Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gweithredoedd yr Apostolion 1

1
PENNOD. I.
Geiriau Crist a’i angelion wrth yr Apostolion, 9 derchafiad Crist, 15 dewis Matthias.
1 # 1.1-11 ☞ Yr Epystol ar ddigwyl y Derchafel. Mi a orphennais y traethawd cyntaf ô Theophilus am yr holl bethau y rhai a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a’u dyscu,
2Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fynu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân roddi gorchymyn i’r Apostolion y rhai a etholase efe.
3I’r rhai, wedi iddo ef ddioddef yr ymddāgosodd efe yn fyw trwy lawer o arwyddion siccr, gan fod yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, ac yn ymddiddan yng-hylch pethau o deyrnas Dduw.
4 # Luc.24.49. Ac wrth gyttal â hwynt, efe a orchymynodd iddynt, nad elent ymmaith o Ierusalem, eithr disgwil am addewid y Tad, #Ioan.14.25. yr hwn (eb efe) a glywsoch gennifi.
5 # Pen.2.2. Math.3.11. Mar.1.8. Luc.3.16. Canys Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â’r Yspryd glân cyn nemmawr o ddyddiau.
6Am hynny wedi dy fod o honynt yng-hyd, y gofynnasant iddo gan ddywedyd: Arglwydd ai’r pryd hyn y rhoddi trachefn y frenhiniaeth i Israel?
7Ac efe a ddywedodd wrthynt, ni pherthyn i chwi ŵybod yr amseroedd na’r prydiau y rhai a osodes y Tad yn ei feddiant ei hun.
8 # Pen.2.2. Eithr chwi a dderbynniwch rinwedd yr Yspryd glân, wedi y delo efe arnoch: a chwi a fyddwch dystion i mi yn Ierusalem, ac yn holl Iudæa, a Samaria ac hyd eithafoedd y ddaiar.
9Ac #Luc.24.51. wedi iddo ddywedyd hyn, a hwyntwy yn edrych, y cyfodwyd ef i fynu, ac wybren a’i cymmerodd ef i fynu o’u golwg hwy.
10Ac fel yr oeddynt yn tremmu yn graff tu a’r nef ac efe yn myned, wele, dau ŵr a safasant ger llaw iddynt mewn gwisc wenn.
11Y rhai a ddywedasant: chwi wŷr o Galilæa, pa ham y sefwch yn edrych tu a’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i’r nef, a ddaw yr vn modd ac y gwelsoch ef yn myned i’r nef.
12Yna y troesant i Ierusalem o’r mynydd a elwir [mynydd] Olewydd yr hwn sydd yn agos i Ierusalem, sef taith [diwrnod] Sabboth.
13Ac wedi dyfod i mewn, yr aethant i’r llofft lle yr oeddynt hwy yn aros, sef Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomew a Mathew, Iaco [mab] Alpheus, a Simon Zelotes, ac Iudas [brawd] Iaco.
14A’r rhai hyn oll yn gytunol oeddynt yn parhau mewn gweddi ac ymbil, yng-hyd â’r gwragedd, ac â Mair mam Iesu, a chyd â’i frodyr ef.#1.14-26 ☞ Yr Epystol ar ddigwyl Matthias.
15A’r dyddiau hynny Petr yn cyfodi i fynu yng-hanol y discyblion a ddywedodd (ac yr oedd o rifedi pobl yn yr vn lle yng-hylch vgain [a] chant)
16Ha wŷr, frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr scrythur ymma, yr hon y rhagddywedodd #Psal.41.9. Ioan.13.27. yr Yspryd glân trwy enau Dafydd am Iudas, yr hwn a fu flaenor i’r rhai a ddaliasant yr Iesu.
17Canys cyfrifwyd ef yn ein plith ni, ac efe a gawse rann o’r weinidogaeth hon.
18Ac efe a feddiannodd faes gobrwy anwiredd, ac #Math.27.5. wedi ymgrogi efe a dorrodd yn ddwyran yn ei ganol, a’i holl ymyscaroedd a dywalltwyd allan.
19Ac y mae hyn yn eglur i holl bresswylwyr Ierusalem, hyd oni elwir y maes hwn, â’u tafod priodol hwy, Aceldama, hyn yw, maes y gwaed.
20Canys scrifennedic yw yn llyfr y Psalmau, bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na #Psal.69.25. & 109.7. bydded a drigo ynddi, a chymmered arall ei escobaeth ef.
21Am hynny y mae yn rhaid (o’r gwŷr a fu yn ein cymdeithas ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,
22Gan ddechreu o fedydd Ioan, hyd y dydd yn yr hwn y cymmerwyd ef i fynu oddi wrthym ni) bod vn gyd â ni yn dyst o’r ailgyfodiad ef,
23Ac hwy a osodasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a henwid Bersabas ac a gyfenwid Iustus, a Matthias.
24A chan weddio hwy a ddywedasant: Tydi Arglwydd yr hwn a ŵyddost galōnau pawb, dangos pa vn o’r ddau hyn a etholaist,
25I dderbyn swydd y weinidogaeth hon, a’r Apostoliaeth o’r hon y cyfeiliornodd Iudas, i fyned iw le ei hun.
26Ac hwy a fwriasant goel-brennau, ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gyfrifwyd gyd â’r vn Apostl ar ddêc.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda