Logo YouVersion
Eicon Chwilio

2.Machabæaid 4

4
PEN. IIII.
Simon yn rhoddi anglod i Onias. 7 Iason yn ewyllysio cael yr arch-offeiriadaeth, ac yn llygru y brenin â gwobr.
1Y Simon hwnnw hefyd, am yr hwn y dywedasom o’r blaen, yr hwn oedd fradychwr yr arian ai wlâd, a ddywedodd ddrwg am Onias, megis pe cymmellase efe Heliodorus i hyn, a phe buase yn awdur y drwg.
2Ac efe a feiddiodd alw y gŵr yr hwn oedd yn dda gan y ddinas, ac yn ofalus am ei wlad­wyr, a gŵr mawr ei zêl am y cyfreithiau, yn fradych-wr.
3Pan gynnyddodd y galanastra yn gymmaint a lladd o vn o’r rhai oeddynt gymmeradwy gan Simon gelanedd,
4Onias gan ystyrio enbydrwydd y gynnen hon, a bod Apolonius llywodraethwr Coelosyria, a Phaenicia yn ynfŷdu, ac yn chwanêgu malis Simon, a aeth at y brenin,
5Nid megis cyhuddwr y dinaswyr, ond fel vn yn synnio beth oedd fuddiol i’r hôll bobl yn gyffredinol, ac i bob vn yn nailltuol.
6Canys efe a welodd fôd yn amhossibl cael heddwch o ddieithr i’r brenin gymmeryd trefn yn y materion hyn, ac nad oedd debyg y peidie Symon ai ynfydrwydd.
7Ond wedi marw Selencus, a chymme­ryd o Antiochus a gyfenwid Epiphanes y frenhiniaeth, Iason brawd Onias a chwennychodd yr arch-offeiriadaeth:
8Gan addo i’r brenin er ei chael drychant a thrugain talent o arian, ac o ryw ardreth arall wyth-vgain talent.
9Am ben hyn efe a addawodd dalu dêc a deugain a chant eraill, os canhiadid iddo drwy ei awdurdod ef, i osod campfa ac yscol i’r gwŷr ieuaingc, ac i gydgyfrif dinasyddion Ierusalem ym mysc yr Antiochiaid.
10A phan gafodd efe yr oruchafiaeth drwy fodd y brenin, yn y man efe a ddenodd ei geraint i arferion y Groeg-wŷr.
11Ac a fwriodd i lawr garedigol ragor­fraint yr Iddewon y rhai a gawsent drwy Ioan tâd Eupolemus, (yr hwn a fuase yn gennadwr at y Rhufeinieit i ddymuno caredigrwydd a chytundeb) ac trwy ddattod cyfreithlawn lywodraethau, efe a wnaeth ô newydd ordeiniadau anghyfreithlawn.
12Canys efe a sailiodd gampfa oi wirfodd dan y castell, ac a ddarostyngodd y rhai pennaf o’r gwŷr ieuaingc, ac a barodd iddynt wisco hetiau.
13Ac fel hyn y tyfodd serch i ganlyn arferau y cenhedloedd ac estroniaid drwy ragorol aflendid Iason, nid yr arch-offeiriad ond y dyn annuwiol.
14Yn gymmeint ac nad oedd yr offeiriaid mwyach yn barod i wasanaeth yr allor: ond gan ddirmygu y Deml, ac esceuluso yr ebyrth, yr oeddynt yn prysuro i fod yn gyfrannog o annuwiol edrychiad ei campau, yn ôl taflu ’r garreg:
15Ac heb ganddynt bris am anrhydedd ei tadau, gan gyfrif gogoniant y Groeg-wŷr yn oref.
16O achos yr hyn bethau y daeth arnynt adfyd mawr, tra caffent hwy yn elynion ac yn ddialwyr iddynt, y rhai yr oeddynt yn eu canlyn, ac yn dymuno eu bôd yn gyffelyb iddynt ym mhôb peth.
17Canys nid esmwyth yw gwrthwynêbu cyfraith Dduw, ond yr amser a ddaw a ddengys hyn.
18Pan chwareid yn Tyrus y cynglwysti a arferid bôb pum mhlynedd, a’r brenin yn bresennol,
19Iason y dŷn sceler hwnnw a ddanfone edrychwŷr o Ierusalem yn rhith Antiochiaid, iddwyn trychant dryll o arian tu ag at aberth Hercules, y rhai a ddeisyfient y nêb oedd yn eu dwyn, na threulid yng-hylch yr aberth, o­blegit nad gweddaidd oedd, ond eu harbed i anghenthaid arall.
20Efe a ddanfonodd y pethau hyn tu ag at aberth Hercules: ond er mwyn y neb ai dygent, hwy a rhoddwyd tu ag at wneuthur llongau.
21Wedi danfon Apolonius mâb Menesteus i’r Aipht, i goronedigaeth brenin Ptolomeus yr hwn a gyfenwid Philometor, a gweled ô Antichus ei fod efe yn anffyddlō yn ei fatterion ef, efe a fu ofalus iw gadarnhau ei hun yn ei erbyn ef, am hynny efe a ddaeth i Ioppe, ac oddi yno efe a aeth i Ierusalem.
22Lle y croesawyd ef yn fawr gan Iason a’r ddinas, ac y ddygpwyt ef i mewn â ffaglau ac â llefain, ac yn ôl hyn efe a arweinodd ei lu i Phenicia.
23Hefyd yn ôl tair blynedd Iason a ddanfonodd Menelaus brawd Simon, am yr hwn y cofiasom o’r blaen, i ddwyn arian i’r brenin, ac i wneuthur ei orchymyn ef am bethau anghenraid.
24Ond efe, wedi ei ganmol wrth y brenin, ai mawrygodd yn ei ŵydd, ac a symmudodd yr arch-offeiriadaeth iddo ei hun: canys efe a roddes am dani hi dry-chant talent o arian mwy nag Iason.
25Felly pan gafodd efe orchymynnion oddi wrth y brenin, efe a ddaeth adref heb ynddo ddim yn haeddu yr arch-offeiriadaeth, ond calon tei­ran creulon, a llid anifail gwylir.
26Felly Iason, yr hwn a dwyllase ei frawd ei hun, wedi ei dwyllo gan arall, ai fwrw allan, a ffôdd i wlâd yr Ammoniaid.
27Ond Menelaus pan gafodd yr oruchafiaeth ni ofalodd ddim am yr arian a addawase efe i’r brenin, ond Sostratus ceidwad y castell ai gofynnodd hwy iddo.
28Canys i hwn y perthyne codi ’r pethau a gynhullid o’r trethau: am hynny y ddau hyn a gyrchwyd ger bron y brenin.
29A Menelaus a adawodd yn yr arch-offeiriadaeth Lysimachus ei frawd, a Sostratus a adawodd Crates yr hwn oedd lywodraethwr Ciprus.
30Wedi darfod hyn, y digwyddodd i wŷr Tarsus a Malot wneuthur terfysc [yn erbyn y brenin] o blegit eu rhoddi hwynt i Antiochis gordderch y brenin.
31Am hynny y brenin a ddaeth ar frŷs i ostegu y [derfysc] honno, gan adel Andronicus vn o’r gwŷr pennaf ei awdurdod yn rhaglaw iddo.
32Menelaus hefyd gan dybbio cael o honaw amser cyfaddas, a gymmerth rai o lestri aur y deml ac ai rhoddes i Andronicus, ac a werthodd eraill yn Tyrus a’r dinasoedd oddi amgylch.
33Ac pan ŵybu Onias hyn yn amlwg, efe ai hargyoeddodd, wedi iddo fyned o’r nailldu, i noddfa yn Daphne yr hon sydd yn ymyl Antiochia.
34Am hynny Menelaus a gymmerth o’r nailltu Andronicus, ac ai cymhellodd i ladd Onias: felly efe a ddaeth ac Onias, ac ai cynghorodd ef yn gyfrwys, gan roddi iddo ei law ddeheu ai lw (er ei fod efe yn ei ammeu ef) ac ai dênodd i ddyfod allan o’r noddfa, felly yn ddisymmwth efe ai lladdodd heb ganddo bris am gyfiawnder.
35O herwydd pa ham nid yr Iddewon yn vnic, ond hefyd llawer o’r cenhedloedd eraill a gyffroesant, ac a fu drwm dros ben ganddynt ang-hyfiawn laddiad y gŵr hwn.
36Hefyd pan ddychwelod y brenin i due­ddau Cilicia, yr Iddewon y rhai oeddynt yn y ddinas a achwynasāt wrtho, gan fod y Groeg-wŷr hefyd yn cydsynnio â hwynt o achos adcasrwydd y weithedd, o blegit lladd Onias heb achos.
37Am hynny Antiochusa dristâodd yn fawr yn ei galon, ac a dosturiodd, ac a ŵylodd, o herwydd mawr diriondeb a gostyngeiddrw­ydd yr hwn a laddasid.
38Ac am hynny wedi ei enynnu â digllonedd, efe a ddioscodd Andronicus oi borphor, ac a rwygodd ei ddillad, ac a barodd ei ddwyn ef oddi amgylch y ddinas i’r fan lle y lladdase efe Onias, ac yno y dieneidiodd efe y llofrudd am fod yr Arglwydd yn talu iddo deilwng gospedigaeth.
39Ond yn ôl i Lysimachus wneuthur llawer gweithred ddrwg yn y ddinas drwy gyngor Menelaus, a myned o’r chwedl allan: cynnulleidfa a ymdyrrodd yng-hŷd yn erbyn Lysi­machus, canys yn awr efe a ddugase allan law­er o lestri aur [y deml.]
40A phan gynhyrfwyd y dyrfa â dig, Lysimachus a roes arfau yng-hylch teir mîl o wŷr, ac a gymmerth arno anghyfreithlawn awdurdod, pan oedd vn Auranus yn flaenor iddynt, yr hwn oedd wedi pallu mewn synnwyr ac oedran.
41Ond pan ŵybuont amcan Lysimachus, rhai a geisiasant gerrig, rhai bastynau, a rhai a daflasant ddyrneidiau o’r llwch yr hwn oedd ger llaw ar y rhai oeddynt gyd â Lysinnachus, gan ei gymmeryd fel y dele.
42Trwy ba fodd y clwyfasant lawer o honynt, ac y lladdasant rai, a rhai eraill a yrasant i ffoi, ond anrheithiwr yr eglwys a laddasant ger llaw ’r tryssor-dŷ.
43O blegit hyn barn a osodwyd yn erbyn Menelaus.
44A phan ddaeth y brenin i Tyrus, fe a ddanfonwyd trywŷr oddi wrth y Senat y rhai a achwynasant arno ef.
45Ond Menelaus wedi ei ddal, a addawodd lawer o arian i Ptolomeus fâb Dorymenes, er gwneuthur y brenin yn foddlon.
46Am hynny Ptolomeus a aeth at y brenin mewn gardd lle ’r oedd efe yn ymoeri, ac a droes ei feddwl.
47Yn gymmeint ag iddo ryddhau Menelaus oddi wrth ei holl gyhuddwŷr (er ei fôd efe yn awdur pôb drygioni) a barnu y rhai truain hyn i angeu, y rhai pe dadleuasent eu matter, sef ger bron y Scythiaid, hwy a gawsent, eu gollwng yn ddieuog.
48Fel hyn yn fuan y cospwyd hwy yn ang­hyfiawn y rhai o’r blaen a ddadleuasent dros y ddinas, dros y bobl, a thros y llestri sanctaidd.
49Am hynny gwŷr Tyrus oedd yn gâs ganddynt yr anwiredd hyn, ac a roddasant yn helaeth bôb peth a berthŷne iw claddedigaeth.
50Ond Menelaus trwy gubyddod y rhai oeddynt mewn gallu a wnaed yn fradychwr y dinas-wŷr, ac a arhoes yn ei swydd gan chwanêgu ei falis.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda