Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 34

34
PEN. XXXIIII.
1 Duw yn peri i Moses wneuthur llechau newydd. 6 Enwau Duw. 9 Moses yn ymbil ar fyned o Dduw gyd a’r bobl. 11 Duw yn addo iddynt wlad Canaan: ac yn eu rhybyddio rhac gau-dduwiaeth y bobl hynny. 18 Am wyl y bara croiw. 19 y cyntafanedic. 21 y Sabboth. 12 Gwyl yr wythnosau a gwyl y pebyll. 26 y blaen ffrwythau. 28 ympryd Moses. 29 discleirdeb ei wyneb ef. 33 A’r llenn tros ei wyneb.
1A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, nâdd it ddwy o lechau cerrig, fel y rhai cyntaf: a mi a scrifennaf ar y llechau y geiriau y rhai oeddynt ar y llechau cyntaf y rhai a dorraist.
2A bydd barod erbyn y borau: a thyret i fyny yn forau i fynydd Sinai, a saf i mi yno ar benn y mynydd.
3Ond na ddeued neb i fynu gyd a thi, ac na weler neb ar yr holl fynydd: na phored hefyd na dafad, nac eidion, ar gyfer y mynydd hwn.
4Yna Moses a naddodd ddwy o lechau cerrig, o fâth y rhai cyntaf, ac a gyfododd yn forau, ac a aeth i fynydd Sinai fel y gorchymynnase yr Arglwydd iddo ef: ac a gymmerodd yn ei law y ddwy lech garreg.
5A’r Arglwydd a ddescynnodd mewn niwl, ac a safodd gyd ag ef yno: ac a gyhoeddodd Iehofa erbyn [ei] henw.
6Canys yr Arglwydd aeth heb law ei wyneb ef, ac a lefodd Iehofa, Iehofa y Duw trugarog, a gras-lawn, hwyr frydic i ddig, ac aml o drugaredd, a gwirionedd.
7Yr hwn sydd yn cadw trugaredd i filoedd gan faddeu anwiredd, camwedd, a phechod: ac heb gifrif [yr anwir] yn gyfiawn, yr hwn #Deut.5.9. Jer.32.18.a ymwel ag anwiredd y tadau ar y plant, ac ar blā y plā hyd y drydedd, a’r bedwaredd [oes,]
8Yna Moses a fryssiodd: ac a ymgrymmodd tua yr llawr, ac a addolodd,
9Ac a ddywedodd os cefais yn awr ffafor yn dy olwg ô Arglwydd, eled fy Arglwydd attolwg yn ein plith ni: er [bod] y rhai hyn yn bobl war-galed, er hynny ti a faddeui ein hanwiredd, a’n pechod, ac a’n etifeddi ni.
10Yntef a ddywedodd #Deut.5.2.wele fi yn gwneuthur cyfammod yng-ŵydd dy holl bobl, gwnaf ryfeddodau y rhai ni wnaed yn yr holl dîr, nac yn yr holl genhedloedd: a’r holl bobl y rhai yr wyt ti yn eu mysc a gânt weled waith yr Arglwydd, mai ofnadwy [yw] yr hyn a wnaf a thi.
11Cadw yr hyn a orchymynnais it heddyw: wele mi a yrraf allan o’th flaen di yr Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd a’r Iebusiaid.
12A #Deut.7.12.chadw arnat rhac gwneuthur cyfammod a phresswyl-wyr y wlad yr hon yr wyt yr ei di iddi: rhac eu bod yn fagl yn dy blith.
13Eithr derniwch eu hallorau hwynt, drylliwch eu delwau hwynt: a thorrwch i lawr eu llwynau hwynt.
14Canys ni chei ymgrymmu i dduw dieithr o blegit yr Arglwydd #Exod.20.5. Exod.23.32. Deut.7.2.eiddigus [yw] ei enw: Duw eiddigus [yw] efe.
15[Gwilia] rhac it wneuthur cyfammod a phresswyl-wyr y tîr: ac iddynt butteinio ar ol eu duwiau, ac aberthu iw duwiau, a’th alw di, ac i tithe fwytta oi haberth.
16A chymmeryd o honot oi #1.Bren.11.2. 1 Cor.8.10.merched i’th feibion: a phutteinio oi merched ar ol eu duwiau hwynt.
17Na wna it dduwiau tawdd.
18Cadw ŵyl y bara croiw, saith niwrnod y bwytei fara croiw fel y gorchymynnais it, yn yr amser gosodedic ar y mîs Abib: o blegit ym #Exod.13.4|EXO 12:7. 22.29|EXO 22:29. Ezec.44.30.mis Abib y daethost allan o’r Aipht.
19Eiddof fi yw pob cyn-fab: a phob cyntafanedic o’th anifeiliaid, yn eidionnau, ac yn ddefaid a gyfrifir [i mi.].
20Ond y cyntaf-anedic i assyn a brynni di ag oen, ac oni phrynni torr ei wddf: pryn hefyd bob cyntaf-anedic o’th feibion, ac nac ymddangosed [neb] ger fy mron yn wag-law.
21Chwe diwrnod y gweithi, ac ar y seithfed dydd y gorphwysi: [yn gystal] yn amser aredic, ac yn y cynhaiaf y gorphywysi.
22Cadw #Exod.23.16.it hefyd ŵyl yr wythnosau [ar] ddechreu y cynhaiaf gwenith: a gŵyl y cynnull [ar] ddiwedd y flwyddyn.
23Tair gwaith yn y flwyddyn: yr ymddengys dy holl wrwyaid ger bron yr Arglwydd Iôr, Duw Israel.
24Canys mi a yrraf y cenhedloedd allan o’th flaen di, ac a helaethaf dy frô di: ac ni chwennych neb dy dîr di pan elech i fynu i ymddangos ger bron yr Arglwydd dy Dduw, dair gwaith yn y flwyddyn.
25Nac offrymma waed fy aberth gyd a bara lefeinllyd: ac nac arhoed aberth gŵyl y Pasc tros nos hyd y borau.
26Dŵg y goref o flaen-ffrwyth dy dir, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw: #Exod.14.21.na ferwa fynn yn llaeth ei fam.
27Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, scrifenna it y geiriau hynn: o blegit #Exod.24.18. Deut.14.21.wrth destiolaeth y geiriau hynn y gwneuthum gyfammod a thi, ac ag Israel.
28Felly efe a fu yno gyd a’r Arglwydd ddeugain nhiwrnod, a deugain nhos heb fwytta bara, ac heb yfed dwfr: tra y scrifennodd efe ar y llechau #Deut.4.13.eiriau y cyfammod [sef] y dec gair.
29A phan ddaeth Moses i wared o fynydd Sinai, a dwy lech y destiolaeth yn llaw Moses, pan ddaeth efe i wared o’r mynydd: ni wydde Moses i groen ei wyneb ddisgleirio, wrth lefaru o honaw ag ef.
30Yna Aaron a holl feibion Israel a edrychasant ar Moses, ac wele groen ei wyneb ef yn discleirio: #2.Cor.3.7.ac ofnasant nessau atto.
31A Moses a alwodd arnynt, ac Aaron a holl bennaethiaid y gynnulleidfa, a ddychwelasant atto: a Moses a lefarodd wrthynt hwy.
32Ac wedi hynny nessaodd holl feibion Israel: ac efe a orchymynnodd iddynt yr hynn oll a lefarase yr Arglwydd ym mynydd Sinai.
33Pan ddarfu i Moses lefaru wrthynt: yna efe #2.Cor.3.13.a roddes lenn gudd ar ei wyneb.
34A phan ddele Moses ger bron yr Arglwydd i lefaru wrtho, efe a dynne ymmaith y llenn gudd nes ei ddyfod allan: a phan ddele efe allan y llefare wrth feibion Israel yr hynn a orchymynnid iddo.
35A meibion Israel a welsant wyneb Moses, [sef] bod croen wyneb Moses yn discleirio: am hynny Moses a roddodd trachefn y llenn gudd ar ei wyneb hyd oni ddele i lefaru wrth Dduw.

Dewis Presennol:

Exodus 34: BWMG1588

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda