Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 13

13
PEN. XIII.
Am Sergius Paulus: am Elymas a Bariesu. 16 Pregeth Paul. 46 Hyder Paul a Barnbas.
1Yr oedd hefyd yn yr eglwys yr hon ydoedd yn Antiochia rai prophwydi a doctoriaid sef Barnabas, a Simon yr hwn a elwid Niger, a Lucius o Cyrene, a Manahen brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Saul.
2Fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, y dywedodd yr Yspryd glân, Neillduwch i mi Barnabas a Saul i’r gwaith y gelwais hwynt.
3Yna wedi iddynt ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylo arnynt, y gollyngasant hwy ymmaith.
4A hwythau wedi eu danfon ymmaith gan yr Yspryd glân a ddaethant i wared i Seleucia, ac oddi yno y mordwyasant i Cyprus.
5A phan ddaethant i Salamis y pregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd Ioan hefyd yn weinidog iddynt.
6Ac wedi iddynt gerdded yr ynys hyd Paphus, hwy a gawsant ryw swyn-wr, gau brophwyd o Iddew, ai enw Bariesu:
7Yr hwn oedd gyd â’r rhaglaw Sergius Paulus [yr hwn oedd] ŵr call: ac efe a alwodd atto Barnabas a Saul, ac a ddeisyfiodd gael clywed gair Duw.
8Ac Elymas y swyn-wr (sef felly y deonglir ei enw) ai lluddiodd hwynt, gan geisio troi y rhaglaw o’r ffydd.
9Yna Saul (yr hwn hefyd a elwir Paul) yn llawn o’r Yspryd glân, ac yn edrych yn graff arno ef,
10A ddywedodd: ô [vn] llawn o bob dichell a phob dryg-waith, mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi a gŵyro iniawn ffydd yr Arglwydd?
11Ac yn awr, wele law yr Arglwydd arnat, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser ac yn ddiattreg y syrthiodd arno niwlen, a thywyllwch, ac a aeth o amgylch i geisio a’i harweinie mewn llaw.
12Yna y rhaglaw pan welodd yr hyn a wnaethid a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysceidiaeth yr Arglwydd.
13A Phaul a’r rhai oeddynt gyd ag ef, wedi myned ymmaith o Paphus, a ddaethant i Perga yn Pamphylia, eithr Ioan a ymadawodd â hwynt, ac a ddychwelodd i Ierusalem.
14Ac wedi iddynt fyned allan o Perga, y daethant i Antiochia [dinas] o Pisidia, ac hwy a aethant i mewn i’r Synagog ar y dydd Sabboth, ac a eistddasant:
15Ac yn ôl llith o’r ddeddf, a’r prophwydi, rheolwŷr y Synagog a anfonasant attynt, gan ddywedyd, ha wŷr frodyr, od oes gennych air o gyngor i’r bobl: traethwch.
16Yna y cyfododd Paul i fynu gan amnaidio â’i law am osteg ac a ddywedodd: ô wyr o Israel, a’r sawl sydd yn ofni Duw, gwrādewch.
17Duw y bobl hyn o Israel, a etholodd ein tadau, ac a dderchafodd y bobl pan oeddynt yn presswylio yng-wlad yr #Exod.1.9. & 13.14. & 16.1. Aipht, ac â* braich vchel y dug efe hwynt oddi yno allan.
18Ac yng-hylch [yspaid] deugain mhlynedd, y goddefodd efe eu harferau hwynt yn yr anialwch.
19Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choel-bren y #Iosua.14.1. barn.3.9. parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy.
20Ac wedi hynny yng-hylch pen pedwar cant a dêc a deugain o flynyddoedd y rhoddes efe farn-wŷr iddynt hyd yn amser Samuel y prophwyd.
21Ac yn ôl hynny #1.Sam.8.5. & 9.15. & 10.1. y dymunasant frenin, ac fe roddes Duw iddynt Saul fab Cis, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mhlynedd.
22Ac wedi ei ddiswyddo ef y cyfododd #1.Sam.16.13. efe Dafydd yn frenin iddynt, am ba vn y tystiodd efe gan ddywedyd: Cefais Ddafydd fab Iesse, gŵr wrth [fodd] fyng-halon, yr hwn a gyflawna fy holl ewyllys.
23O #Psal.89.21.|PSA 89:21. esai.11.1.|ISA 11:1. Mala.3.1.|MAL 3:1. math.3.1.|MAT 3:1. mar.1.2.|MRK 1:2. luc.3.2. hâd hwn y cyfodes Duw yn ôl ei addewid i Israel yr iachawdr Iesu:
24A phan bregethodd #math3.11.|MAT 3:11. marc.1.7.|MRK 1:7. ioan.1.20.Ioan yn gyntaf o flaen ei ddyfodiad ef fedydd edifeirwch i holl bobl Israel,
25Ac wedi i Ioan gyflawni ei redfa efe a ddywedodd, pwy yr ydych yn tybied fy mod i? nid myfi yw [efe,] eithr wele y mae yn dyfod ar fy ôl yr hwn nid wyf deilwng i ddattod escidiau ei draed.
26Ha-wŷr frodyr, plant o genhedlaeth Abraham, a pha rai bynnac yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hyn.
27O blegit presswylwŷr Ierusalem a’u tywysogion heb adnabod hwn, na lleferydd y prophwydi y rhai a ddarllenid bob Sabboth [ai] cyflawnasant gan farnu [hwn.]
28Ac heb gael ynddo ddim achos angeu a #Math.27.22.|MAT 27:22. marc.15.13.|MRK 15:13. luc.3.23.|LUK 3:23. ion.19.6. ddymunasant ar Pilat ei ladd ef.
29Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a’r a scrifennasid am dano ef y descynnasant ef oddi ar y pren, ac y dodwyd ef mewn monwent.
30(Eithr Duw a’i #Math.28.2.|MAT 28:2. marc.16.6.|MRK 16:6. luc.24.6.|LUK 24:6. ioan.20.13. cyfododd ef i fynu oddi wrth y meirw)
31Yr hwn a welwyd lawer dydd gan y rhai a ddaethe yng-hyd gyd ag ef o Galilæa i Ierusalem, ac sydd in dystion o honaw i lawer o bobl:
32A nyni ydym yn pregethu i chwi yr addewid a wnaed i’r tadau, ddarfod i Dduw ei gyflawni iw plant hwy, sef nyni, gan iddo gyfodi Iesu:
33Megis yr scrifennir yn yr ail psalm, #Psal 2.7.|PSA 2:7. hebr.1.5.|HEB 1:5 & 5.5 Ti yw fy Mab i, myfi heddyw a’th genhedlais.
34Ac am iddo ef ei gyfodi ef o’r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hynn: #Esa. 55.3.|ISA 55:3. pen.2.31. Dodaf i chwi sanctaidd ddisigl [drugareddau] Dafydd.
35Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn lle arall.#Psal.16.11. Ni adewi i’th Sanct weled llygredigaeth.
36Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu trwy ewyllys Duw yn ei oes, a #Pen.2.29.|ACT 2:29. 1.bren.2.10. hunodd, ac a osodwyd gyd âi dadau, ac a welodd lygredigaeth:
37Eithr yr hwn a gyfodes Duw, ni welodd lygredigaeth.
38Am hynny bydded hyspys i chwi, ha wyr frodyr, mai trwy hwnnw yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant am bechodau.
39A thrwy hwn y cyfiawnheir pob vn a’r sydd yn credu ynddo oddi wrth y pethau oll y rhai nis gallent gael eu cyflawni drwy gyfraith Moses.
40Gwiliwch am hynny rhag dyfod arnoch y peth a ddywedir yn y prophwydi.
41 # Haba.1.5. Edrychwch ô ddirmyg-wŷr a rhyfeddwch, a diflennwch ymmaith: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith nis credwch er i neb ei ddangos i chwi.
42Ac wedi eu dyfod hwy allan o Synagog yr Iddewon, yr attolygodd y cenhedloedd bregethu o honynt y geiriau hyn iddynt y Sabboth nesaf.
43Ac wedi gollwng y gynnulleidfa, llawer o’r Iddewon ac o’r proselytiaid bucheddol a ganlynasant Paul a Barnabas, y rhai gan lefaru wrthynt a gynghôrasant iddynt aros yng-râs Duw.
44A’r ail Sabboth y daeth yr holl ddinas agos i wrando gair Duw.
45Eithr pan welwyd y bobl, yr Iddewon a lanwyd o genfigen, ac a wrthwynebasant y geiriau a lefarase Paul, gan ddywedyd yn eu herbyn a’u cablu.
46Yna y llefarodd Paul a Barnabas yn hyf, ac hwy a ddywedâsant, rhaid oedd egluro i chwi air Duw yn gyntaf, eithr gan i chwi ei wrthod, a’ch barnu eich hunain yn anheilwng o fywyd tragywyddol: wele, nyni yn troi at y cenhedloedd.
47Canys felly y gorchymynnodd yr Arglwydd i ni [gan ddywedyd,] #Esai49.6. Gosodais di yn oleuad i’r cenhedloedd i fod o honaw yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar.
48A phan glybu y cenhedloedd, lawenhau a wnaethant, a gogoneddu gair yr Arglwydd, ac fe a gredodd pob cyfryw vn ac a ordeiniasid i fywyd tragywyddol.
49Felly, gair Duw a ddygwyd drwy gwbl o’r wlâd honno.
50A’r Iddewon a annogasant rai o’r gwragedd bucheddol anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac hwy a’u gyrrasant allan o’u terfynau hwynt.
51Hwyntau a #Pen.18.6.|ACT 18:6. math.10.14.|MAT 10:14. mar.6.11.|MRK 6:11. luc.9.5. escydwasant y llwch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwy, ac a ddaethant i Iconium.
52A’r discyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o’r Yspryd glân.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda