump cufydd ei llêd, yn bedair ongl, ac yn dri chufydd ei huchter.
2Gwnaeth hefyd ei chyrn hi ar ei phedair congl, ei chyrn hi oeddynt o honi ei hun: ac efe ai gwiscodd hi a phrês.
3 # Exod.27.3. Efe a wnaeth hefyd holl lestri yr allor, y crochanau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, a’r cigweiniau a’r thusserau, ei holl lestri hi a wnaeth efe o brês.
4Ac efe a wnaeth i’r allor, alch prês ar waith rhwyd: dann ei chwmpas oddi tannodd hyd ei hanner hi.
5Ac efe a fwriodd bedair modrwy i bedwar cwrr yr alch prês: i fyned am drosolion.
6Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim: ac ai gwiscodd hwynt a phrês.
7Ac efe a dynnodd y trosolion drwy y modrwyau ar ystlysau yr allor iw dwyn hi arnynt: yn gau y gwnaeth efe hi ag ystyllod.
8Ac efe a wnaeth noe brês, ai throed o brês o ddrychau y lluoedd [gwragedd,] y rhai a ymgasclent [at] ddrws pabell y cyfarfod.
9Ac efe a wnaeth y cynteddfa ar yr ystlys dehau, tu a’r dehau: llenni troelloc y cynteddfa [oeddynt] sidan gwynn cyfrodedd o gan cufydd.
10A’u hugain colofn, ac ai hugain mortais o brês: a phennau y colofnau ai cylchau o arian.
11Ac ar du yr gogledd [y troelloc lenni oeddynt] gant cufydd, eu hugain colofn, ai hugain mortais o brês: a phennau y colofnau ai cylchau o arian.
12Ac o du yr gorllewyn llenni troelloc o ddec cufydd a deugain: eu dec colofn, ai dec mortais, a phennau y colofnau, ai cylchau o arian.
13Ac o du yr dwyrain lle y cyfyd haul [yr oedd troelloc lenni] o ddec cufydd a deugain.
14Llenni troelloc o bymthec cufydd [a wnaeth efe] o’r [naill] du: eu tair colofn, ai tair mortais.
15Ac [efe a wnaeth] ar yr ail ystlys o ddeutu drws y porth lenni troelloc o bymthec cufydd, eu tair colofn, ai tair mortais.
16Holl lenni troelloc y cynteddfa o amgylch [a wnaeth efe] o sidan gwynn cyfrodedd.
17Ond morteisiau y colofnau [oeddynt] o brês, pennau y colofnau, ai cylchau o arian: a gwisc eu pennau o arian, a holl golofnau y cynteddfa oeddynt wedi eu cylchu ag arian.
18A chaead-len drws y cynteddfa [ydoedd] ar waith edef a nodwydd, o sidan glâs, a phorphor ac scarlat, a sidan gwynn cyfrodedd: ac yn vgain cufydd o hŷd, ai huchter, ai llêd yn bump cufydd ar gyfer llenni troelloc y cynteddfa.
19Eu pedair colofn hefyd, ai pedair mortais [oeddynt] o brês: ai pennau o arian, gwisc eu pennau hefyd ai cylchau [oeddynt] arian.
20A #Exo.27.19.holl hoelion y tabernacl, a’r cynteddfa oddi amgylch [oeddynt] brês.
21Dymma gyfrif [perthynasau] y tabernacl, [sef] tabernacl y destiolaeth, y rhai a gyfrifwyd wrth orchymyn Moses: [i] wasanaeth y Lefiaid drwy law Ithamar fab Aaron yr offeiriad.
22Besaleel mab Uri mab Hur o lwyth Iuda, a wnaeth yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
23A chyd ag ef yr ydoedd Aholiab mab Achisamech o lwyth Dan saer cywraint, a gwniedydd mewn sidan glâs, ac mewn porphor, ac mewn scarlat, ac mewn sidan gwynn.
24Yr holl aur a weithiwyd yn y gwaith [sef] yn holl waith y cyssegr, ydoedd aur yr offrwm cwhwfan [sef] naw talent ar hugain, a saith gant sicl, a dec ar hugain yn ôl sicl y cyssegr.
25Ac arian y rhai a gyfrifwyd o’r gynnulleidfa [oeddynt] gant talent, a mîl a seithgant a phymthec sicl a thrugain yn ôl y sicl sanctaidd.
26Hanner sicl am bôb pen, [sef] hanner sicl yn ôl y sicl sanctaidd am bôb vn a ele heibio dan rif o fab vgein-mlwydd ac vchod [sef] am chwe chant mil a thair mîl, a phum-cant, a dec a deugain.
27Ac yr oedd cant talent o arian i fwrw morteisiau y cyssegr a morteisiau y wahan-len: cant mortais o’r cant talent, talent i bôb mortais.
28Ac o’r mîl, a seith-gant, a phymthec [sicl] a thrugain y gwnaeth efe bennau y colofnau: ac y gwiscodd eu pennau, ac y cylchodd hwynt.
29A phrês yr offrwm cwhwfan [oedd] ddec talent a thrugain: a dwy fîl a phedwar cant o siclau.
30Ac efe a wnaeth o hynny forteisiau drws pabell y cyfarfod a’r allor brês, a’r alch pres yr hwn oedd ynddi: a #Exod.27.19.holl lestri yr allor.
31A morteisiau y cynteddfa: a holl hoelion y tabernacl, a holl hoelion y cynteddfa o amgylch.

Dewis Presennol:

Exodus 38: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda