Ac fel yr oeddynt yn tremmu yn graff tu a’r nef ac efe yn myned, wele, dau ŵr a safasant ger llaw iddynt mewn gwisc wenn.
Y rhai a ddywedasant: chwi wŷr o Galilæa, pa ham y sefwch yn edrych tu a’r nef? yr Iesu hwn, yr hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i’r nef, a ddaw yr vn modd ac y gwelsoch ef yn myned i’r nef.