2.Machabæaid 14
14
PEN. XIIII.
1 Demetrius wedi ei gyffroi gan Alcimus yn danfon Nicanor i ladd yr Iddewon. 18 Nicanor yn gwneuthur ammôdau â’r Iddewon. 29 Ac yn gorfod iddo eu torri hwy oll, gan lid y brenin. 37 Nicanor yn gorchymyn dal Razis, 41 Yntef yn ei ladd ei hun.
1YN ôl Tair blynedd y daeth y gair at Iudas i Demetrius mâb Seleucus, ddyfod trwy borthladd Tripolis ar hyd y dwfr, a chynulleidfa rymmus, ac â llongau.
2A gorescyn y wlâd wedi iddo orchfygu Antiochus ai orchwylwr Lysias.
3Vn Alcimus yr hwn o’r blaen a fuasse yr arch-offeiriad, ond oi wirfodd a ymddifwynase yn amser helbul pan dybiodd nad ydoedd help iddo, na bod yn rhydd mwyach fyned i’r allor sanctaidd. )
4A ddaeth at Demetrius yn yr vnfed flwyddyn ar ddêc a deugain a chant gan roddi iddo goron o aur, a blodeun, a hefyd y ceingeiau y rhai oeddynt yn perthyn i’r deml, a’r dydd hwnnw efe fu lonydd.
5Ond pan gafodd efe amser cyfleus iw gynddaredd, Demetrius a ddanfonodd am dano ef i’r cyngor, ac a ofynnodd iddo mewn pa gyflwr, a pha gyngor yr oedd yr Iddewon yn sefyll, yntef a attebodd i hyn.
6Y rhai o’r Iddewon a elwir Aschidiaid, ar ba rai y mae Iudas Machabeus yn gapten, sydd yn magu rhyfel, ac ymryson, ac ni ddioddefant i’r deyrnas fôd yn heddychol.
7O herwydd hynny myfi wedi fy espeilio am anrhydedd fy henafiaid, sef yr offeiriadaeth, yr awron a ddoethym ymma.
8Yn gyntaf, o blegit fod gennif feddwl ffyddlon, at y pethau perthynasol i’r brenin, yn ail o blegit fy môd yn ymroddi i geisio budd i’m dinaswŷr, o blegit y mae anrheswm y rhai y dywedwyd a’m danynt yn blino nid ychydig ar ein holl genedl ni.
9Tithe hefyd ô frenin gan dy fod yn gŵybod yr hôll bethau hyn, cymmorth ein cenhedlaeth, an gwlâd yr hon sydd mewn ing, ar fâth fwynder ag wyt ti yn ei ddangos i bawb.
10O blegit tra fyddo Iudas nid yw bossibl i’r matterion hyn gael heddwch.
11Wedi iddo ddywedyd hyn cyfeillon eraill y rhai oeddynt mewn gelyniaeth ag Iudas a enynnasant Ddemetrius yn fwy.
12Yr hwn a ddanfonodd ar fyrder am Nicanor llywydd yr Elephantiaid, ac wedi ei wneuthur yn gapten ar Iudea efe ai gyrrodd [allan,]
13Gan roi iddo llythyrau i ladd Iudas, ac i yrru y rhai oeddynt gyd ag ar wascar, ac i wneuthur Alcimus yn arch-offeiriad y deml fawr.
14Yna [y cenhedlaethau] y rhai a ffosent o Iudea oddi wrth Iudas a ymgasclasant yn dyrfau at Nicanor, gan dybbied fod blinder a chwymp yr Iddewon [eraill] yn llwyddiant iddynt hwy.
15Ond pan glybu yr Iddewon ddyfod Nicanor, ac ymgasclu o’r cenhedloedd, hwy gan danu pridd arnynt, a weddiasant ar yr hwn a osododd ei bôbl tros byth, a thrwy amlwg arwydd a amddeffynnodd ei rann ei hun bôb amser.
16Yn ôl hyn wrth orchymyn y capten yn y fan y llu a symudodd oddi yno, ac a gyfarfu wrth gastell Dessa y, ac a darawodd yng-hyd â hwynt.
17Simon hefyd brawd Iudas a gyfarfu â Nicanor, ond fe a synnodd arno ef wrth ddisymmwth ddyfodiad y gelynion.
18Er hynny pan glybu Nicanor ddewrder Iudas, ai lwyddiant wrth ymdrechu yng-hweryl ei wlâd, efe a ofnodd ddibennu y matter wrth ryfel.
19Am hynny efe a ddāfonodd Posidonius, a Theodotus a Mathias i wneuthur tangneddyf.
20Ac wedi cymmeryd o honynt hîr gyngor am y pethau hynny, ac i’r capten ddangos i’r [holl] dyrfa gan weled y farn yn gyson, hwy a gytunasant i’r ammodau.
21Ac hwy a luniasant ddiwrnod yn yr hwn yr oedd yn eu bryd hwy ddyfod yng-hyd yn gyfrinachol, a chadeiriau ydoedd wedi eu gosod i i bôb vn pan ddelent.
22Ac Iudas a osododd wŷr arfog wedi eu paratoi mewn lleoedd cyfleus rhag i’r gelynion gyfodi cynddrygedd yn y byd yn ddisymmwth, ac felly yr oeddynt yn cyd-ymresymmu yn eu plith eu hunain.
23Yna y trigodd Nicanor yn Ierusalem, ac heb wneuthur niwed efe a ollyngodd ymmaith y torfeudd a gasclase efe o’r blaen.
24Ac Iudas oedd bob amser yn ei olwg ef, yn gymmaint ag iddo ymddyried yn y gŵr hwn ai hôll galon.
25Ac efe yn deisyf arno briodi, ac ennill plant, efe a briododd, ac hwy a fuant fyw yn gytun yng-hyd.
26Alcimus pan ganfu efe ewyllys da ’r naill at y llall, a’r ammodau a wnaethid, a gymmerth gyfeillion, ac a ddaeth at Demetrius, ac a ddywedodd fod Nicanor yn ymyrryd mewn matterion dieithr: canys Iudas [heb efe] yr hwn oedd yn cynllwyn am ei frenhiniaeth ef a ordeiniodd efe yn successor.
27Y brenin am hynny a ddigiodd, ac a lidiodd wrth feiau y gŵr anrasol hwnnw, ac efe a scrifēnodd at Nicanor gan ddywedyd ei fod efe yn dra anfodlon i’r ammodau, ac efe a orchymynnodd ddanfon Machabeus ar frys yn garcharor i Antiochia.
28Pan ddaeth hyn at Nicanor fe synnodd arno ef, a chwith fu ganddo, orfod iddo wneuthur yn ofer yr ammodau a fuase rhyngddynt, yn enwedig gan nas gwnaethe ’r gŵr hwnnw niwed.
29Ond o rann nad oedd gymmwys iddo wrthwynebu ’r brenin, efe a wiliodd amser cyfleus i ddwyn hyn i ben drwy gyfrwysdra.
30Ond Iudas gan ŵybod fod Nicanor yn afrywiogach wrtho, a’r gyfeilach arferol yn ddrengach, efe a ddeallodd na ddaeth yr afrywiogrwydd hwnnw o’r meddwl goref, am hynny efe a gasclodd lawer o’r rhai oeddynt yn ei gylch ef, ac a ymnaillduodd oddi wrth Nicanor.
31Y llall hefyd gan ŵybod iddo gael ei dwyllo gan y gŵr (yn ddichellgar) a ddaeth i’r deml fawr sanctaidd, (pan oedd yr offeiriad yn offrymmu yr ebyrth cyfaddas) ac a orchymynnodd roddi y gŵr iddo ef.
32Ond pan dyngasant na ŵyddent pa le yr oedd y gŵr yr oedd efe yn ei geisio, efe a estynnodd ei ddeheulaw tu a’r deml, ac a dyngodd fel hyn,
33Oni roddwch Iudas i mi yn rhwym, mi a wnaf deml Dduw yn faes gwastad, ac a ddisylfaenaf yr allor, ac a adeiladaf ymma deml odidog i Bacchus.
34Ac yn ôl y geiriau hyn efe a aeth ymmaith, yna ’r offeiriaid a godasant eu ddwylo tu a’r nefoedd, ac a ddeisyfiasant ar yr hwn a fuase er ioed yn amddeffynnwr iw cenhedlaeth: gan ddywedyd fel hyn,
35Ti Arglwydd pôb peth yr hwn wyt heb arnat eisieu dim: gwelaist yn dda fôd Teml dy breswylfa yn ein plith ni.
36Herwydd hynny yn awr ti Arglwydd sanctaidd pob sancteiddrwydd, cadw byth y tŷ ymma yn ddihalog, yr hwn yn ddiweddar a lanhauwyd.
37Yna vn Razis (o’r henafiaid y rhai oeddynt yn Ierusalē gŵr yn caru y ddinas, ac yn heuddu clod, ac am hynny o blegit ei ewyllys da, efe a elwid yn dâd i’r Iddewon) a ddygwyd at Nicanor.
38Canys y gŵr hwn amseroedd eraill o’r blaen, pan ydoedd yr Iddewon ai bryd ar eu cadw eu hun yn ddihalog, ac yn bur, a gynnigiodd dreulio ei gorph ai enioes yn ddianwadal er mwyn crefydd yr Iddewon.
39Am hynny Nicanor gan ewyllysio testiolaethu yn eglur ei genfigen yn erbyn yr Iddewon, a ddanfonodd chwaneg na phum-cant o ryfel-wŷr iw ddal ef.
40Canys efe a dybbiodd wedi ei ddal ef, y galle efe ddwyn dinistr ar yr Iddewon.
41Ond y dorf ai bryd ar ennill y castell, a gurasant i lawr y porth, ac a barasant gyrchu tân a llosci ’r pyrth: ac o’r diwedd pan oddynt agos ai ddal, efe a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun.
42Gan fod yn well ganddo farw yn ŵrol, nai ddarollwng tann y rhai sceler hynny, a goddef traha anweddaidd iw fonedd ef.
43A phan fethodd ganddo ef gael ei ddyrnod yn iniawn, a rhuthro o’r lliaws o’r tu mewn i’r pyrth: efe a redodd yn hyf i’r gaer, ac ai bwriodd ei hun yn wrol bendro-mwnwgl ym mysc y dorf.
44A phan giliasant hwy yn fuan, ac ymrannu, efe a ddaeth yn eu mysc hwynt ar ei fol.
45Ac efe etto yn fyw yn llosci o lid, efe a gododd fynu, er bôd ei waed yn rhedeg fel ffrydau, ai weliau yn ofidus, etto [er hynny] efe a rêdodd drwy ganol y bôbl.
46Ac efe a aeth ac a safodd ym mhen craig vchel, wedi colli ei waed oll, ac a dynnodd allan ei berfedd, ac ai cymmerth hwy yn ei ddwylo, ac ai taflodd ar y dyrfa: a chan alw ar Arglwydd y bywyd, a’r yspryd, ar iddo eu rhoddi hwynt iddo truchefn, efe a fu farw fel hyn.
Dewis Presennol:
2.Machabæaid 14: BWMG1588
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beibl Cyssegr-lan. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1588, a’i ddigideiddio i Gymdeithas y Beibl yn 2023.