Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 6

6
PEN. VI.
1 Antiochus yn ewyllysio ennill dinas o fewn Elymais iw hyspeilio, a’r dinassyddion yn ei yrru ef ymmaith. 8 Efe yn clafychu, ac yn marw. 17 Gwneuthur Antiochus ei fab yn frenin. 34 Hwnnw yn amgylchu Sion, Eupator yn dyfod i Iudea â llu mawr. 43 Gwrolaeth Eleazar.
1AC Antiochus y brenin a dramwyodd trwy ’r gwledydd vchaf, ac a glybu fod yn Elymais o fewn Persia ddinas anrhydeddus o olud [sef] o arian ac aur.
2A bod teml gyfoethog lawn ynddi hi, a gwiscoedd, a llurigau, a thariānau o aur y rhai a adawse Alexander mab Philip brenin Macedonia yno, yr hwn a deyrnasase o’r blaen a’r y Groec-wŷr.
3Am hynny efe a aeth, ac a geisiodd ennill y ddinas ai hyspelio hi, ond ni alle efe, o blegit cael o’r dinasyddion ŵybod y peth, ac am hynny hwy a godasant yn ei erbyn ef i ryfel.
4Ond efe a ffôdd, ac a ymadawodd oddi yno mewn tristwch mawr, ac a ddychwelodd i Babilon.
5Hefyd rhyw vn a ddaeth, ac a fynegodd iddo ef yn Persia, ymlid ymmaith y gwerssyll­oedd y rhai a aethent i wlâd Iuda,
6Ac fel yr aethe Lysias â llu cadarn yn gyntaf, ac yr ymlidiesid ef oi blaen hwynt, ac fel yr aethent hwy yn gryfach o ran arfau a llu, ac yspail lawer y rhai a gymmerasent hwy oddi ar y gwerssylloedd a dorrasent hwy ymmaith.
7Ac fel y destruwiasent hwy ’r ffiaiddbeth yr hwn a adeiladase efe ar yr allor yn Ierusalē, ac yr amgylchasent hwy ’r cyssegr â chaerau vchel fel y buase efe o’r blaen, a Bethsura ei ddinas ef hefyd.
8Felly y digwyddodd pan glybu y brenin y geiriau hyn efe a ofnodd, ac a gythruddodd yn ddirfawr: am hynny efe a orweddodd ar ei wely, ac a syrthiodd mewn clefyd oddi wrth y tristwch hwnnw, a’r cwbl am na ddigwyddase iddo ef fel yr amcanase efe.
9Ac efe a arhôdd yno lawer o ddyddiau, canys ei dristwch ef oedd fwyfwy, ac efe a wnaeth gyfrif y bydde efe farw.
10Am hynny efe a ddanfonodd am ei holl garedigion, ac a ddywedodd wrthynt hwy, mae ’r cyscu wedi ymadl â’m llygaid, ac mi a dorrais fyng-halon o wîr ofid.
11O blegit pan feddyliwyf yn fyng-halon i ba drallod y deuthym, ac ym-mha afonydd o drymder yr ydwyf yrywan, lle ’r oeddwn i o’r blaen yn llawen, ac yn gariadus yn fy awdurdod,
12Ac yrywan yr ydwyfi yn cofio ’r drwg a wneuthym i yn Ierusalem, fel y dygais i ymmaith yr holl lestri aur, ac arian a oedd ynddi hi, ac fel y danfonais i ddestruwio trigolion Iuda yn ddiachos.
13Myfi a wn mai am hynny y cefais y drwg ymma, ac wele darfu am danaf fi trwy a­laeth mawr mewn gwlâd ddieithr.
14Yna efe a alwodd am Philip vn oi garedigion, ac ai gosododd ef yn llywodraeth-wr ar ei holl deyrnas,
15Ac a roddes iddo ef ei dalaeth, ai fantell, ai fodrwy, fel y galle efe gymmeryd Antiochus ei fab ef atto, ai ddwyn ef i fynu i deyrnasu.
16Ac Antiochus y brenin a fu farw yno yn y nawfed flwyddyn a deugain a chant.
17Pan ŵybu Lysias farw o’r brenin, efe a osododd Antiochus ei fab ef ideyrnasu yn ei lê ef, yr hwn a ddygase efe i fynu, ac ai galwodd ef Eupator.
18A’r rhai oeddynt yn y castell [yn Ierusalem] a gadwasant yr Israeliaid i mewn yn amgylch y cyssegr, ac a geisiasant eu drygu hwy yn wastadol, er mwyn cadarnhau ’r cenhedloedd.
19Am hynny yr amcanodd Iudas eu destruwio hwy, ac efe a gasclodd yr holl bobl yng­hyd iw hamgylchynu hwy.
20Felly hwy a ddaethant yng-hyd, ac ai hamgylchynasant hwy yn y ddecfed flwyddyn a deugain a chant, ac a wnaethant leoedd i’r tafl-wŷr i sefyll a rhyfel-offer.
21Yna rhai o’r rhai yr oeddyd yn eu hamgylchu a aethant allan, sef o’r gwŷr annuwiol o Israel, ac a lynâsant wrthynt hwy hefyd.
22Ac a aethant at y brenin, ac a ddywedasant, pa hŷd y byddi di heb wneuthur cospedigaeth a dialedd ar ein brodyr ni:
23Yr oeddem ni yn fodlon i wasanaethu dy dâd ti, i rodio fel y dywede efe, ac i vfyddhau iw orchymynnion ef.
24Am hynny ein pobl a ymddieithrasant oddi wrthym ni, a pha le bynnac y cawsant hwy neb o honom ni hwy ai lladdasant hwy, ac hwy a yspeiliasant ein etifeddiaeth ni.
25Ac nid estynnasant hwy eu dwylo yn vnic yn ein herbyn ni, ond yn erbyn ein holl gyffiniau.
26Ac wele y maent hwy wedi gwerssyllu heddyw yn erbyn y castell yr hwn sydd yn Ierusalem i’w orescyn ef, a hwy a gadarnhasant y cyssegr, a Bethsura.
27Ac o ddigerth i ti achub eu blaen hwy yn fuan, hwy a wnant bethau mwyn nâ’r rhain, fel na’s gellech di eu hattal hwy.
28Pan glybu’r brenin hynny, efe a ddigiodd, ac a gasclodd ei holl garedigion yng-hyd, capteiniaid ei lu ai [holl wŷr traed] ai wŷr meirch.
29Yna y daeth atto ef oddi wrth frenhinoedd eraill, ac o ynysoedd y môr lu ar gyflog.
30A rhifedi ei lu ef oedd gan-mil o wŷr traed, ac vgein mil o wŷr meirch, a deuddec ar hugain o elephantiaid wedi eu dyscu i ryfela.
31Y rhai a ddaethant trwy Idumaea i Beth­sura, ac a werssyllasant yn ei herbyn hi tros lawer o ddyddiau, ac a osodasant allan lawer o ryfel offer yn ei herbyn hi, ond [yr Iddewon] a ddaethant allan, ac a loscasant y rheini â thân, ac a ymladdâsant fel gwŷr.
32Yna Iudas a ymadawodd oddi wrth y castell, ac a werssyllodd yn Bethzacaran gyferbyn a gwerssyll y brenin.
33A’r brenin a gyfododd yn foreu, ac a ddygodd y llu ar ruthr i’r ffordd tua Bethzacaran: a’r llu a ymrannodd i ryfela, ac a ganodd vdcyrn.
34Ac hwy a ddangosasant sugyn grawn­win, a mor-wŷdd i’r elephantiaid i’w hannog hwy i’r rhyfel.
35Ac a rannasant yr anifeiliaid ym mysc y byddinoedd, ac a ordeiniasant fil o wŷr wedi eu gwisco mewn llurigau o fodrwryau, ac â helmau o brês am eu pennau i bob elephant, a phump cant o wŷr meirch etholedic a ordeineid hefyd i bob elephant.
36Y rhai a galynent ’r elephant, gan fyned i ba le bynnac yr ele efe, ac ni ymadawent hwy oddi wrtho ef.
37A phob elephant a orchguddiasid â thŵr cadarn o goed wedi ei siccrhau arno ef ag offer, ac yr oedd deuddec ar hugain o ryfel-wŷr ag arfau i ymladd oddi arno efym-mhob tŵr, a gŵr o India [i lywodraethu]’r anifail.
38Ac efe a osododd weddill y gwŷr meirch yn yr ystlysau yn ddwy ran ag vdcyrn i annog, ac i gynhyrfu y rhai diweddaraf o’r llu.
39A phan dywynne yr haul ar eu tariannau hwy o aur, y mynyddoedd a ddiscleirient oddi wrthynt hwy, ac oeddynt cyn loewed a flam dân.
40Ar naill ran o werssyll y brenin oedd yn cyrheddyd hyd at y mynyddoedd vchel, a’r llall hyd at y lleoedd isel, ac felly hwy a aethant yn ddiofal ac mewn trefn.
41A holl trigolion y wlâd a synnasant wrth glywed sŵn eu gwerssyll hwy, a cherddediad y llu a’r arfau yn taro yng-hyd, canys yr oedd y llu yn fawr anianol ac yn gadarn.
42Iudas hefyd ai lu a nessaodd i’r rhyfel, ac a laddodo chwe-chant o wŷr o werssyll y brenin.
43Pan welodd Eleazar mab Abaron vn o’r elephantiaid wedi ei wisco â llurig y brenin, ac yr oedd efe yn vwch na’r anifeiliaid eraill, efe a feddyliodd mai ar hwnnw yr oedd y brenin.
44Am hynny efe a ymroes i achub ei bobl, ac i ennill iddo ei hun enw tragywyddol.
45Am hynny efe a redodd yn galonnoc at yr elephant hwnnw trwy ganol y fyddin, ac ai lladdodd hwy ar y llaw ddehau, ac ar y llaw asswy, oni ymwahanasont hwy oddi wrtho ef o bob tu.
46Ac efe a aeth at draed yr elephant, ac a y­mosododd tano ef, ac ai lladdodd ef: yna ’r elephant a syrthiodd i lawr arno ef, ac efe a fu farw yno.
47Ond pan welodd Iudas ai wŷr gader­nid y brenin a rhuthr y lluoedd, hwy a giliasant oddi wrthynt hwy.
48Ar rhai oeddynt o werssyll y brenin a aethant i fynu yn eu herbyn hwy tu ag Ierusalem, fel y galle ’r brenin werssyllu yn erbyn Iuda a mynydd Sion.
49Hefyd y brenin a wnaeth heddwch rhyngddo a’r Bethsuriaid, ond pan ddaethant hwy allan o’r ddinas (am nad oedd ganddynt hwy borthiant yno i ymgadw ynddi hi o blegit ei bod hi yn Sabboth i’r tîr)
50Y brenin a gymmerodd Bethsura, ac a osododd wŷr iw chadw hi, ac a drôdd ei lu tu a’r cyssegr,
51Ac efe a osododd ryfel wrtho ef tros law­er o ddyddiau, ac a wnaeth yno bôb math ar ryfel-offer, bwâu a gwaith i seuthu tân, a gwaith i seuthu cerrig, scorpionau i seuthu saethau o thaflau.
52Yr Iddewon hefyd a wnaethant ryfel­offer yn eu herbyn hwythau, ac a ymladdasant yn hir o amser.
53Ond nid oedd mor bwyd yn y ddinas o blegit y seithfed flwyddyn oedd hi er pan ddechreuase y rhyfeloedd, âr cenhedloedd y rhai a drigasent o fewn Iuda a fwyttasent eu holl stôr hwy.
54Ac ni adawsid ond ychydig wŷr yn y cyssegr, o blegit newyn ai gorchfygodd hwy oni thynnasant hwy ymmaith pob vn iw le ei hun.
55Pan glybu Lysias fod Philip (yr hwn a osodase Antiochus y brenin pan oedd efe etto yn fyw i ddwyn Antiochus ei fab i fynu i deyrnasu)
56Wedi dyfod trachefn o Persia, a Media â llu ’r brenin, ai fod efe yn ceisio ymyrryd â matterion y frenhiniaeth,
57Yna hwy a frysiasant, ac hwy a annogwyd o’r castell i fyned a dywedyd wrth y brenin a chapteniaid y llu a’r gwŷr [eraill:] yr ydym ni yn deffygio beunydd, ac nid oes cennym ni ond ychydig borthiant, drachefn y lle yr ydym ni yn ei amgylchu sy gadarn, ac angenrheidiol ydyw i ni gymmeryd gofal am y deyrnas.
58Am hynny cymmodwn a’r gwŷr hyn, a gwnawn heddwch rhyngom â hwynt, ac âi holl bobl hwy:
59A chaniatawn iddynt hwynt fyw yn ôl eu cyfraith, fel yr oeddynt hwy o’r blaen, canys y maent hwy wedi eu cythruddo: a hyn oll a wnaethāt hwy yn ein herbyn ni am ddiystyru o honom ni eu cyfreithiau hwynt.
60A’r brenin a’r tywysogion a fuant fodlon, ac a ddanfonasant attynt hwy i gynnig heddwch, ac hwy ai derbynniasant.
61A’r brenin a’r tywysogion a dyngasant iddynt hwy, ac ar hynny hwy a ddaethant allan o’r castell.
62A’r brenin a aeth i fynu i fynydd Sion, ond pan welodd efe gadernid y lle, efe a dorrodd y llw a dyngase efe, ac a orchymynnodd ddestruwio y caerau oddi amgylch.
63Yna efe a ymadawodd ar frŷs, ac a ddych­welodd i Antioch, ac a gafodd Philip yn arglwyddiaethu ar y ddinas, ac a ymladdodd ag ef, ac a orescynnodd y ddinas wrth gryfder.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda