Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2.Machabæaid 5

5
PEN. V.
2 Am yr arwyddion a welwyd yn Ierusalem. 6 Am ddiwedd, ac anwiredd Iason. 11 Antiochus yn ym­lid yr Iddewon. 15 Ac yn speilio ’r Deml. 27 Machabeus yn ffoi i’r diffaethwch.
1Yng-hylch yr amser hwnnw Antiochus a gymmerth ei ail daith i’r Aipht.
2Ac yno y gwelwyd trwy hôll ddinas Ierusalem tros ddeugain nhiwrnod wŷr meirch yn rhedeg yn yr awyr, mewn gwiscoedd aur, a lluoedd o wŷr a gwaiw-ffyn.
3A megis tyrfau o wŷr meirch mewn byddin yn ymdrechu, ac yn rhedeg y naill yn erbyn y llall tan escwyd eu tariannau, a llawêroedd o biccellau, a thynnu cleddyfau, a saethu saethau, a discleirdeb eu harfau aur, a phob math ar lu­rigau.
4Am hynny pôb dyn a weddiodd a’r ddyfod o’r arwyddion hynny i ddaioni.
5Yr awr hon pan aeth chwedl celwydd allan megis pe newidiase Antiochus fyd, Iason a gymmerth nid llai na mil o wŷr, ac a ruthrodd yn ddisymmwth ar y ddinas, ac wedi gorchfygu y rhai oeddynt ar y gaer, ac o’r diwedd ennill y ddinas, fe a ffôdd Menelaus i’r castell.
6Ond Iason a laddodd ei ddinaswŷr ei hunan heb arbed vn, heb feddwl fod llwyddiant yn erbyn ei genedl yn fwyaf a llwyddiant: ond gan dybbied orchfygu ô honaw ei elynion, nid ei gyd­wladwŷr.
7Er hynny ni chafodd mo’r oruchafiaeth, ond yn niwedd ei gynllwyn efe a gafodd gywilydd, ac a ffôdd trachefn, ac a aeth i wlâd yr Ammoniaid.
8Am hynny efe a gafodd ddiwedd ei ddrwg fuchedd, [sef] efe a garcharwyd gyd ag Areta brenin yr Arabiaid, ac a ffôdd o ddinas i ddinas, a phawb yn ei ymlid, ac yn ei gasau megis gwrthodwr y gyfraith, ac yn ei felldithio megis ge­lyn ei wlâd ai ddinaswŷr, ac efe a fwriwyd allan i’r Aipht.
9A’r hwn a barase i lawer gyrwydro allan oi gwlâd, a ddarfu am dano ei hun allan oi wlâd wedi iddo fyned at y Lacedemoniaid, tann obaith i gael yno swccr, o herwydd carennydd.
10A’r hwn a fwriase allan liaws heb eu claddu, ni alarodd neb trosto, ac ni chafodd fedd yn y byd, îe, ni chafodd mo feddrod ei dâdau.
11Ond pan ŵybu ’r brenin y pethau hynny, efe a feddyliodd y syrthie ’r Iddewon oddi wrtho am y pethau a wnaethid: am hynny efe a ddaeth yn gynddeiriog o’r Aipht, ac a ennillodd y ddinas ag arfau.
12Ac efe a orchymynnodd iw fil-wŷr ladd, ac nad arbedent mo’r nêb a gyfarfydde â hwynt, a gwânu y nêb a ddringe iw tai.
13Felly y gwnaed lladdfa ar wŷr ieuaingc ac henaf-gwŷr, a dinistr ar wŷr a gwragedd a phlant, gweryfon hefyd a bechgyn a ddifethwyd.
14Yn gymmaint a difa o honynt bedwar-vgain mîl mewn tri-diwrnodd: Deugain mil a gaeth gludwyd, ac eraill nid llai na’r rhai a laddasid, a werthwyd.
15Ac heb fod yn fodlon er hyn efe a feiddiodd fyned i mewn i’r deml sancteiddiaf yn yr holl fŷd, gan gael iddo yn flaenor Menelaus yr hwn oedd fradyth-wr ei wlâd a’r gyfraith.
16Ac â dwylo sceler efe a gymmerodd y llestri sanctaidd, a pha beth bynnag a roddasid yno iw cadw gan frenhinoedd eraill, er cyn­nydd, a gogoniant, ac amhydedd y man hwnnw, efe ai teimlodd a dwylo aflân.
17Balchîodd Antiochus hefyd, heb ŵy­bod, mai o blegie pechodau y rhai a bresswylent y ddinas y digiase ’r Arglwydd dros ychydig, ac am hynny bod dirmyg ar y man hwnnw.
18Canys, oni buase iddynt hwy syrthio mewn cynnifer o bechodau, hwn hefyd er cynted ag y daethe i mewn wedi ei fflangellu yn ddisymmwth a droesid oddi wrth ei hyfder, megis Heliodorus yr hwn a ddanfonasid oddi wrth Seleucus y brenin i weled y tryssor-dŷ.
19Ond nid o herwydd y lle y dewisase ’r Arglwydd y bobl, ond o herwydd y bobl y dewisase efe y lle [hwnnw.]
20Ac am hynny y lle hwnnw yr hwn a fu yn gyfrannog o adfŷd y bobl, a wnaed wedi hynny yn gyfrannog o ddōniau yr Arglwydd a’r hwn a wrthodwyd yn nigofaint yr Hôll­alluog, a gyweiriwyd trachefn â phôb gogoniant drwy gymmod yr Arglwydd goruchaf.
21Am hynny Antiochus wedi dwyn allan o’r deml fil a phedwar vgain talent, a aeth yn gyflym i Antiochia, gan dybied o wir falchder y galle efe wneuthur y tir yn fôr, a’r môr hefyd yn dir: cyfryw falchder oedd ynddo.
22Ond efe a adawodd swyddogion i orth­rymmu ’r bobl: sef yn Ierusalem, Philip glôr o Phrygia, yrhwn oedd yn ei arferion yn greulonach nâ’r hwn ai gosodase ef.
23Ac yn Garizim Andronicus, ac hefyd Menelaus: yn hwn oedd flinach ir dinaswŷr nâ’r lleill eu gyd, a chanddo galon genfigen­nus yn erbyn yr Iddewon ei wlad-wŷr.
24Ac efe a ddanfonodd Apolonius tywysog melldigedig â llu o ddwy fil ar hugain gan orchymyn iddynt ladd pawb a’r oedd mewn oedran: ond gwerthu ’r gwragedd a’r rhai ieuaingc.
25Yntef pan ddaeth i Ierusalem a gymmerodd arno fôd yn heddychol, ac a ataliodd ei hûn hyd y sanctaidd ddydd Sabboth: ac yna yn cael yr Iddewon yn cadw gŵyl, efe a orchymynnodd iw ryfel-wŷr gymmeryd eu har­faû.
26Ac felly efe a laddodd bawb a’r a aethe allan i edrych arnynt, a chan redeg ymma a thraw trwy ’r ddinas mewn arfau, efe a laddodd liaws.
27Ond Iudas Machabaeus a’ naw eraill gyd ag ef a giliodd i’r anialwch, ac efe ai gydymdeithion a fû fyw yn y mynyddoedd fel anifeiliaid, gan fwyta beûnydd y glaswellt, rhag eu gwneuthur yn gyfrannogion o’r ffieidd-dra hwnnw.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda