Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 35

35
PEN. XXXV.
1 Y Sabboth. 4 Duw yn gofyn offrwm gan ei bobl. 21 Y bobl yn offrwm yn ewyllyscar. 30 Moses yn henwi Besalel, ac Aholiab i weithio y babell.
1Casclodd Moses hefyd holl gynnulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt: dymma y pethau a orchymynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.
2Chwe #Exod.20.8.diwrnod y gwneir gwaith, ar y seithfed dydd y bydd i chwi Sabboth sanctaidd [sef] gorphywysdra i’r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnac a wnelo waith arno.
3Na chynneuwch dân yn eich holl anneddau ar y dydd Sabboth.
4A Moses a lefarodd wrth holl gynnulleidfa meibion Israel gan ddywedyd: dymma y peth yr hwn a orchymynnodd yr Arglwydd gan ddywedyd.
5Cymmerwch o’ch plith offrwm derchafel i’r Arglwydd, pob #Exod.25.2.ewyllyscar ei galon dyged hyn yn offrwm derchafel i’r Arglwydd: [sef] aur ac arian, a phrês:
6A sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn, a [blew] geifr.
7A chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daiar-foch, a choed Sittim.
8Ac olew i’r goleuni: a llyssiau i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth llysseuoc.
9A meini Onix, a menni iw gosod yn yr Ephod, ac yn y ddwyfronnec.
10A #Exod.28.3.phob celfydd o feddwl yn eich plith: deuant a gweithiant yr hyn oll a orchymynnodd yr Arglwydd.
11 # Exod.26.31. Y tabernacl, ei babell-lenn, ai dô: ei dderbynniadau ai styllod, ei farrau ei golofnau ai forteisiau,
12Yr Arch, ai throssolion, y drugareddfa, a’r wahan-len yr hon [ai] gorchguddia,
13Y bwrdd, ai drossolion, ai holl lestri: a’r bara gosod.
14A chanhwyll-bren y goleuni, ai lestri, ai lusernau: ac olew y goleuni.
15Ac allor yr arogl-darth, ai throssolion, ac olew yr eneiniad, a’r arogl-darth llysseuoc, a chaead-lenn drws y tabernacl.
16Allor y poeth-offrwm a’r alch prês, yr hwn [oedd] iddi, ei throssolion ai holl lestri: y noe ai throed.
17Troelloc lenni y cynteddfa, ei golofnau ai forteisiau: caead-lenn porth y cynteddfa.
18Hoelion y taberncal, a hoelion y cynteddfa ai rhaffau hwynt.
19A gwiscoedd y wenidogaeth i weini yn y cyssegr: [a] sanctaidd wiscoedd Aaron yr offeiriad, a gwiscoedd ei feibion ef i offeiriadu [ynddynt.]
20Yna holl gynnulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi ger bron Moses.
21A phob vn yr hwn y dug ei galon ef: sef pob vn yr hwn y gwnaeth ei yspryd ef yn ewyllyscar, a ddaethant [ac] a ddugasant offrwm derchafel i’r Arglwydd, tu ac at waith pabell y cyfarfod, a thu ac at ei holl wasanaeth hi, a thu ac at y gwiscoedd sanctaidd.
22A daethant yn wŷr, ac yn wragedd: pob vn ewyllyscar ei galon a ddugasant fachau, a chlust-dlysau, a modrwyau, a chadwynau eu gyd yn dlysau o aur, a phob gwr yr hwn a offrymmodd offrwm cwhwfan [a offrymmodd] aur i’r Arglwydd.
23A phob vn yr hwn y caed gyd ag ef sidan glâs, neu borphor, neu scarlat, neu sidan gwynn, neu [flew] geifr, neu grwyn hyrddod wedi lliwio yn gochion, neu grwyn daiar-foch ai dugasant.
24Pwy bynnac a offrymmodd offrwm derchafel o arian, neu brês, a ddugasant offrwm derchafel i’r Arglwydd: a phob vn; yr hwn y caed gyd ag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth ai dugasant.
25A phob gwraig gelfydd a nyddodd ai llaw ei hun: ac a ddugasant edafedd, sidan glâs, a phorphor, ac scarlat, a sidan gwynn.
26A’r holl wragedd y rhai y derchafodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant [flew] geifr.
27A’r pennaethiaid a ddugasant feini Onix, a meini iw gosod ar yr Ephod, ac ar y ddwyfronnec.
28A llyssiau, ac olew i’r goleuni, ac #Pen.30.23.i olew yr ennaint, ac i’r arogl-darth llysseuoc.
29Holl blant Israel yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymmu tu ac at yr holl waith yr hwn a orchymynnase yr Arglwydd drwy law Moses ei wneuthur, a ddugasant i’r Arglwydd offrwm ewyllyscar.
30Yna y dywedodd Moses wrth feibion Israel gwelwch, galwodd * yr Arglwydd yn enwedic: Besaleel fab Uri, fab Hur o lwyth Iuda.
31Ac ai llanwodd ef ag yspryd Duw: mewn cyfarwyddyd mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith.
32I ddychymygu cywreinrwydd: i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn prês.
33Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saerniaeth prenn: i weithio ym mhob gwaith cywraint.
34Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddyscu [eraill:] efe, ac Aholiab mab Achisamech o lwyth Dan.
35Llawnodd hwynt a doethineb calon i wneuthur pob gwaith saer a #Exod.26.1.chywreinwaith, a gwaith edef a nodwydd, mewn sidan glâs, ac mewn porphor, ac mewn scarlat, ac mewn sidan gwynn, ac i wau: gan wneuthur pob gwaith, a dychymygu cywreinrwydd.

Dewis Presennol:

Exodus 35: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda