Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 37

37
PEN. XXXVII.
1 Gwneuthur Arch y destiolaeth. 6 Y drugareddfa. 10 Y bwrdd. 17 Y canhwyll-bren. 25 Ac allor yr arogl-darth.
1A Besaleel a wnaeth yr Arch, o goed Sittim: o ddau gufydd a hanner ei hŷd a chufydd a hanner ei llêd, a chufydd a hanner ei huchter.
2Ac ai goreurodd ag aur pur o fewn ac oddi allan: ac a wnaeth iddi goron o aur o amgylch.
3Ac efe a fwriodd iddi bedair modrwy o aur ar ei phedair congl: sef dwy fodrwy ar y naill ystlys, a dwy fodrwy ar ei hystlys arall.
4Efe a wnaeth hefyd drosolion o goed Sittim: ac ai goreurodd hwynt ag aur.
5Ac a osododd y trosolion drwy y modrwyau ar ystlysau yr Arch: i ddwyn yr Arch.
6Ac efe a #Exod.25.17.wnaeth y drugareddfa o aur coeth: o ddau gufydd a hanner ei hŷd, a chufydd a hanner ei llêd.
7Ac efe a wnaeth ddau Gerub aur: o vn dryll cyfan y gwnaeth efe hwynt ar ddau gwrr y drugareddfa.
8Un Cerub ar y naill gwrr, a Cherub arall ar y cwrr arall: o’r drugareddfa y gwnaeth efe y Cerubiaid, ar ei dau gwrr.
9A’r Cerubiaid oeddynt gan ledu adenydd tuac i fynu yn gorchguddio ai hadenydd y drugareddfa, ai hwynebau oeddynt bôb vn at ei gilydd: wynebau y Cerubiaid [oeddynt] tu ac at y drugareddfa.
10Ac efe a wnaeth fwrdd o goed Sittim: dau gufydd ei hŷd, a chufydd ei lêd, a chufydd a hanner ei vchter.
11Ac ai goreurodd ef ag aur pur: ac a wnaeth iddo goron o aur o amgylch.
12Gwnaeth hefyd iddo gylch o amgylch o lêd llaw: ac a wnaeth goron o aur ar ei gylch o amgylch.
13Ac efe a fwriodd iddo bedair modrwy o aur: ac a roddodd y modrwyau wrth ei bedair congl, y rhai [oeddynt,] yn bedwar troed iddo.
14Ar gyfer y cylch yr oedd y modrwyau: i fyned am y barrau i ddwyn y bwrdd.
15Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim, ac ai goreurodd hwynt ag aur i ddwyn y bwrdd.
16Efe a wnaeth hefyd y llestri y rhai [fydde] ar y bwrdd, ei ddysclau ef ai lwyau, ai phiolau, ai gafnau y rhi y tywalltyd a hwynt: o aur pûr.
17Ac efe a wnaeth ganhwyll-bren o aur coeth: o vn dryll cyfan y gwnaeth efe y canhwyll-bren, ei balader, ei geingciau, ei bedill, ei gnapiau, ai flodau oeddynt o honaw ei hun.
18A chwech o geingciau yn myned allan oi ystlysau: tair caingc o’r canhwyll-bren o vn ystlys, a thair caingc canhwyll-bren o’r ail ystlys.
19Tair padell ar waith almon, cnap a blodeun [oedd] ar vn gaingc, a thair padell o waith almon, cnap a blodeun ar gaingc arall: yr vn modd [yr oedd] ar y chwe chaingc y rhai oedd yn dyfod allan o’r canhwyll-bren.
20Ac ar y canhwyll-bren yr [oedd] pedair padell: o waith almon, ei gnappiau ai flodau.
21A chnap tan ddwy gaingc o honaw, a chnap tann ddwy gaingc o honaw, a chnap tan ddwy gaingc o honaw: yn ol y chwe chaingc y rhai oeddynt yn dyfod allan o honaw.
22Eu cnapiau hwynt, ai ceingciau hwynt oeddynt o honaw ef: y cwbl o honaw [ydoedd] #Exod.25.31.vn dryll cyfan o aur coeth.
23Ac efe a wnaeth ei saith lusern ef: ai efeiliau, ai gafnau o aur pur.
24O #Exod.25.39.dalent o aur coeth y gwnaeth efe hwnnw: ai holl lestri.
25Gwnaeth hefyd #Exod.30.34.allor yr arogl-darth o goed Sittim: o gufydd ei hŷd, a chufydd ei llêd yn bedair ongl, ac o ddau gufydd ei huchter, ei chyrn oeddynt o honi ei hun.
26Ac efe ai goreurodd hi ag aur coeth, ei chaead, ai hystlysau o amgylch ai chyrn: ac efe a wnaeth iddi goron aur o amgylch.
27Ac efe a wnaeth iddi ddwy fodrwy o aur wrth ei dwy gongl, ar ei dau ystlys, oddi tann ei choron: i fyned am drosolion iw dwyn arnynt.
28Ac efe a wnaeth drosolion o goed Sittim: ac ai goreurodd hwynt ag aur.
29Ac efe a wnaeth #Exod.30.35.olew yr enneiniad sanctaidd, a’r arogl-darth llysseuoc pur o waith yr apothecari.

Dewis Presennol:

Exodus 37: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda