Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1.Machabæaid 7

7
PEN. VII.
1 Demetrius yn teynasu wedi iddo ef ladd Antiochus a Lysias. 5 Efe yn blino plant Israel trwy gyngor dynion drygionus. 37 Gweddi yr offeiriaid yn erbyn Nicanor. 41 Iudas yn lladd Nicanor.
1YN yr vnfed flwyddyn ar ddêc a deugain a chant, Demetrius mab Seleucus a ddaeth o Rufain ag ychydic wŷr i ddinas yng-lann y môr, ac a deyrnasodd yno.
2A phan ddaeth efe i frenhin-dŷ ei henafiaid, ei lu ef a ddaliasant Antiochus a Lysias iw dwyn atto ef.
3A phan ŵybu efe hynny, efe a ddywedodd, na ddangoswch i mi eu hwynebau hwy.
4A’r llu ai lladdodd hwynt, a Demetrius a eisteddodd ar orseddfa ei frenhiniaeth.
5Yna dynion drigionus annuwiol o Israel a ddaethant atto ef, ac Alcimus oedd eu capten hwy, yr hwn oedd yn chwennychu bod yn offeiriad.
6A’r rhain a gyhuddasant y bobl wrth y brenin gan ddywedyd, Iudas ai frodyr a laddasant dy garedigion, ac a’n gyrrasant ni allan o’n gwlâd.
7Am hynny danfon ryw ŵr credadwy yrywan i fyned, ac i weled yr holl ddestruw a wnaeth efe arnom ni, ac ar wlâd y brenin, ac iw gospi ef ai gymhorth-wŷr.
8Yna ’r brenin a ddewisodd Bacrhides caredig y brenin gŵr galluoc yn y deyrnas yn llywodraethu o’r tu draw i’r afon, ac yn ffyddlon i’r brenin, ac ai danfonodd ef.
9Ac efe a wnaeth Alcimus annuwiol yn arch-offeiriad, ac a orchymynnodd iddo ef ddial ar blant Israel.
10Ac hwy a ymadawsant [oddi wrth y brenin] ac a ddaethant â llu mawr i wlâd Iuda, ac a ddanfonasant genadon at Iudas ai frodyr, ac a ddywedasant eiriau heddychol yn dwyllodrus wrthynt hwy.
11Am hynny ni chredodd Iudas ai bobl iw geiriau hwy: canys hwy a welsant ddyfod o honynt hwy â llu mawr.
12Wedi hyn cynnulleidfa o’r scrifennyddion a ymgasclodd at Alcimus a Bacchides i geisio ammodau rhesymmol.
13A’r Asidaiaid oedd y rhai cyntaf ym­mlhith plant Israel a geisiasant heddwch ganddynt hwy,
14Gan ddywedyd, o hâd Aarō y daeth rhyw offeiriad â llu, ac ni wna efe gam â nyni.
15Ac efe a roes eiriau heddychol iddynt hwy, ac a dyngodd wrthynt hwy gan ddywedyd, ni wnawn ni ddrwg i chwi, nac i’n caredi­gion.
16Ac hwy ai credasant ef, ond efe a ddaliodd dri vgeinwr o honynt hwy y diwrnod hwnnw, ac ai lladdodd hwy yn ôl y geiriau a scrifennodd [Dafydd.]
17Hwy #Psal.79.2.a daflasant gnawd dy sainct di, ac a dywalltasant eu gwaed hwy o amgylch Ierusalem, ac nid oedd neb ai cladde hwynt.
18Ac ofn mawr a dychryn a ddaeth ar yr holl bobl gan ddywedyd, nid oes na gwirionedd na chyfiawnder ynddynt hwy, o blegit hwy a dorrasant y llw a’r ammod a wnaethant hwy.
19A Bacchides a ysmudodd ei lu o Ierusalem, ac a werssyllodd yn Beth-zecha, ac a ddanfonodd allan oddi yno, ac a ddaliodd lawer o’r bobl, ac ai taflodd hwy i glawdd mawr.
20Yna efe a orchymynnodd y wlâd i Alcimus, ac a adawodd ryfel-wŷr gyd ag ef iw gymhorth ef, a Bacchides ei hun a aeth at y brenin.
21Ac felly Alcimus â ymegnîodd am yr arch-offeiriadaeth.
22A’r holl rai oeddynt yn cythryblu y bobl a ymgasclasant atto ef, ac a ennillasant wlâd Iuda, ac a wnaethāt ddrwg mawr i’r Israeliaid
23Pan welodd Iudas yr holl ddrwg a wnaethe Alcimus, a’r rhai oeddynt gyd ag ef i’r Israeliaid, mwy nag a [wnaethe] yr cenhedloedd,
24Efe a drammwyodd trwy holl derfynau Iuda oddi amgylch, ac a wnaeth ddialedd ar y gwŷr anffyddlon a ffoasent ymmaith, oni phei­diasant hwy a dyfod mwy i’r wlâd.
25Pan welodd Alcimus fod Iudas a’r rhai oeddynt gyd ag ef yn drêch nag y galle efe eu haros hwy, efe a ddychwelodd at y brenin, ac ai cyhudodd hwynt o ddrygioni.
26Yna ’r brenin a ddanfonodd Nicanor vn oi dywysogion pennaf yr hwn oedd yn casau, ac yn dwyn gelynniaeth i Israel, ac a orchymynnodd iddo ef ddestruwio ’r bobl yn llwyr.
27A Nicanor a ddaeth i Ierusalem â llu mawr, ac a ddanfonodd eiriau heddychol at Iudas ai frodyr ond trwy dwyll, gan ddywedyd,
28Na fydded rhyfel rhwngof â chwychwi, mi a ddeuaf ag ychydig wŷr i weled eich wynebau chwi yn heddychol.
29Felly efe a ddaeth at Iudas, ac hwy a gyfarchasant ei gilydd yn heddychol, ond yr oedd gelynnion yn barod i gippio Iudas i ffordd.
30Etto yspyswyd y peth i Iudas, mai trwy dwyll y daethe efe atto ef: am hynny efe a darfwyd oddi wrtho ef, ac ni fynne efe edrych yn ei wyneb ef mwy.
31Pan wybu Nicanor ddatcuddio ei fwriad ef, efe a aeth allan i ymladd yn erbyn Iudas, yn ymmyl Capharsalama.
32Ac yng-hylch pump mîl o wŷr o lu Nicanor a laddwyd, a’r [llaill] a ffoasant i ddinas Dafydd.
33Wedi hyn Nicanor a aeth i fynu i fy­nydd Sion a rhai o’r offeiriaid, ac henaduriaid y bobl a aethant allan o’r cyssegr i gyfarch iddo ef yn heddychol, ac i ddangos iddo ef y poeth offrymmau yr oeddyd yn eu hoffrwm tros y brenin.
34Ond efe a chwarthodd am eu pennau hwy a’r bobl, ac ai gwatworodd hwy, ac a halogodd eu hoffrymmau hwy, ac a ddywedodd yn drahaus.
35Ac efe a dyngodd yn ei ddig gan ddywedyd, oni roddir Iudas ai werssyll yn fy-nwylo i, pan ddychwelwyf mewn heddwch, myfi a loscaf y tŷ ymma: ac efe a aeth allan mewn digllondeb mawr.
36Yna ’r offeiriaid a ddaethant i mewn, ac a safasant o flaen allor y Deml, gan ŵylo a dywedyd,
37O Arglwydd, ti a ddewisaist y tŷ ymma, i alw ar dy enw di ynddo ef, ac i fod yn dŷ gweddi, ac ymbil i’th bobl.
38Gwna ddialedd ar y gŵr hwn ai werssyll, oni ladder hwy â’r cleddyf, cofia eu cabledigaethau hwy, ac na ddioddef iddynt hwy barhau
39A Nicanor a aeth allan o Ierusalem, ac a werssyllodd yn Bethoron, ac yno llu o Syria a gyfarfu ag ef.
40Ac Iudas a werssyllodd yn Adasa a thair-mîl o wŷr, ac a wnaeth ei weddi gan ddywedyd,
41O Arglwydd, #2.Bren.19.35.am gablu o’r rhai a ddaethent oddi wrth y brenin dydi, yr angel a aeth allan, ac a laddodd gant a phump a phedwar vgain o filoedd o honynt hwy.
42Destruwia felly y gwerssyll hwn o’n blaen ni heddyw, fel y gallo pobl eraill ŵybod, fel y dywedodd efe yn ddrwg am dy gyssegr di, a chospa ef yn ôl ei ddrygioni.
43A’r gwerssylloedd a darawsant yng-hyd y trydydd dydd ar ddêc o’r mis Adar, a llu Nicanor a orchfyged, ac efe ei hun a ladded yn gyntaf yn y rhyfel.
44Pan welodd rhyfelwŷr Nicanor ei ladd ef, hwy a daflasant eu harfau ymmaith, ac a ffoasant.
45Ond[yr Iddewon]ai hymlidiasant hwy daith vn diwrnod, O Adasa nes dyfod i Gazera, ac a ganasant mewn vdcyrn, gan ddangos arwyddion ar eu hôl hwynt.
46A’r [Iddewon] a ddaethant allan o’r holl drefi Iudea oddi amgylch, ac ai herlidiasant hwy, ac hwy a droasant yn eu herbyn hwynt, felly y lladded hwy oll â’r cleddyf, ac ni adawed neb o honynt hwy, naddo vn.
47Yna hwy a gymmerasant yr yspail, a’r sclyfaeth, ac a dortasant ben Nicanor ymmaith, ai law ddehau ef, yr hon a estynnase efe allan cyn falched, ac ai dygasant hi ymmaith gyd â hwy, ac ai crogasant hi i fynu o flaen Ierusalem.
48Am hynny ’r bobl a lawenychasant yn ddirfawr, ac a fwriasant y diwrnod hwnnw trwy orfoledd mawr.
49Ac Iudas a ordeiniodd gadw y diwrnod hwnnw [sef] y trydydd dydd ar ddêc o’r mis Adar yn ŵyl bob blwyddyn.
50Ac felly gwlad Iuda a gafodd heddwch tros ychydig amser.

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda