2.Machabæaid 15
15
PEN. XV.
2 Nicanor yn amcanu dyfod am ben Iudas ar y dydd Sabboth. 5 Cabl Nicanor. 14 Machabeus yn cyssuro ’r Iddewon, gan ddeongl iddynt y weledigaeth. Gweddi Machabeus. 30 Machabeus yn peri torri ymmaith pen a dwylo Nicanor, a rhoddi ei dafod i’r ehediaid. 39 Yr awdur yn ei escusodi ei hun.
1Nicanor pan ddeallodd fôd Iehudas yn nhueddau Samaria a gymmerth gyngor, pa fodd y galle ddyfod ar eu huchaf hwy ar y dydd Sabboth.
2A phan ddywedodd yr Iddewon, y rhai ai canlynent oi hanfodd, na ddestruwia mo honynt hwy mor greulon, ac mor anrhugarog: eithr dyro ogoniant i’r dydd, yr hwn er ys talm â anrhydeddwyd gan yr hwn sydd yn gweled pôb pôb peth.
3Ond y dŷn sceler ymma a ofynnodd, a ydoedd tywysog yn y nef yr hwn a orchymynnase sancteiddio y dydd Sabboth.
4A phan attebasant, mai ’r bywiol Arglwydd ydoedd y tywysog hwnnw yn y nefoedd, yr hwn a barase gadw y seithfed dydd,
5Yn wir (ebr ef) myfi wyf dywysog arall ar y ddaiar, yr hwn wyf yn gorchymyn i chwi gymmeryd arfau a dwyn i ben fatterion y brenin: ond er hynny ni alle efe ddwyn i ben ei annuwiol amcan.
6Ac yn wîr y Nicanor hwnnw, gan ymdderchafu â mawr falchedd, oedd ai fryd ar wneuthur côf o’r oruchafiaeth a gaffe efe ar y rhai oedd gyd a Iudas.
7Ond Machabeus oedd bôb amser yn ymddyried trwy fawr obaith y dydde ’r Arglwydd yn amddeffynnwr iddo.
8Am hynny efe a annogodd ei wŷr nad ofnent ddyfodiad y cenhedloedd, ond gan fod yn eu côf yr amddeffyn a wnaethe iddynt o’r blaen o’r nef, edrych o honynt yn awr hefyd am oruchafiaeth oddi wrth yr Hôll-alluog.
9Efe ai cyssurodd hwy hefyd allan o’r prophwydi a’r gyfraith: ac am ben hynny efe a gôfiodd iddynt yr ymdrech a wnaethant o’r blaen, ac felly efe ai cyssurodd [hwy,] ac ai gwnaeth yn ewyllyscarach.
10Ac fel yr oedd efe yn dangos iddynt y pethau hynny, efe a ddangosodd iddynt hefyd dwyll ammodau y cenhedloedd, a pha fodd ni chadwasent eu llwon.
11Felly efe a arfogodd bob vn o honynt nid â diogelwch tarianau a gwaiwffyn, eithr â chyssur trwy eiriau da: ac hefyd efe a ddangosodd iddynt freuddwyd credâdwy, ac ai llawenychodd yn fawr.
12A’r breuddwyd hwnnw ydoedd fel hyn: efe a dybbiodd weled o honaw Onias, yr hwn a fuase yn archoffeiriad, gŵr da tros ben, parchedig o bryd: llednais hefyd yn ei arferau, ac yn weddaidd yn treuthu ei eiriau, yr hwn hefyd a lafuriase er yn fachgen ym mhob pethau rhinweddol, yn codi ei ddwylo, ac yn gweddio tros oll bobl yr Iddewon.
13Yna yn yr vn ffunyd yr ymddangosodd iddo ŵr rhagorol mewn oedran, ac anrhydedd, gogoniant pa vn ydoedd ryfedd, a gweddus.
14Yna ’r attebodd Onias, gan ddywedyd: hwn yw Ieremias prophwyd Duw, yr hwn oedd hoff ganddo y brodyr yr hwn a weddiodd yn fynych tros y bobl a’r ddinas sanctaidd.
15[Breuddwydiodd hefyd] estyn o Ieremias ei ddeheulaw a rhoddi iddo gleddyf aur, a phan roddes dywedyd o honaw fel hyn,
16Cymmer gleddyf sanctaidd, rhodd Duw, a’r hwn y torri dy wrthwyneb-wŷr.
17Yna y cymmerasant gyssur o eiriau Iudas y rhai oeddynt felyssiō, a galluog i gynhyrfu calonnau y gwŷr ieuaingc at rinwedd, ac iw gwneuthur yn ŵrol: [am hynny] hwy a fwriadasant, na thale ddim wersyllu, ond rhuthro yn ŵrol [arnynt,] ac wedi iddynt osod arnynt yn rymmus ar vn waith, ddibennu o honynt law i law y matter, yn gymmeint a bôd y ddinas, y lle sanctaidd, a’r deml [hefyd] mewn perigl.
18Canys yr oeddynt yn prissio llai ar berigl eu plant, eu gwragedd, ai brodyr, ai ceraint: ond yr ofn mwyaf a ydoedd arnynt am y deml sanctaidd.
19Hefyd yr oedd yn fawr gofal y rhai oeddynt yn y ddinas, dros y llu yr hwn ydoedd allan.
20Ac fel yr oedd pawb yn disgwil am yr ymladd yr hwn oedd ar ddyfod, a’r gelynnion weithian wedi cyfarfod ag hwynt, a’r llu wedi ymfyddino, a’r anifeiliaid wedi eu naillduo i leoedd cymmwys, a’r gwŷr meirch wedi eu cyfleu yn yr escill.
21Machabeus gan weled dyfodiad y bobl, ac amryw olwg ar arfau, a chreulondeb y bwyst-filod, a gododd ei ddwylo tu a’r nef, ac a alwodd ar yr Arglwydd rhwn sydd yn gwneuthur rhyfeddodau, gan gydnabod nad oedd goruchafiaeth mewn arfau: ond ei fod efe yn rhoddi goruchafiaeth i’r rhai teilwng, megis ac y gwelo efe yn dda.
22Ac wrth weddio efe a ddywedodd fel hyn: ty di Arglwydd a ddanfonaist dy angel yn amser Ezechias brenin Iuda, #2.Bren.19.35.yr hwn a ddifethodd o werssyll Sennachrrib gant a phump a pedwar vgain mil.
23Felly yr awron, ô dywysog y nefoedd, anfon dy Angel da o’n blaen ni, i [beri] ofn ac arswyd.
24Ym mawredd dy fraich di dychrynner y rhai a ddaethant i gablu yn erbyn dy sanctaidd bôbl, a gwedi dywedyd hyn efe a beidiodd.
25Ond y rhai oeddynt gyd a Nicanor, a ddynesasant ag vtcyrn, ac â bloddest.
26A’r rhai oeddynt gyd a Iudas, a aethant yng-hyd ar gelynion drwy weddiau ac ymbil.
27Felly yn wir, gan ymladd ai dwylo, a thywallt ai calonnau eu gweddiau at Dduw, hwy a fwriasant i lawr nid llai na phymtheg mîl ar hugain canys hwy oeddynt yn llawen iawn o herwydd bod Duw yn eglur yn gydrychol iddynt.
28Hefyd fel yr oeddynt yn peidio ai gwaith, ac yn dychwelyd a llawenydd, hwy a ddeallasant ladd Nicanor er maint ei arfau.
29Am hynny hwy a lefasant yn vchel, ac a fendithiasant yr Arglwydd, yn iaith ei gwlâd.
30Hefyd Iudas penn ymddyffynnwr ei ddinaswyr, yng-horph ac enaid, ar hwn erioed a ddygase ewyllys da i’r rhai oeddynt oi genedl ef, a orchymynnodd dorri pen Nicanor ai ddwylo ai yscwydd, ai dwyn i Ierusalem.
31A phan ddaeth efe yno wedi galw ynghyd ei genedl ei hun, a gosod yr offeiriaid ger bron yr allor, efe a alwodd y rhai oeddynt yn y tŵr:
32Ac a ddangosodd ben Niranor sceler a dwylo y cablwr, y rhai a dderchafase efe drwy fawr falchedd yn erbyn tŷ sanctaidd yr hollalluog.
33Ac wedi iddo dorri ymmaith dafod Nicanor annuwiol, efe a ddywedodd y rhodde ef i’r adar iw fwytto yn ddrylliau, ac y croge ef yn obr ei ffolineb ef gyferbyn ar Deml.
34Am hynny pawb a edrychasant tu ar nef ar a fendithiasant yr Arglwydd, gan ddywedyd bendigedig fyddo yr hwn a gadwodd ei fangre ei hun yn ddihalog.
35Yna y crogodd ef ben Nicanor wrth yr allor fel y bydde yn arwydd eglur i bawb o gymmorth yr Arglwydd [iddynt.]
36Am hynny hwy a ordeiniasant eu gyd drwy ddeddf gyffredin, nas gollyngent ddim heibio y dydd hwn heb ei gadw yn sanctaidd.
37A bod cadw ’r ŵyl y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mîs, yr hwn a elwir yn iaith y Syriaid Adar, vn dydd o flaen gŵyl Mardocheus.
38Am hynny gan ddibennu ô weithredoedd Nicanor felly a meddiannu o’r Hebræaid y dinas er yr amser hynny finne hefyd a ddiweddaf ymma.
39Ac os da y gwneuthum, ac megis y gwedde i vn a scrifennai stori, hynny a fynnwn i, oes yn llesc ac yna noeth, hynny iw, yr hyn a allwn ei ddwyn i ben.
40Canys megis ac y mai yn ddrwg yfed gwin o’r nailldu, a gwedi hynny trachefn ddwfr: ac megis y mae gwin wedi ei gymmyseu ddwfr, yn felus, ac yn flasus i felly gosodiad allan y matter, sydd yn flasus i glustiau y rhai a ddarllenant yr ystori ac ymma y bydd diwedd.
Terfyn ail llyfr y Machabæaid.
Dewis Presennol:
2.Machabæaid 15: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.