Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 15

15
PEN. XV.
Ymryson yng-hylch enwaediad, 35. Pabl a Barnabas yn pregethu yn Antiochia, 39. Paul a Barnabas yn ymadel.
1Yna y daeth rhai i wared o Iudæa, ac a ddyscasant y brodyr [gan ddywedyd:] onid enwaedir chwi yn ôl deddf Moses, ni ellwch fod yn gadwedic.
2A phan ydoedd ymryson a oedlau nid bychan gan Paul a Barnabas yn eu herbyn hwy, fe gytunwyd fyned o Paul a Barnabas, ac eraill o honynt hwy i fynu i Ierusalem at yr Apostolion a’r henuriaid yng-hylch y cwestiwn ymma.
3Yna wedi eu danfon hwy ymmaith gan yr eglwys, teithiasant trwy Phænice a Samaria gan fynegu troad y cenhedloedd: ac hwy a wnaethant lawenydd mawr i’r brodyr oll.
4A phan ddaethant i Ierusalem, â’u derbyn gan yr eglwys, a’r Apostolion, a’r henuriaid, hwy a adroddâsant y pethau oll a wnaethe Duw trwyddynt hwy.
5Ond fe gyfododd [ebr hwy] rhai o sect y Pharisæaid yr rhai oeddynt yn credu, gan ddywedyd: mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymyn cadw deddf Moses.
6Yna y daeth yr Apostolion a’r henuriaid i edrych ar yr ymadrodd hwn.
7Ac wedi bod ymddadlau mawr, y cyfododd Petr, ac y dywedodd wrthynt, #Pen.10.20.ha-wŷr frodyr, chwi a ŵyddoch ddarfod i Dduw er ys talm yn ein plith ni fy ethol i, fel y cae y cenhedloedd drwy fyng-enau i glywed gair yr Efengyl, a chredu.
8A Duw adnabydd-ŵr calon, a destiolaethodd gyd â hwynt gan roddi iddynt yr Yspryd glan fel i ninnau.
9Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniad rhyngom ni ag hwynt, gan iddo #Pen.10.45.|ACT 10:45. 1.Cor.1.2. Math.23.4. trwy ffydd lanhau eu calonnau hwynt.
10Ac yn awr pa ham yr ydych chwi yn temtio Duw, gan ddodi iau ar warrau y discyblion, yr hon ni allodd na’n tadau, na ninnau ei dwyn?
11Eithr credu yr ydym, trwy râs yr Arglwydd Iesu Grist ein bod ni yn gadwedic fel hwythau.
12Yna y distawodd yr holl dyrfa, ac y gwrandawsant Barnabas, a Phaul yn mynegu pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint a wnaethe Duw ym mhlith y cenhedloedd trwyddynt hwy
13Ac wedi iddynt ostegu, attebodd Iaco a dywedodd: ha-wŷr frodyr gwrandewch fi.
14Mynegodd Simon i chwi pa wedd yr ymwelodd Duw gyntaf, i gymmeryd pobl iw enw ef o’r cenhedloedd.
15Ac â hyn y cyduna geiriau y prophwydi: megis y mae yn scrifenedic:
16 # Amos.9.11. Yn ôl hyn y dychwelaf, ac yr adnewyddaf Tabernacl Dafydd yr hwn a syrthiase, ac a gyweiriaf ei adwyau, ac ai cyfodaf ail-waith.
17Fel y ceisio dynion eraill yr Arglwydd a’r holl genhedloedd ar ba rai y galwyd fy enw, medd yr Arglwydd yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.
18Yspys i Dduw yw ei weithredoedd oll, er cyn yr oesoedd.
19O herwydd paham, yr ydwyfi yn barnu na ddylid cyffroi y rhai o’r cenhedloedd a droasant at Dduw:
20Eithr scrifennu o honom ni attynt ar ymgadw o honynt oddi wrth halogrwydd delwau, a godineb, a’r peth a dagwyd, a gwaed.
21Canys y mae i Moses ym mhob dinas, er yr hen amseroedd rhai a’r pregethant ef, yn y Synagogau [lle] y darllennir ef bob Sabboth.
22Yna y gwelodd yr Apostolion yn dda a’r henuriaid, yng-hyd a’r holl eglwys anfon gwyr etholedic o honynt i Antiochia gyd â Phaul a Barnabas, [sef] Iudas a gyfenwir Barsabas, a Silas, y gwŷr rhagoraf ym mysc y brodyr:
23Gan scrifennu gyd â hwynt fel hyn, yr Apostolion a’r henuriaid a’r brodyr, at y brodyr y rhai sy o’r cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia yn danfon annerch.
24Yn gymmaint a chlywed o honom ni i rai a aethant allan oddi wrthym ni eich cyffroi chwi â geiriau, gan rwystro eich meddyliau, a dywedyd: rhaid i chwi eich enwaedu a chadw y ddeddf, i’r rhai ni orchymynnasem ni [hynny]
25Ni a welsom yn dda wedi i ni ymgasclu yng-hyd, anfon trwy gytundeb attoch wŷr etholedic gyd â’n hannwyl Barnabas a Phaul:
26Gwŷr a roesant eu bywyd er mwyn enw ein Harglwydd Iesu Grist.
27Ni a anfonasom Iudas a Silas y rhai a fynegant i chwi yr vn rhyw bethau ar eu [tafod] leferydd.
28Canys gwelwyd yn dda i’r Yspryd glân a ninnau, na ddodem arnoch faich amgenach na’r pethau angenrheidiol hyn.
29Bod i chwi ymgadw oddi wrth y pethau a offrymmir i ddelwau, a gwaed, a’r peth a dagwyd, a godineb, oddi wrth y pethau hyn, os chwi a ymgedwch, da y gwnewch: byddwch iach.
30Ac wedi eu gollwng ymmaith, y daethant i Antiochia, ac yn ôl cael y dyrfa yng-hyd, hwy a roesant y llythyr [iddynt.]
31Ac wedi iddynt ddarllen, llawenychu a wnaethant am y cyngor.
32Iudas hefyd a Silas y rhai oeddynt hwythau yn brophwydi, ai cynghorasant a llawer o ymadrodd, ac a gadarnhâsant y brodyr.
33Ac wedi iddynt aros yno ennyd o amser, hwy a ollyngwyd mewn heddwch gan y brodyr at yr Apostolion.
34Er hynny Silas a welodd yn dda aros [yno.]
35A Phaul a Barnabas a arhoesant yn Antiochia, gan ddyscu, ac efengylu gair yr Arglwydd gyd â lliaws eraill.
36Gwedi ennyd o ddyddiau y dywedodd Paul wrth Barnabas, dychwelwn, ac ymwelwn â’n brodyr ym mhob dinas yn y rhai y pregethasom air yr Arglwydd [i weled] pa fodd y maent hwy.
37A Barnabas a gynghorodd gymmeryd gyd â hwynt Ioan yr hwn a elwir Marcus.
38Ond ni wele Paul yn addas ei gymmeryd ef yn eu cymdeithas, yr hwn a dynnase oddi wrthynt o Pamphilia, ac nid aethe gyd â hwynt i’r gwaith.
39Ac yna yr aeth cymmaint o ddigter rhyngddynt hyd oni ymadawodd y naill â’r llall, a Barnabas a gymmerth Marcus gydag ef, ac a foriodd i Cyprus.
40Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymmaith wedi ei orchymyn o’r brodyr i râs Duw.
41Ac efe a drāmwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau yr eglwys.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda