Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 12

12
PEN. XII.
Herod yn erlid y Christianogion, yn lladd Iacob, ac yn carcharu Petr, 7 yr angel yn gwared Petr, 20 dig, gwagedd, ac angeu Herod.
1 # 12.1-11 ☞ Yr Epystol ddigwyl Petr. Y Pryd hynny yr estynnodd Herod Frenin [ei] ddwylo i orthrymmu rhai o’r eglwys.
2Canys efe a laddodd Iacob brawd Ioan â’r cleddyf.
3A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hyn, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd ⁋ (a dyddiau y bara croiw ydoedd hi)
4Yr hwn a ddaliodd efe, ac a osododd yng-harchar, ac a’i rhoddodd at bedwar pedwar o filwŷr iw gadw, gan feddwl ar ôl y Pasc ei ddwyn ef allan i’r bobl.
5Felly y cadwyd Petr yn y carchar, a gweddi ddyfal a wnaeth yr eglwys at Dduw drosto ef.
6A phan oedd Herod a’i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nos hon y cyscodd Petr rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a’r gwilwyr oeddyni yn cadw y carchar gyferbyn â’r drŵs.
7 # Pen.5.19. Ac wele, Angel yr Arglwydd a ddaeth ar eu huchaf, a llewyrch a oleuodd yn y carchar: ac efe a darawodd Petr ar ei ystlys, ac a’i cyfododd ef, gan ddywedyd: cyfot yn fuan, a’r cadwyni a syrthiasant oddi am ei ddwylo ef.
8A dywedodd yr Angel wrtho, ymwregysa, a chae dy escidiau: ac felly y gwnaeth efe, yna y dywedodd, gwisc dy ddillad am danat, a chanlyn fi.
9A Phetr a ddaeth allan, ac a’i canlynodd ef, ac ni’s gwybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr Angel, onid efe a dybiodd mai gweled gweledigaeth yr oedd efe.
10Eithr wedi myned o honynt heb law y gyntaf a’r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaethāt i’r porth haiarn, yr hwn sydd yn arwain i’r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o’i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hŷd vn heol, a’r Angel a aeth yn ebrwydd oddi wrtho.
11Yna Petr wedi dyfod atto ei hun a ddywedodd, yn awr y gwn yn wir, i’r Arglwydd anfon ei Angel, a’m gwared fi allan o law Herod, ac oddi wrth disgwiliad holl bobl yr Iddewon.
12Ac wedi iddo gymmeryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair, mam Ioan yr hwn oedd a’i gyfenw Marcus, lle yr oedd llawer wedi ymgasclu, ac yn gweddio.
13Ac wedi i Petr guro drws y porth, morwyn a ddaeth allan i wrando, a’i henw Rhode.
14Yr hon pan adnabu lais Petr, nid agorodd y drws gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn, ac a ddywedodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.
15Hwythau a ddywedasant wrthi, yr wyt ti wedi ynfydu, a hithe a daerodd mai felly yr oedd, eithr hwy a ddywedasant, ei Angel ef yw.
16A Phetr a barhâodd yn curo, ac wedi iddynt agori, hwy a’i gwelsant ef, ac a synnasant.
17Ac efe a amneidiodd arnynt â’i law am dewi, ac a ddangosodd iddynt pa wedd y dugase yr Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, dangoswch hyn i Iaco, ac i’r brodyr, ac efe a aeth allan; ac a aeth i le arall.
18A phan ddyddhâodd hi, yr oedd trallod nid bychan ym mhlith y mil-wŷr, pa beth a ddaethe o Betr.
19Eithr Herod, pan geisiodd ef, ac na’s cafodd, efe a holodd y ceidwaid, ac a orchymynnodd eu cymmeryd hwy ymmaith: yntef a aeth i wared o Iudæa i Cæsarea, ac a arhosodd yno.
20Eithr Herod oedd lidiog yn erbyn gwyr Tyrus a Sidon, a hwynt a ddaethant yn gytun atto, ac wedi ennill Blastus yr hwn oedd stafellydd y brenin, hwy a ddeisyfiasant dangneddyf: am fod eu gwlâd hwynt yn cael ei chynhaliaeth o dir y brenin.
21Ac ar y dydd nodedic yr ymwiscodd Herod yn ei ddillad brenhinol, ac yn eistedd ar yr orseddfaingc efe a ymadroddodd wrthynt.
22A’r bobl a roesant waedd, lleferydd Duw, ac nid dyn.
23Ac allan o law y tarawodd angel yr Arglwydd ef, am na roese y gogonedd i Dduw, a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24A gair Duw a gynnyddodd, ac a amlhâodd.
25Yna Barnabas, a Saul a ddychwelâsant o Ierusalem, wedi cyflawni eu swydd, a chan gymmeryd gyd â hwynt Ioan hefyd yr hwn a gyfenwid Marc.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda