Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 16

16
PEN. XVI.
Paul yn enwaedu Timotheus, 9 gweledigaeth Paul, 14 Troad Lydia i’r ffydd, 18 Paul yn bwrw allan yspryd drwg, 22 curo, a charcharu Paul a Silas, a’u rhyfedd ryddhaad.
1Yna y daeth efe i Derbe, ac i Lystra, ac wele, yr oedd yno ryw ddiscybl a’i enw #Rhufein.16.21. Phil.2.19.|PHP 2:19. 1.Thess.3.2. Timotheus mab i ryw wraig yr hon oedd yn credu o Iudaea, ac o dad yr hwn oedd Roeg-wr.
2Hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr y rhai oeddynt yn Lystra ac Iconium.
3Paul a fynne iddo ef ddyfod gyd ag ef, ac ai cymmerth, ac o achos yr Iddewon y rhai oeddynt yn y lleodd hynny efe a’i hen waedodd ef, canys pawb a ŵydde mai Groeg-wr oedd ei dad ef.
4Ac fel yr oeddynt yn ymddaith trwy y dinasoedd, hwy a roesant arnynt gadw yr pyngciau a ordeiniase yr Apostolion a’r henuriaid, y rhai oeddynt yn Ierusalem.
5Felly y cadarnhawyd yr eglwysi yn y ffydd, ac hwy a amlhawyd o rifedi beunydd.
6Ac wedi iddynt drammwy trwy Phrigia, a gwlad Galatia, gwaharddwyd iddynt gan yr Yspryd glân bregethu y gair yn Asia:
7Pan ddaethant i Misia hwy a geisiasant fyned i Bithinia, eithr ni adawodd Yspryd yr Iesu iddynt.
8A myned a wnaethant heb law Misia i wared i Troas.
9Ac fe a ymddangosodd i Paul weledigaeth liw nos, rhyw ŵr o Macedonia a safe, ac a weddie arno, gan ddywedyd: tyret trosodd i Macedonia, a chymmorth ni.
10Er cynted y gwelodd efe y weledigaeth, ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan weled arwyddion diogel, mai yr Arglwydd a’n galwase ni, i bregethu yr efengyl [yno.]
11Ac ni a aethom ymmaith o Troas, ac a gyrchasom yn iniawn i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis.
12Ac oddi yno i Philippi yr hon sydd brif ddinas ym mharthau Macedonia, dinas rydd, ac ni a arhosasom yn y ddinas honno dalm o ddyddiau.
13A’r dydd Sabboth yr aethom allan o’r ddinas i lan yr afon, lle byddid arferol o weddio, lle yr eisteddasom gyd â rhai gwragedd a ddaethent yng-hyd.
14A rhyw wraig a elwid Lydia, yr hon oedd yn gwerthu porphor o ddinas y Thiatiriaid, yr hon oedd yn gwasanaethu Duw, a wrandawodd arnom, yr hon a agorase yr Arglwydd ei chalon i ystirio ar y pethau a ddywedase Paul.
15Ac wedi ei bedyddio hi a’i theulu, hi a ddymunodd, gan ddywedyd: os ydych yn fy marnu i yn ffyddlawn i’r Arglwydd, dewch i mewn i’m tŷ, ac arhoswch: a hi a’n daliodd ni [yno.]
16Ac fel yr oeddem ni yn myned i weddio, fe ddaeth llangces ac ynddi yspryd dewindeb i gyfarfod â ni, yr hon oedd yn peri llawer o elw iw meistriaid wrth ddewiniaeth.
17Hon yn dilyn Paul a ninne, gan ddywedyd: y dynion hyn yw gweision y Duw goruchaf, y rhai sy yn dangos i chwi ffordd iechydwriaeth.
18A hynny a wnaeth hi lawer o ddyddiau, a Phaul yn flin ganddo hyn, a ddychwelodd ac a ddywedodd wrth yr yspryd: gorchymyn yr wyf i ti drwy enw Iesu Grist fyned allan o honi: ac efe a aeth allan yr awr honno.
19Yna pan welodd ei mestred hi fyned heibio obaith eu helw, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac au lluscasant hwy i’r farchnadfa ac y swyddogion:
20Ac hwy ai rhoesant hwy at y llywodraethwyr, ac a ddywedasant: y mae y dynion hyn yn blino ein dinas ni, a hwythau yn Iddewon,
21Ac yn pregethu defodau y rhai nid ydynt rydd i nyni eu derbyn, na’u harfer, y rhai ydym Rufain-wŷr.
22Yna y cyfododd y dyrfa yng-hyd yn eu herbyn hwy, a’r llywodraeth-wŷr a ddrylliasant eu dillad hwy, ac a orchymynnasant eu curo â gwiail.
23Ac wedi dodi llawer gwialēnod iddynt, hwy a’u taflasant i garchar: gā orchymyn i geidwad y carchar, eu cadw hwynt yn ddiogel.
24Yr hwn pan gafodd y fath orchymyn au bwriodd hwy i’r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed yn siccr yn y cyffion,
25Ac fel yr oedd Paul a Silas ganol nos yn gweddio, hwy a ganasant hymnau i Dduw, a’r carcharorion a’u clywsant hwy.
26Ac yn ddysymmwth y bu daiar-gryn mawr, hyd oni siglodd seiliau y carchar, ac yn ebrwydd yr agorodd y drysau oll, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
27A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar a chanfod drysau y carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf, ac a amcanodd ei ladd ei hun: gan dybied ddiangc y carcharorion.
28Yna y llefodd Paul â llef vchel, gan ddywedyd, na wna niwed i ti dy hun, canys yr ydym ni ymma oll.
29Felly y galwodd efe am oleuad, ac y rhuthrodd i mewn, ac a syrthiodd yn ddychrynnedic o flaen Paul a Silas.
30Ac efe au dug hwynt allan, ac a ddywedodd, o feistred beth sydd raid i mi ei wneuthur i fod yn gadwedig?
31Yna y dywedâsant hwy, cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi di a’th deulu.
32A hwy a lefarasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oll a’r a oedd yn ei dy ef.
33Ac efe a’u cymmerth hwy yr awr honno o’r nôs, ac a olchodd eu briwiau, ac efe yn y man a fedyddwyd a’i holl deulu.
34Ac wedi iddo fyned â hwynt iw dy, efe a huliodd ford, ac efe a lawenychodd yn Nuw wedi credu yn Nuw a’i holl dŷ.
35Wedi dyddhau, y llywodraethwyr a anfonasant gennadau, gan ddywedyd: gollwng ymmaith y dynion yna.
36Yna yr adroddodd ceidwad y carchar y geiriau hyn i Paul: y llywodraeth-wŷr a anfonasant i’ch gollwng chwi, yn awr gan hynny cerddwch ymmaith: ewch mewn heddwch.
37Yna y dywedodd Paul wrthynt: wedi darfod iddynt ein curo yn amlwg heb ein barnu, a ninnau yn Rhufeinwŷr, hwy a’n bwriasāt ni i garchar, ac yr awr hon a fynnant hwy ein bwrw ni allan yn ddirgel? nid felly: ond deuant eu hunain a dygant ni allan.
38A’r cennadon a fynegâsant y geiriau hyn i’r llywodraeth-wŷr, ac hwy a ofnasant pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.
39Yna y daethant, ac yr attolygasant arnynt, ac a’u dodasant allan, ac a ddeisyfiasant arnynt fyned allan o’r ddinas.
40Ac wedi iddynt ddyfod allan o’r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia, a phā gawsant weled y brodyr, diddanasant hwynt, ac aethant ymmaith.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda