Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 10

10
PEN. X.
Gweledigaeth Cornelius. 11 Gweledigaeth Petr. 18 Petr yn myned at Gornelius. 34 Yn pregethu i’r cenhedloedd, ac am ddescyn o’r Yspryd glân arnynt. 44 Yn eu bedyddio hwynt.
1Yr oedd rhyw ŵr yn Caesarea a’i enw Cornelius canwriad o’r hon a elwid yr Italaidd fyddin.
2[Gŵr] sanctaidd, yn ofni Duw yng-hyd a’i holl dy, ac yn rhoddi llawer o elusenau i’r bobl:
3Ac efe yn gweddio Duw yn oestadol, a welodd yn eglur mewn gweledigaeth yng-hylch y nawfed awr o’r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4Ac yntef yn craffu arno ef, ac wedi ei ofni a ddywedodd: beth yw [hynny] Arglwydd, ac efe a ddywedodd wrtho, yr weddiau, a’th elusenau a dderchafasant yn goffadwriaeth ger bron Duw.
5Ac yn awr anfon di wŷr i Ioppa, a galw am Simon yr hwn a gyfenwir Petr.
6Efe sydd yn lleteua gyd ag vn Simon barcer, tŷ ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth a ddylit ti ei wneuthur.
7A phan ymadawodd yr angel yr hwn oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o’i weision, a mil-wr duwiol o’r rhai oeddynt yn ei wasanaethu ef.
8Pan fynegodd efe iddynt hwy bôb peth, efe a’u hanfonodd hwynt i Ioppa.
9A thrannoeth fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nessau i’r ddinas, Petr a aeth i fynu ar y tŷ i weddio yng-hylch y chweched awr.
10Ac fe a ddaeth arno ef newyn mawr, ac efe a chwennyche gael bwyd, ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno ef lewyg.
11Ac efe a wele y nef yn agored, a rhyw lestr yn descyn arno fel llen-lliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, ac wedi ei gollwng hyd y ddaiar:
12Yn yr hon yr oedd holl anifeiliaid pedwar carnol y ddaiar, a’r bwyst-filod, a’r ymlusciaid, ac ehediaid y nef.
13Ac fe ddaeth llef atto: cyfot Petr, lladd, a bwyta.
14A Phetr a ddywedodd: nid felly Arglwydd: canys ni fwyteais i er ioed ddim cyffredin nac aflan.
15A’r llef [a ddywedodd] wrtho yr ail waith: y peth a lanhâodd Duw na alw di yn gyffredin.
16A hyn a wnaed dair gwaith, a derbynniwyd y llestr eil-waith i’r nef.
17Ac yna yr oedd Petr yn ammau ynddo ei hun, pa beth oedd y weledigaeth yr hon a welse: wele y gwŷr a anfonasid atto oddi wrth Cornelius, a ddaethant hyd y porth, gan ymofyn am dŷ Simon:
18Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynnasant, a oedd Simon yr hwn a gyfenwyd Petr yn lleteua yno?
19Fel yr oedd Petr yn meddwl am y weledigaeth, y dywedodd yr Yspryd wrtho: wele dry-wŷr yn dy geisio:
20Am hynny cyfot, dos i wared, ac yn ddiammau cerdda gyd â hwynt, am i mi eu hanfon hwynt.
21Yna y descynnodd Petr at y gwyr a anfonasid atto oddiwrth Cornelius, ac a ddywedodd: wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio, beth yw yr achos am yr hon y daethoch?
22Hwythau a ddywedasant: Cornelius y canwriad, gŵr cyfiawn, yn ofni Duw, ac a gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan yr angel sanctaidd, i ddanfon am danat iw dŷ, ac i wrando geiriau gennit ti.
23Am hynny efe a’u galwodd hwynt i mewn, ac a’u lleteuodd: a thrannoeth yr aeth Petr ymmaith gyd â hwy, a rhai o’r brodyr o Ioppa a aethant gyd ag ef.
24A thrannoeth yr aethant i mewn i Cæsarea, ac yr oedd Cornelius yn disgwil am danynt, ac efe a alwase ei geraint ai annwyl gyfeillion.
25Ac fe ddarfu fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, ddyfod o Cornelius i gyfarfod ag ef, ac efe a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a addolodd.
26Eithr Petr a’i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd: cyfot, dŷn wyf finne hefyd.
27A thann ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull yng-hyd.
28Ac efe a ddywedodd wrthynt: chwychwi a wyddoch nad yw gyfreithlon i Iddew ymwascu, neu nesau at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.
29Am hynny y daethym attoch yn ddi-nag, o herwydd pa ham y gofynnaf, am ba achos y danfonasoch am danaf?
30A dywedodd Cornelius: er ys pedwar diwrnod hyd yr awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ar y nawfed awr y gweddiais yn fy nhŷ: ac wele, fe a safodd gŵr ger fy mron â gwisc ddisclaer,
31Ac a ddywedodd: Cornelius, dy weddiau di a wrandawyd, a’th elusenau ynt mewn coffa ger bron Duw.
32Am hynny anfon i Ioppa, a galw ymma Simon yr hwn a gyfenwir Petr, y mae hwn yn lleteua yn nhŷ Simon y barcer yng-lann y môr, yr hwn pan ddelo attat, a lefara i ti.
33Yna y danfonais yn ebrwydd attat, a thi a wnaethost yn dda am ddyfod, ac yr awr hon yr ydym ni oll ger bron Duw, i wrando o honom bob peth a’r a orchymynnwyd i ti gan Dduw.
34 # 10.34-48 ☞ Yr Epystol ar ddydd llun y Sulgwyn Yna yr agorodd Petr ei enau, ac a ddywedodd, yn wir yr wyf yn deall, nad yw Duw yn #Deut.10.17. 2.Cro.19.7. Rufein.2.11. Gala.2.6. Ephes.6.9. Coll 3.25. 1Pet.1.17.derbyn wyneb neb.
35Eithr ym mhob cenhedlaeth y neb a’i hofno ef, ac a wnelo gyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.
36Yr hwn ymadrodd a ddanfonodd Duw i feibion yr Israel, gan bregethu tangneddyf yn Iesu Grist, yr hwn sydd Arglwydd pawb oll.
37Chwy-chwi a ŵyddoch y peth a fu yn holl Iudaea, gan #Luc.4.14. ddechreu yn Galilæa, wedi y bedydd a bregethodd Ioan,
38Y modd y darfu i Dduw eneinio Iesu o Nazareth â’r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur gweithredoedd da, ac iachau pawb a’r a oeddynt wedi eu dwyn tann feddiant diafol: canys Duw oedd gyd ag ef.
39Ac yr ydym ni yn dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng-wlad yr Iddewon, ac yn Ierusalem, yr hwn a laddasant hwy, ac a grogâsant ar bren:
40Hwnnw a ddarfu i Dduw ei gyfodi y trydydd dydd, ac a wnaeth ei fod yn amlwg,
41Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, [sef] i ni y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.
42Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i’r bobl, a dwyn testiolaeth mai efe yw hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn farn-wr byw a meirw.
43Gyd â hwn mae yr holl #Pen.15.9. Ierem.31.34 Mich.7.18. brophwydi yn testiolaethu, fod i bawb a gredo ynddo ef gael maddeuant am eu pechodau yn ei enw ef.
44Tra fu Petr yn dywedyd y geiriau hyn, descynnodd yr Yspryd glân ar bawb a glywsant y gair.
45A’r rhai o’r enwaediad a oeddent yn credu, ac a ddaethent gyd â Phetr, a synnasant, am dywallt yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd.
46Canys hwy a’u clywsant hwynt yn ymadrodd â thafodau, ac yn mawrhygu Duw, yna yr attebodd Petr,
47A all neb luddio dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd glân fel ninnau?
48Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd: yna y deisyfiasant arno aros tros enyd o ddyddiau.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda