Ac yr oeddynt yn parhau beunydd yn y Deml yn gytun, gan dorri bara o dŷ i dŷ, a chan gymmeryd bwyd mewn llawenydd, a symledd calon:
Gan foli Duw, a chael ffafor gan yr holl bobl, a’r Arglwydd a chwanegodd at yr Eglwys beunydd y rhai fyddent gadwedig.