Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tsephanïah 1

1
PEN I.—
1Gair yr Arglwydd yr hwn a fu at Tsephanïah, fab Cushi, fab Gedalïah, fab Amarïah, fab Hiscïah: yn nyddiau Joshïah, fab Amon brenin Judah.
2Gan ddystrywio y dystrywiaf#derfydd, darfydded. LXX. gan gasglu y casglaf. Vulg. yn dwyn ymaith. Syr. bob peth oddiar wyneb y wlad,
Medd yr Arglwydd.
3Dystrywiaf#darfydded. LXX. gan gasglu. Vulg. yn dwyn ymaith. Syr. ddyn ac anifail,
Dystrywiaf adar yr awyr a physgod y môr;
A’r tramgwyddiadau ynghyd a’r annuwiolion:#a’r annuwiolion a wanychant. LXX. a bydd dinystr ar annuwiolion. Vulg. a dygaf gwymp ar. Syr.
A thoraf ymaith y dyn,#a chymeraf ymaith yr anwiriaid. LXX.
Oddiar wyneb y wlad,
Medd yr Arglwydd.
4Ac estynaf fy llaw ar Judah;
Ac ar holl breswylwyr Jerusalem:
A thoraf ymaith o’r lle hwn weddill#enwau. LXX. Baal;
Enw yr aberthwyr#offeiriaid eilunod. enwau yr offeiriaid. LXX. y temlyddion. Vulg. dewiniaid. Dr. R. W. ynghyd â’r offeiriaid.
5A’r rhai a ymgrymant ar benau y tai i lu y nefoedd:
A’r addolwyr y rhai a dyngant i’r Arglwydd;
A’r rhai a dyngant trwy Malcam.#eu brenin. LXX.
6A’r rhai a giliasant oddiar ol yr Arglwydd:
A’r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd,
Ac nid ymofynasant#ac ni lynasant wrth yr. LXX. am dano.
7Dystawa#ofnwch. LXX. Syr. dystewch. Vulg. ger bron yr Arglwydd lôr:
Canys agos yw dydd yr Arglwydd;
O herwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth,#aberthau. Syr.
Neillduodd ei wahoddedigion.
8A bydd ar ddydd aberth yr Arglwydd;
Yr ymwelaf#y dialaf. LXX. â’r tywysogion ac â meibion y brenin;
Ac â phawb ag a wisgant wisgoedd dyeithr.#yr estron.
9Ac ymwelaf â phob un a neidio ar y trothwy#a dialaf yn amlwg ar y pyrth. LXX. a ddelo i fewn yn drahaus dros y. Vulg. a’r holl dreiswyr ac ysbeilwyr yn y. Syr. yn y dydd hwnw:
Y rhai a lanwant dŷ eu harglwyddi#yr Argl. eu Duw. LXX. Vulg. dinasoedd. Syr. â thrais ac anghyf-iawnder.
10A bydd yn y dydd hwnw, medd yr Arglwydd,
Swn gwaeddi o borth y pysgod#gwanyddion. LXX. pysgotwyr. Syr.
A galarnad o’r ail ran:#ddinas. o’r llall. Syr. o’r ail. LXX. Vulg.
A drylliad mawr o’r bryniau.
11Galerwch, breswylwyr Mactes:#yr hon a dorwyd ymaith. LXX. morter pwyo. Vulg.
Canys dyfethwyd#synodd. Syr. tebygwyd. LXX holl bobl Canaan;#masnach.
Torwyd#darfyddodd. Syr. dystawodd. Vulg. ymaith holl rai llwythog o#ddyrchafwyd gan. LXX. a amdowyd mewn. Vulg. arian.
12A bydd yn yr amser hwnw;
Y chwiliaf Jerusalem â llusernau:#llusern. LXX. Syr.
Ac yr ymwelaf â’r dynion sydd yn ceulo ar eu gwaddod;#ydynt ddirmygus at eu cadwriaethau neu gwyliadwriaethau. LXX., Syr.
Y rhai a ddywedant yn eu calon;
Ni wna yr Arglwydd dda ac ni wna ddrwg.
13A bydd eu cyfoeth#nerth. LXX. Vulg. yn ysbail;
A’u tai yn anrhaith:
A hwy a adeiladant dai ac nis preswyliant ynddynt;
A phlanant winllanoedd;
Ac nid yfant eu gwin hwynt.
14Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd;
Agos ac yn prysuro yn gyflym:#a phrysur iawn. LXX.
Swn#swn dydd yr Argl. a osodwyd yn chwerw a chaled. LXX. yn prysuro y mae swn dydd yr Argl. yn galed a chwerw a chryf Syr. dydd yr Arglwydd sydd chwerw;
Yno y bloeddia#y trallodir. Vulg. dewr.
15Dydd digofaint#nerthol ddydd digofaint. LXX. yw y dydd hwnw:
Dydd trallod a chyfyngder,
Dydd difrod#amrhydlonrwydd. LXX. terfysg. Syr. a dinystr;
Dydd tywyllwch a duedd;
Dydd cymylau a thywyllni.#tymestl. Vulg.
16Dydd udgorn a larwm:#bloedd rhyfel, gwaedd. LXX.
Yn erbyn y dinasoedd caerog;
Ac yn erbyn y tyrau#conglau. LXX. Vulg. Syr. uchel.
17A mi a gyfyngaf ar ddynion,#ddyn. Hebr.
A hwy a rodiant megys deillion;
Am bechu o honynt yn erbyn yr Arglwydd:
A thywelltir#y mae yn tywallt. LXX. eu gwaed fel llwch:
A’u cnawd fel y dom.
18Hefyd eu harian;
Eu haur hefyd,
Ni ddichon eu hachub hwynt,
Yn nydd llid yr Arglwydd;
A chan dân ei eiddigedd Ef;
Yr ysir yr holl wlad:
Canys dinystr hollol,#difrod dychrynllyd. diwedd a brys. LXX. diwedd gyda brys. Vulg. terfysg a diwedd. Syr.
A wna#wnaeth. Syr. ar holl breswylwyr y wlad.

Dewis Presennol:

Tsephanïah 1: PBJD

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda